Neidio i'r prif gynnwys

Cyfle arall i wylio newid byd carfan ‘Stryd i’r Sgrym’

Cyfle arall i wylio newid byd carfan ‘Stryd i’r Sgrym’

Rhian ac Alys dwy o garfan Stryd i'r Sgrym

Mae’r gyfres gyntaf o ‘Stryd i’r Sgrym’ wedi newid bywydau’r rhai gymrodd ran ar eu taith i ail-gysylltu gyda’r gamp ac yn eu bywydau personol hefyd.

Rhannu:

O dan arweiniad Scott Quinnell – fe gafodd y garfan gyfnod o dri mis o ymarfer cyn herio Lloegr yn fformat newydd T1 y gamp.

Ond er bo’r profiad o chwarae fersiwn syml newydd y gêm wedi bod yn bleserus i’r garfan – mae’r daith a’r twf emosiynol wedi bod yn fraint i’w wylio ar S4C.

Dywedodd Lucy o Bontypridd: “ Mae pawb wedi dod yn agos iawn at ein gilydd yn ystod y gyfres – ac mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr a bythgofiadwy.”

Ychwanegodd Scott Quinnell; “Rwy’n gobeithio y bydd pob un o’r garfan yn trosglwyddo’r agweddau positif o’r profiad o fod yn rhan o’r gyfres i mewn i’w bywydau o ddydd i ddydd. Mae hi wedi bod yn fraint eu gweld yn datblygu a thyfu fel pobl.

“Rwy’n arbennig o falch o bob un o aelodau carfan Stryd i’r Sgrym 2024.”

Gellir ail-wylio’r holl gyfres ar wasaneth CLIC S4C neu ar yr i-player.

https://www.s4c.cymru/clic/programme/879207824

https://www.bbc.co.uk/iplayer/episodes/p0h56dvg/stryd-ir-sgrym

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert