Neidio i'r prif gynnwys

Craig Maxwell yn cwblhau her a hanner dros elusen ganser

Craig Maxwell yn cwblhau her a hanner dros elusen ganser

10.03.24 - Craig Maxwell a'i deulu yn Stadiwm Principality.

Wedi 26 o ddyddiau, llwyddodd Craig Maxwell i gwblhau ei her gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru er budd elsusen ganser.

Rhannu:

Yn anffodus mae gan y tad i ddau o blant a chyn Gyfarwyddwr Masnachol Undeb Rygbi Cymru, ganser yn ei ysgyfaint nad oes modd ei wella – a phenllanw ei daith brynhawn Sul oedd cyflwyno’r bêl swyddogol ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Ffrainc yn Stadiwm Principality.

Ymunodd ei wraig Tracey a’i blant Isla a Zach  gydag ef ar gyfer y cymal olaf ac fe dderbynion nhw groeso twymgalon gan 71,000 o gefnogwyr yn y Stadiwm.

Mae cronfa’r teulu eisoes wedi codi £877,000 ar gyfer Canolfan Ganser Felindre a’r gobaith yw cyrraedd £1 miliwn yn y pendraw.

Cerddodd dros 600 o bobl gyda Craig Maxwell yn ystod ei daith anhygoel ar hyd y 780 o filltiroedd ar hyd yr arfordir. Mae’r 780 hwnnw’n arwyddocaol gan ei fod yn cynrychioli’r cyfnod o 78 diwrnod gymrodd hi o’r amser y daethpwyd o hyd i’w diwmor – hyd iddo dderbyn cadarnhad o’i gyflwr.

Gosododd Craig Maxwell y targed heriol iddo’i hun o gwblhau’r her mewn 26 o ddyddiau – gan bod cynllun ymchwil QuicDNA yn ceisio lleihau cyfnod y deiagnosis i 26 niwrnod.

Cwblhawyd 90 milltir arall Llwybr yr Arfordir ar gefn beic.

‘Roedd nifer o wynebau cyfarwydd ymhlith y 600 oedd wedi cymryd rhan ar y daith – gan gynnwys Gethin Jones, Rhod Gilbert, Sam Warburton, Jamie Roberts a Josh Navidi. Fe gollodd cyn gapten tîm criced Lloegr Andrew Strauss ei wraig Ruth, o ganlyniad i ganser yr ysgyfaint chwe blynedd yn ôl – ac fe ymunodd gyda’r daith am un o’r cymalau.

Un arall gefnogodd y daith oedd cyn gapten Cymru Jonathan Davies ddywedodd: “Mae beth y mae Craig wedi ei wneud yn anhygoel. Mae wedi gwneud hyn er mwyn dangos i’w blant y gall daioni ddod o’r sefyllfaoedd mwyaf tywyll.”

Wrth gwblhau’r daith, dywedodd Craig Maxwell: “Mae’r gefnogaeth ‘rwyf wedi ei gael gan gyd-gerddwyr a’r cyhoedd wedi bod yn wych.’Roedd cerdded i’r maes gyda’r bêl yn brofiad anhygoel ac emosiynol tu hwnt. ‘Roedd cael y teulu yno gyda mi yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori am byth.

“Byddai’n hyfryd cyrraedd ein targed o filiwn – felly os y gallwch sbario rhywfaint o arian i’n helpu ni i gyrraedd ein targed – byddwn yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert