Neidio i'r prif gynnwys

Caryl yn camu o’r cae rhyngwladol i rôl gymunedol

Caryl yn camu o’r cae rhyngwladol i rôl gymunedol

Caryl Thomas wrth ei gwaith

Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyhoeddi bod cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Caryl Thomas wedi ei phenodi fel Arweinydd Cymunedol yr Undeb ar gyfer gêm y Merched a’r Menywod yng Nghymru.

Rhannu:

Enillodd y prop rhyngwladol 65 o gapiau rhwng 2006 a’r llynedd pan benderfynodd ymddeol o’r gamp fel chwaraewr. Fe gynrychiolodd ei gwlad mewn pedair cystadleuaeth Cwpan y Byd yn ystod ei gyrfa nodedig a bu’n chwaraewr proffesiynol am flwyddyn olaf y cyfnod hwnnw.

Yn dilyn proses gyfweld drylwyr, penodwyd Thomas fel rhan o’r tîm i hyrwyddo’r gamp yn y gêm gymunedol – penodiad allweddol arall yn nhwf Rygbi Merched a Menywod yng Nghymru.

Mae Caryl Thomas, sy’n dod yn wreiddiol o Sir Gâr yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae ganddi dros ddau ddegawd o brofiad o weithio ym maes Datblygu Chwaraeon, Rheoli a Chynnydd Cymdeithasol drwy’r byd chwaraeon.

Bu’n hyfforddwr rygbi Merched a Menywod ar lawr gwlad ac yn ddiweddar mae hi wedi bod yn datblygu strategaethau a phartneriaethau ar draws De Orllewin Lloegr.

Bydd hi’n gadael ei swydd gyda Sefydliad Cymunedol Clwb Rygbi Caerfaddon ac yn dychwelyd i Gymru i ddiwallu’r angen cynyddol am ddarpariaeth rygbi cymunedol yng nghamp y Merched a’r Menywod.

Cynrychiolodd Thomas ei gwlad am y tro diwethaf ym muddugoliaeth Cymru o 36-10 yng ngêm olaf Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2023 – olygodd bod tîm Ioan Cunningham yn hawlio’u lle yn y WXV1 yn Seland Newydd ar gyfer chwe thîm gorau’r byd.

Mae Caryl Thomas yn cael ei pharchu’n fawr fel chwaraewr a hyfforddwr a bu’n hyfforddi blaenwyr Gwalia Lightning yn ystod yr Her Geltaidd eleni.

Dywedodd Caryl Thomas: “Mae’n freuddwyd cael y cyfle i wneud y swydd yma. ‘Rwy’n hynod o gyffrous am beth sydd i ddod gan mod i’n angerddol am rygbi Merched a Menywod. Mae gennym bobl dda ac isadeiledd yn ei le i wneud yn siwr bod y ddarpariaeth yn gwella a chryfhau.

“Mae cael fy mhenodi i’r rôl hon yn golygu y gallwn osod targedau a seiliau cadarn i dwf y gamp yn y gêm gymunedol – sef calon y byd rygbi yma yng Nghymru.

“Mae’n hynod o bwysig ein bod yn creu’r cyfleoedd i Ferched godi pêl neu fod yn rhan o dîm, sydd wedyn yn gallu arwain at syrthio mewn cariad gyda’r gêm am byth.

“Creu llwybrau datblygu ac awyrgylch addas ar gyfer Merched, gan hefyd gryfhau isadeiledd yw rhai o’n prif flaenoriaethau – fel y gallwn ddenu mwy o bobl at ein gêm a’u cadw gyda ni am flynyddoedd lawer wrth i ni geisio meithrin talentau’r genhedlaeth nesaf. Un o’n prif dargedau fydd yr oedrannau rhwng 8-18 a byddwn yn cydweithio gyda’r clybiau cymunedol, yr ysgolion a’r Hybiau er mwyn cynyddu’r niferoedd sy’n chwarae rygbi.

“Bydd yn rhaid i mi ennill parch ac ymddiriedaeth y bobl sydd yn gweithio mor galed ar lawr gwlad. Un o’r pethau cyntaf y byddaf yn ei wneud yw mynd mas i gwrdda’r clybiau, ysgolion a phartneriaid er mwyn gwrando arnynt a dod i ddeall yr heriau sy’n ein wynebu. Gallwn wedyn lunio cynllun fydd yn tynnu pawb i’r un cyfeiriad er mwyn cynyddu’r niferoedd o Ferched sy’n chwarae rygbi Merched a Menywod.

“Mae gennym dalent aruthrol yng Nghymru a’r gallu i weld twf sylweddol yn y niferoedd sy’n chwarae rygbi. Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr bod y cyfleoedd ar gael i Ferched fwynhau’r gêm a bod cefnogaeth ar gael iddynt wireddu eu potensial fel chwaraewyr.

Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi: “Er i nifer fawr o bobl gymwys a brwdfrydig ymgeisio am y swydd bwysig hon o fewn yr Undeb – Caryl oedd yr ymgeisydd cryfaf.

“Mae pawb yn gwybod am ei gallu ar y cae – ond mae ei phrofiad diweddar oddi ar y maes chwarae – yn enwedig felly ei gwaith i ddatblygu chwaraeon a newid cymdeithasol trwy fyd y campau, yn tanlinellu ei gallu i gyflawni’r swydd gyffrous hon.

“Bydd rôl Caryl yn hollol allweddol i strategaeth yr Undeb wrth i ni arwain y twf yng nghamp y Merched a’r Menywod yma yng Nghymru.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert