Neidio i'r prif gynnwys

Y Pencampwyr i groesawu Casnewydd yn Ffeinal Uwch Gynghrair Indigo

Y Pencampwyr i groesawu Casnewydd yn Ffeinal Uwch Gynghrair Indigo

04.05.24 -Macs Page yn tirio wedi ei rediad o 30 metr.

Y canolwr addawol Macs Page lwyddodd i dorri calonnau Caerdydd ym Manc yr Eglwys ddydd Sadwrn wrth i Lanymddyfri gyrraedd Rownd Derfynol Uwch Gynghrair Indigo am yr ail flwyddyn o’r bron gyda’u buddugoliaeth o 34-13.

Rhannu:

Yr ymwelwyr oedd ar y blaen o 10-6 wrth droi wedi iddyn nhw fwynhau meddiant cyson yn nwy ar hugain y Pencampwyr presennol.

Er i ddwy gic gosb y maswr Jack Maynard roi’r Porthmyn ar y blaen – cic gosb a throsiad Arwel Robson – yn dilyn cais yr wythwr Morgan Allen wedi hanner awr o chwarae – roddodd yr oruchafiaeth i Gaerdydd ar yr egwyl.

Stori wahanol gafwyd wedi troi wrth i’r maswr Ioan Hughes a’r eilydd Kian Abraham groesi am geisiau o fewn tri munud i’w gilydd cyn i ddau gais cofiadwy un o sêr academi’r Scarlets, Macs Page gau pen y mwdwl ar y fuddugoliaeth.

Yn anffodus, bu’n rhaid cludo capten Llanymddyfri, Jack Jones o’r maes gydag anaf difrifol gyda 10 munud ar ôl ac felly ni fydd e far gael ar gyfer y Rownd Derfynol yn erbyn Casnewydd ar Fanc yr Eglwys am 2.30 pm y Sadwrn hwn.

04.05.24 – Un o dri chais Joe Westwood.

Casnewydd fydd yn ymweld â Llanymddyfri ar gyfer y Ffeinal wedi iddyn nhw guro Glyn Ebwy’n gyfforddus o 48-13 gyda chwaraewr o dan 20 Cymru Joe Westwood yn tirio deirgwaith.

Che Hope, Elliot Frewen a Lloyd Lewis hawliodd geisiau eraill y tîm cartref gyda’r maswr Matt O’Brien yn trosi’r chwe chais a hefyd ddwy gôl gosb.

Hawliodd Evan Lloyd gyfanswn o 8 pwynt wrth iddo lwyddo gyda dwy gôl gosb yn ystod yr hanner cyntaf a throsiad wedi i Owen Conquer dirio unig gais cysur Gwŷr y Dur.

Hon oedd 15ed buddugoliaeth Casnewydd yn olynol sy’n ychwanegu hyd yn oed mwy o awch i’r Rownd Derfynol wrth iddyn nhw geisio cipio’r wobr fawr oddi ar y Pencampwyr presennol y penwythnos hwn.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert