Neidio i'r prif gynnwys

Y ffordd i’r Principality – byddwch yno

Y ffordd i’r Principality – byddwch yno

Gan bo Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yn dod i ben y penwythnos hwn – bydd Stadiwm Principality yn troi i fod yn ddathliad o’r Gêm Gymunedol wrth i gemau’r Ffordd i’r Principality gyrraedd eu huchafbwynt. Mae Go.Compare yn cefnogi digwyddiadau #RTP2024.

Rhannu:

Rhwng Mawrth y 19eg ac Ebrill y 27ain bydd llu o chwaraewyr o bob oedran yn camu i faes enwog ein Stadiwm Genedlaethol i gystadlu mewn 33 o rowndiau terfynol dros gyfnod o 10 niwrnod bythgofiadwy o rygbi.

Bydd yr holl gemau a dathliadau yn cyrraedd uchafbwynt ar y 27ain o Ebrill pan fydd Tîm Rhyngwladol Menywod Cymru’n herio’r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Bydd yr ornest ryngwladol honno’n cael ei dilyn gan rowndiau terfynol cystadlaethau domestig y Bowlen, y Plat a’r Cwpan ar gyfer y Menywod. Mae’n bosib mai dyma fydd y dathiad mwyaf erioed hyd yma o gamp y Merched a’r Menywod yma yng Nghymru.

Dywedodd Geraint John – Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru: “Mae’r Ffordd i’r Principality yn un o’r dathliadau mwyaf o rygbi yn Ewrop. Dwsinau o dimau, cannoedd o chwaraewyr a miloedd o gefnogwyr yn dod ynghŷd i fwynhau’r rygbi ac i drysori ein gêm gymunedol.

“Mae’r rowndiau terfynol – a’r cyfle i chwarae’n Stadiwm Principality – yn achlysuron bythgofiadwy i’r ysgolion a’r clybiau

“Adeiladwyd y Stadiwm gyda chymorth ein clybiau cymunedol – a dyma’r trydydd tro i’r Undeb ddangos eu gwerthfawrogiad o’r gefnogaeth honno drwy gofleidio’r gêm gymunedol yng nghartref Rygbi Cymru.

“Mae’r tair cyfres o’r Ffordd i’r Principality hyd yma wedi bod yn wych – o safon y gefnogaeth i ansawdd y rygbi hefyd. Mae’r Diwrnod Cynhwysol wedi bod yn ddatblygiad arwyddocaol a llwyddiannus hefyd – sy’n profi unwaith ac am byth bod rygbi’n agored i bawb.

“Os mai rygbi yw calon ein cenedl – yna mae’r Ffordd i’r Principality wrth wraidd Undeb Rygbi Cymru.”

Rhagflas o’r hyn sydd i ddod

Fe ddechreuodd y dathlu ym mis Rhagfyr wrth i Ysgolion Ardal Penybont drechu Mynydd Mawr a Dinefwr i ennill Tarian Dewar (o dan 16) am y tro cyntaf ers 18 mlynedd.

Llwyddodd Coleg Gwent i ddal eu gafael ar goron y Merched i Ysgolion dan 18 trwy guro Coleg Llanymddyfri unwaith eto. Cafodd bechgyn y Coleg well hwyl ar bethau wrth drechu Ysgol Glantaf yn ffeinal o dan 18 yr Ysgolion a’r Colegau.

Creu hanes?

Os y bydd mwy na 8,862 o dorf yn mynychu gêm Menywod Cymru yn erbyn Yr Eidal ar y 27ain o Ebrill – bydd hynny’n torri’r record flaenorol ar gyfer gêm ryngwladol gartref i’r tîm. Y llynedd yn erbyn Lloegr y sefydlwyd y record honno.

Y gobaith pendant eleni yw curo’r record wrth i’r Eidal gael eu croesawu i Stadiwm Principality.

Cofiwch y dyddiad a phrynwch eich tocynnau

Mae Stadiwm Principality yn croesawu cefnogwyr rygbi hen ac ifanc i brofi’r awyrgylch unigryw a bydd modd i’r cyhoedd brynu’r tocynnau canlynol:

Sadwrn y 6ed o Ebrill, Rowndiau Terfynol y Cwpan – Adrannau 5-2 (Dynion)

Sul y 7fed o Ebrill Rowndiau Terfynol Adran 1, Y Bencampwriaeth a’r Uwch Gynghrair.

£10 i oedolion a £5 i’r rhai o dan 17 oed (o fis Ebrill ymlaen): wru.wales/tickets neu os Swyddfa Docynnau URC ar Heol y Porth, Caerdydd.

Mae modd prynu tocynnau Menywod Cymru v Yr Eidal nawr : WRU.WALES/TICKETS – sy’n cynnwys mynediad i’r tair ffeinal ddomestig sy’n ei dilyn.

Bydd rowndiau terfynol Adrannau’r dynion ddydd Sul y 6ed o Ebrill yn cael eu dangos yn fyw ar S4C.

Bydd y gemau eraill yn ystod 10 diwrnod y Ffordd i’r Principality yn cael eu ffrydio ar sianeli YouTubeFacebook yr Undeb.



TREFN GEMAU Y FFORDD I’R PRINCIPALITY 2024
Mawrth y 19eg o Fawrth – Merched

Ffeinal Ysgolion o dan 12 – 11:30 (50 munud o hyd) – Ysgol Godre’r Berwyn v Ysgol Bryn Celynnog
Ffeinal Ysgolion o dan 14 – 13.30 (60 munud) – Ysgol Godre’r Berwyn v Ysgol Bro Dur
Ffeinal Ysgolion o dan 16 – 15.30 (70 munud) – Ysgol Godre’r Berwyn v Ysgol Bro Dinefwr
Ffeinal Ysgolion o dan 18 – 17:30 – (70 munud) – Ysgol Godre’r Berwyn v Coleg C Nedd PT

Mercher yr 20fed  o Fawrth – Gemau Undeb yr Ysgolion

Ffeinal y Plat o dan 18 – 13:00 – Ysgol BRO TEIFI v Ysgol BRO PEDR
Ffeinal y Fâs o dan 18 – 15:15 Ysgol BRO MYRDDIN v Ysgol BRO DINEFWR
Ffeinal y Cwpan o dan 18 – 17:30 Ysgol Y STRADE v Ysgol MAES Y GWENDRAETH

Iau yr 21ain  o Fawrth – Gemau Undeb yr Ysgolion

Ffeinal Powlen DC Thomas o dan 11 – 10:00 (40 mun) Cwm Tawe v Mynydd Mawr a Dinefwr neu Siroedd y Gogledd Ddwyrain.
Ffeinal Plat DC Thomas o dan 11 – 11:30 (40 mun) Casnewydd v Bro Morgannwg
Ffeinal Cwpan DC Thomas – 13:00 (40 mun) Penybont v Pont-y-pŵl.
Ffeinal Cwpan Blwyddyn 9 (Canolradd) – 15:00 (60 mun) Bro Myrddin v Y Pant
Ffeinal Cwpan Blwyddyn 10 (Canolradd) – 17:00 (60 mun) Hwlffordd neu Tonyrefail/Gorll. Mynwy v Bro Morgannwg/Dyffryn Aman

Gwener yr 22ain o Fawrth – Diwrnod Cynhwysol WeSoda

10:00 – 11:50 – Ysgolion Ethnigau Amrywiol
12:00 – 13:35 – Ysgolion Anghenion Arbennig
14:30 – 16:30 – Hybiau Cyn Aelodau o’r Lluoedd Arfog (T1 neu Rygbi Cyffwrdd)
17:00 – 19:30 – Gallu Cymysg (17:30pm)  Port Talbot v Bae Colwyn Bay
19:30 – 22:00 – Gêm Hoyw (20:00) Caerdydd v Wrecsam

Sadwrn y 23ain o Fawrth – Merched a Menywod

Plat Merched o dan 16 – 10:30 Cwins Caerdydd v I’w gadarnhau
Cwpan Merched o dan 16 – 12.30 Cwins Caerdydd v I’w gadarnhau
Plat Merched o dan 18 – 14:30 – Islanders v Timberwolves Teifi

PENCAMPWRIAETH CHWE GWLAD GUINNESS: Cymru v Yr Alban, Parc yr Arfau: 16:45

Cwpan Merched o dan 18 –  19:15 Gwylliaid Meirionnydd/Ravens v Sêr Môn/Ceirw Nant

Mawrth y 26ain o Fawrth

Ffeinal Cwpan yr Ardaloedd (Dynion) 19:30

Gwener y 29ain o Fawrth – Dynion

Powlen Ieuenctid 13:00
Plat Ieuenctid  15:15
Cwpan Ieuenctid 17:30

Sadwrn y 6ed o Ebrill – Dynion

Ffeinal Adran 5 –  11:00 Dinas Powys v Blaendulais
Ffeinal Adran 4 – 13:15 Saraseniaid Casnewydd v Tonna
Ffeinal Adran 3 – 15:30
Ffeinal Adran 2 – 17:45

Sul y 7fed o Ebrill – Dynion – Yn fyw ar S4C

Ffeinal Cwpan Adran 1– 13:00
Ffeinal Cwpan y Bencampwriaeth – 15:15
Ffeinal Cwpan yr Uwch Gynghrair 17:35

Sadwrn 27ain o Ebrill – Menywod – Yn fyw ar S4C

PENCAMPWRIAETH CHWE GWLAD GUINNESS: Cymru v Yr Eidal, Stadiwm Principality: 12:15pm

Ffeinal y Bowlen –  15:00
Ffeinal y Plat – 17:15
Ffeinal y Cwpan – 19:35

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert