Neidio i'r prif gynnwys

Cynnal cynhadledd ‘Gweddnewid y Gamp’ fis Ebrill

Cynnal cynhadledd ‘Gweddnewid y Gamp’ fis Ebrill

Mae Undeb Rygbi Cymru’n falch o gyhoeddi y bydd Cynhadledd ‘Gweddnewid y Gamp i Ferched a Menywod’ yn digwydd ar y 26ain a’r 27ain o Ebrill.

Rhannu:

Ymysg y pynciau trafod bydd sesiynau am Atal Anafiadau a Datblygiad Corfforol Athletwyr Benywaidd. Bydd trafodaeth banel yn ogystal am gyflwr y gamp a’r cyfleoedd i hyrwyddo a thyfu’r gêm ymhellach yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Abi Tierney:”Ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn gallu lansio’r gynhadledd arloesol hon am Rygbi Merched a Menywod yng Nghaerdydd. Bydd yn cynnig cyfle i gymeriadau amlwg yn y diwydiant i ddweud eu dweud a chyfrannu at sgwrs gadarnhaol fydd yn llywio’n gêm i’r dyfodol.

“Ry’n ni wedi derbyn cefnogaeth wych gan Atlanta St John a Nicky Ponsford o World Rugby a’n partneriaid Vodafone hefyd wrth drefnu’r gynhadledd. Fe fyddant yn arwain rhai o’n trafodaethau craidd gydag unigolion o fewn Undeb Rygbi Cymru sydd eisoes wedi ‘Gweddnewid y Gamp’ trwy ddefnyddio data a thechnoleg sy’n llywio penderfyniadau ar lefel elît gêm y Menywod.

“Roedd cynnal y gynhadledd ar benwythnos gêm olaf Menywod Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 – pan fydd yr Eidalwyr yn ymweld â Stadiwm Principality – yn gwneud synnwyr perffaith. Mae’r gynhadledd yn barhad o’n hymrwymiad i hyrwyddo rygbi Merched a Menywod yng Nghymru – a ble well i’w chynnal na chartref Rygbi Cymru. ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i’r digwyddiad.”

Ar y diwrnod cyntaf – canolbwynt y sylw fydd ‘Perfformio ar y lefel uchaf’ a bydd Atlanta St John a Nicky Ponsford o World Rugby, ynghyd ag Izzy Moore o Met Caerdydd ymhlith y prif siaradwyr.

‘Dathlu’n Gêm’ fydd thema ail ddiwrnod y gynhadledd pan fydd unigolion ysbrydoledig o’r gêm gymunedol yng nghanol y sylw. Bydd 10 arwres yn cael eu cydnabod gyda gwobrau ‘Diolch’ a bydd 10 o Fenywod sydd wedi cynrychioli Cymru’n y gorffennol – ond sydd heb eto dderbyn eu capiau rhyngwladol – yn cael eu cydnabod yn ffurfiol. Mae hyn yn rhan o’n hymgyrch ‘Capiau Coll’gafodd ei lansio yn 2021. Erbyn hyn mae dros 200 o Fenywod na dderbyniodd gapiau ar y pryd – wedi hawlio’u lle’n haeddiannol yn y llyfrau hanes.

Ar yr ail ddiwrnod hefyd, bydd Cymru’n herio’r Eidal yn Stadiwm Principality a bydd pawb sy’n mynychu’r gynhadledd yn derbyn tocyn am ddim i wylio’r gêm – fydd yn dechrau am 12.15pm. Mae disgwyl i dîm Menywod Cymru dorri eu record y diwrnod hwnnw wrth ddenu’r  dorf fwyaf yn eu hanes i’r achlysur – gan guro’r record grëwyd yn y gêm gartref yn erbyn Lloegr y llynedd.

Bydd y diwrnod drwyddi draw yn ddathliad o Rygbi Menywod yng Nghymru oherwydd wedi’r ornest ryngwladol – bydd Rowndiau Terfynol Domestig y Menywod yn cael eu cynnal yng nghystadlaethau’r Bowlen, y Plât a’r Cwpan.

Gallwch brynu tocynnau ar gyfer gemau cartref Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yma:

WRU.WALES/TICKETS.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert