Neidio i'r prif gynnwys

Crynodeb o drydydd diwrnod rowndiau terfynol y Ffordd i’r Principality

Crynodeb o drydydd diwrnod rowndiau terfynol y Ffordd i’r Principality

21.03.24 Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn dathlu eu llwyddiant.

Ddwy flynedd wedi iddyn nhw ennill Cwpan Blwyddyn 8 – llwyddodd tîm Ffredi Easterby – Ysgol Bro Morgannwg – i gipio coron Blwyddyn 10 trwy guro Ysgol Uwchradd Hwlffordd o 20-18.

Rhannu:

Sgoriodd Jack Evans ddau gais yn yr hanner cyntaf i fechgyn y Fro – ond o ganlyniad i sgôr yr wythwr Harvey Thomas a chicio Niall Smith – bois Sir Benfro oedd ar y blaen o 13-10 wrth droi.

‘Roedd Bro Morgannwg yn meddwl eu bod wedi gwneud digon i ennill wedi i Tomas Powell a Ffredi Easterby dirio wedi troi – ond gan i gapten Hwlffordd Rhys Lewis sgorio’n hwyr i’w dîm – fe gafodd Niall Smith gyfle i wneud pethau’n gyfartal. Rhaid ei ganmol am gymryd y cyfrifoldeb – ond methiant fu ei ymdrech ac felly bechgyn Bro Morgannwg gododd y Cwpan.

Sgorwyr Bro Morgannwg: Ceis: Evans x2, Powell, Easterby.

Sgorwyr Hwlffordd: Ceis: Thomas,Lewis. Tros. Smith. C Cosb: Smith x2

Ysgol y Pant enillodd y Cwpan ar gyfer Blwyddyn 9 wedi iddynt sicrhau buddugoliaeth o  20-5 yn erbyn Ysgol Bro Myrddin.

Y llynedd fe sgoriodd Gavin Williams ddau gais i fois Y Pant yn ffeinal Blwyddyn 8 fel asgellwr – ac eleni fe hawliodd ddau gais arall – fel prop pen tynn!

Ef diriodd unig gais yr hanner cyntaf eleni a chic gosb Jake Davies-Barclay oedd yr unig sgôr arall cyn troi.

Cynyddodd bechgyn Pontyclun eu mantais wedi i Seren y Gêm (Go.Compare) Reegan Gibbons ddangos gwir sgiliau blaen-asgellwr wrth groesi.

Dangosodd Bro Myrddin wir gymeriad wrth daflu popeth at eu gwrthwynebwyr. Pan groesodd Jack Johnson – ‘roedd ganddynt wir obaith o greu sioc – ond wedi i Williams daro eilwaith am yr ail flwyddyn yn olynnol – ‘roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel i Ysgol Y Pant.

Sgorwyr Ysgol Y Pant: Ceis: Williams x2, Gibbons. Tros: Davies-Barclay. C Cosb: Davies-Barclay

Sgoriwr Bro Myrddin: Cais: Johnson

Ysgolion Pont-y-pŵl oedd yn fuddugol yn Rownd Derfynol Cwpan DC Thomas o dan 11 gan iddynt guro Penybont o 35-15.

Gyda Graham Price yn gwylio yn y dorf – fe reolodd bechgyn Gwent yr hanner cyntaf ac adlewyrchwyd hynny ar y sgorfwrdd ar yr egwyl gyda Phont-y-pŵl ar y blaen o 25-0.

Bois Gwent darodd gyntaf wedi troi hefyd wrth i Harri Williams hawlio’i ail gais o’r prynhawn – a seithfed ei dîm – ond parchuswyd y sgôr yn sylweddol o safbwynt Penybont o ganlyniad i geisiau Stuart Williams, Harri Barker a’r amryddawn Taylor James.

Sgorwyr Pont-y-pŵl: Ceis: Harper x2, Williams x2, Blake, Pearce, Sargent.

Sgorwyr Penybont: Ceis: Williams, Barker, James.

Yn Ffeinal y Plat o dan 11 fe sicrhaodd eu perfformiad yn ystod yr ail hanner bod ardal Bro Morgannwg yn rhy gryf i Gasnewydd. ‘Roedd hi’n 20-20 ar yr egwyl cyn i fechgyn y Fro ddyblu eu cyfrif a’u mantais yn ystod yr ail hanner mewn gêm o 12 cais. Matthews (x2), Lowry, Johnson, Rhoden, Roberts,Hall a Quy diriodd dros y Fro tra Howells (x2), Hanley-Hill ac Elijah Robinson (mab cyn-asgellwr Cymru Matthew) sgoriodd dros Gasnewydd.

Yn Rownd Derfynol y Bowlen, Mynydd Mawr a Dinefwr aeth â hi yn erbyn Cwm Tawe’n bennaf o ganlyniad i dri chais Owen Tancock. Cai Canton a Danter sgoriodd geisiau eraill y buddugwyr o 25-15 tra i Rio Jones, Noa Evans a Vinny Hall dirio dros Gwm Tawe.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert