Neidio i'r prif gynnwys

Rowndiau Terfynol y Ffordd i’r Principality – Diwrnod 1

Rowndiau Terfynol y Ffordd i’r Principality – Diwrnod 1

19.03.24 Ysgol Bro Dinefwr yn cipio coron o dan 16 oed flwyddyn wedi iddynt ennill y Cwpan o dan 14.

Cafwyd uchafbwynt a hanner i gloi diwrnod agoriadol rowndiau terfynol y Ffordd i’r Principality wrth i ferched Coleg Castell Nedd Port Talbot daro’n ôl i gipio gêm gyfartal yn erbyn Ysgol Godre’r Berwyn yn yr eiliadau olaf un.

Rhannu:

Sgoriwyd 14 o geisiau yn ystod yr ornest ac ‘roedd hi’n ymddangos mai merched ardal Penllyn fyddai’n mynd â hi wrth i bedwerydd cais Lliwen Davies roi 12 pwynt o fantais i’w thîm. Ond gyda 30 eiliad o’r ornest yn weddill tiriodd Mia Teague eu hail gais hi o’r gêm i’w gwneud hi’n 39-39 – ac felly rhannwyd y Cwpan.

Diweddglo siomedig i ddiwrnod siomedig o safbwynt canlyniadau i’r gogs – gan iddyn nhw fethu ag ennill ‘run o’u pedair ffeinal – ond fe gawson nhw ddiwrnod i’r brenin o safbwynt y profiad o chwarae yng nghartref rygbi Cymru.

Yn gynharach yn y dydd, ‘roedd tîm o dan 16 Godre’r Berwyn wedi colli eu rownd derfynol yn erbyn Ysgol Bro Dinefwr. Sgoriodd y buddugwyr 7 o geisiau wrth iddyn nhw ennill o 43-10 yn y pendraw. Arweiniodd y capten a’r wythwr, Erin Jones drwy esiampl ac fe diriodd hi am ddau gais yn ystod yr ornest.

Ysgol Bro Dur enillodd y rownd derfynol o dan 14 oed o 38-14 wrth i’r maswr Isabelle Thomas reoli’r chwarae’n gampus i’r tîm o’r de ac yn y ffeinal o dan 12 oed Bryn Celynnog gipiodd y goron honno. Hawliodd Emie George ac Annie Blain dri chais yr un wrth i’r merched o’r Beddau ennill o 30-17.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert