Neidio i'r prif gynnwys

Enillwyr Cwpan, Plat a Phowlen y Menywod yn dathlu.

Enillwyr Cwpan, Plat a Phowlen y Menywod yn dathlu.

27.04.24 -Clwb Rygbi Cymry Caerdydd - Enillwyr y Bowlen.

Yn dilyn buddugoliaeth gofiadwy Cymru yn erbyn Yr Eidal yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn – cynhaliwyd tair rownd derfynol ddomestig y menywod yma yng Nghymru hefyd mewn gwledd o rygbi.

Rhannu:

Yn dilyn eu llwyddiant yn erbyn Bonymaen ddwy flynedd yn ôl – Ystum Taf enillodd y Cwpan unwaith eto – gan hawlio 13 o geisiau a record o sgôr yn y broses wrth iddyn nhw guro Blaendulais o 85-14.

Catrin Turner, Rhodd Alaw Parry (x2) Niamh Tinman (x2), Carys Ballett (x2), Ffion Revill, Katie Sims (x2), Elin Hopkins, Molly Philpott, Sioned Young a’r capten Kira Phillpot groesodd am geisiau tîm y Brifddinas tra i Claudia Meyrick-Ward drosi 10 o’r rheiny.

Jami Davies a Holly Cooper groesodd am geisiau i Flaendulais.

27.04.24 – Enillwyr y Plat – Bonymaen

Fe wnaeth Bonymaen yn iawn am eu colled yn erbyn Ystum Taf yn ffeinal y Cwpan ddwy flynedd yn ôl wrth ennill y Plat eleni trwy guro Hwlffordd – oedd wedi ennill yBowlen y llynedd – o 32-26.

Croesodd y tîm o ardal Abertawe am chwech o geisiau gyda Seren y Gêm, Lauren Smyth yn hawlio dau o’r sgoriau hynny. Angharad Jones, Sophie Moore, Lily Roberts a Natalie Murphy diriodd y pedwar arall.

Hawliodd Hwlffordd bedwar cais eu hunain trwy ymdrechion Aimee Ridley, Sarah Lawrence, Megan Jones a Jodie Williams – a byddai rocesi Sir Benfro fod wedi gallu cipio buddugoliaeth hwyr oni bai am ymdrechion amddiffynol campus Bonymaen hyd at y chwiban olaf.

27.04.24 – CRCC Clwb Rygbi Cymry Caerdydd v Old Penarthians RFC – WRU Women’s National Bowl Final – CRCC celebrate winning the bowl

Ddeuddeg mis wedi i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd golli yn Ffeinal y Bowlen yn erbyn Hwlffordd – fe lwyddon nhw i’w hennill hi trwy drechu’r Hen Benarthiaid o 34-21.

Mirain Jones oedd chwaraewr amlycaf yr ornest ac fe groesodd y cefnwr am ddau gais hanner cyntaf cyn i Meleri Daniel, Georgia McKenzie-Liddington a Laura Stewart dirio dor ‘Clwb’ wedi troi.

Kim Seaford-Jones, Jodie Read a Ffion Bowen diriodd dros yr Hen Benarthiaid.

‘Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn i Anwen Hopkins yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn – gan iddi chwarae dros Glwb Rygbi Cymry Caerdydd yn eu buddugoliaeth. Yn gynharach yn ystod y prynhawn, ‘roedd hi wedi gwylio’i merch Gwennan Hopkins yn ennill ei thrydydd cap dros ei gwlad wrth i Gymru guro’r Eidal.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert