Neidio i'r prif gynnwys

Y Porthmyn yn ennill y Dwbl wrth gipio Uwch Gynghrair Indigo eto

Y Porthmyn yn ennill y Dwbl wrth gipio Uwch Gynghrair Indigo eto

11.05.24 - Llanymddyfri'n dathlu'r Dwbl. Lee Rees yn codi Cwpan Uwch Gynghrair Indigo.

Enillodd Llanymddyfri y dwbl wedi iddyn nhw hawlio Pencampwriaeth Uwch Gynghrair Indigo am yr ail flwyddyn yn olynol trwy drechu Casnewydd o 14-7.

Rhannu:

Hon oedd y 13eg gêm gartref o’r bron i’r Porthmyn ennill ar Fanc yr Eglwys eleni ac fe wnaethon nhw hynny heb wasanaeth eu capten Jack Jones ddioddefodd anaf yn eu buddugoliaeth yn erbyn Caerdydd y penwythnos diwethaf.

Doedd Casnewydd heb ennill yr Uwch Gynghrair ers 20 mlynedd a chyn teithio i Sir Gâr ‘roedden nhw wedi ennill 15 gêm yn olynol – ac wedi chwalu Glyn Ebwy yn y Rownd Gyn-derfynol o 48-13 wythnos ynghynt. Dim ond unwaith ‘roedd bechgyn Tyron Morris wedi colli oddi-cartref drwy gydol y tymor – ac yn Llanymddyfri fis Tachwedd ddaeth y golled honno. Yn anffodus o safbwynt Casnewydd – fe gafodd hanes ei ail-adrodd y prynhawn ‘ma.

‘Roedd hi’n dipyn o achlysur ar Fanc yr Eglwys cyn y gic gyntaf hyd yn oed wrth i brop y clwb cartref Berian Watkins a maswr yr ymwelwyr Matt O’Brien dderbyn cymeradwyaeth gan y dorf ar achlysur eu 200fed ymddangosiad dros eu clybiau.

Fe grëodd O’Brien argraff ar y sgorfwrdd wedi 11 o funudau wrth iddo drosi cais y prop Josh Reynolds yn gampus wedi cyfnod effeithiol o bwyso gan Gasnewydd. Yn eironig, Reynolds oedd yr unig newid i’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Glyn Ebwy y penwythnos diwethaf.

Dim ond am 8 munud y parodd mantais Casnewydd cyn i’r canolwr profiadol Adam Warren dirio dros y clwb cartref. Ychwanegodd Ioan Hughes y ddeubwynt yn hyderus hefyd i wneud pethau’n gyfartal.

Gyda chwarter awr o’r cyfnod cyntaf ar ôl – dangosodd y dyfarnwr Rhys Jones gerdyn melyn i flaenasgellwr Llanymddyfri Osian Davies am dacl uchel ar brop yr ymwelwyr Nathan Evans – ond er waethaf cyfnodau cyson o bwyso gan Gasnewydd – fe lwyddodd y Porthmyn i atal unrhyw sgoriau hyd nes i gyfnod callio Jones ddod i ben.

Hanner Amser Llanymddyfri 7 Casnewydd 7

Doedd dim rhaid aros yn hir am gyffro cyntaf yr ail gyfnod oherwydd 105 eiliad wedi’r ail-ddechrau fe ymestynodd y canolwr Rhodri Jones pob gewyn o’i gorff i sgorio ail gais Llanymddyfri o’r prynhawn. Fe ymdrechodd Josh Reynolds yn wych wrth geisio ei atal – ond fe benderfynodd y swyddog teledu Keith David fod y sgôr yn ddilys – ac fe brofodd hwnnw’n allweddol yn y pendraw.

Ddeng munud yn ddiweddarach galwyd am wasanaeth y swyddog teledu unwaith eto – ac y tro hwn penderfynwyd fod pas Lee Rees drwch blewyn ymlaen ac felly amddifadwyd Adam Warren rhag tirio am yr eildro. ‘Roedd rhyddhad holl chwaraewyr Casnewydd yn amlwg i bob aelod o dorf swmpus Banc yr Eglwys.

Fe gafodd Mr David brynhawn prysur iawn – ac fe aeth penderfyniad y swyddogion yn erbyn yr ymwelwyr wedi bron i awr o chwarae. Fe diriodd y capten Ben Roach yn dilyn bylchiad campus Lloyd Lewis – ond gwnaed y penderfyniad bod Josh Skinner wedi atal Chris Long rhag taclo yn gynharach yn ystod y symudiad. Mantais Llanymddyfri’n parhau’n seithbwynt felly.

Gyda phedwar munud yn weddill fe gafodd Ioan Hughes gyfle i ymestyn y fantais i 10 pwynt – ond er i’w ymdrech daro’r postyn – ‘ni lwyddodd yr ymwelwyr i drafferthu’r sgorfwrdd eto cyn y chwiban olaf.

Y Dwbl i Lanymddyfri felly – eu hail Bencampwriaeth o’r bron – a dathliadau cofiadwy iawn ar Fanc yr Eglwys.

Canlyniad Llanymddyfri 14 Casnewydd 7.

Wedi’r chwiban olaf dywedodd Lee Rees, Capten Llanymddyfri ar y dydd: “Roedd hi’n frwydr galed iawn gan bod Casnewydd yn dîm arbennig iawn – ond ‘ry’n ni wedi cael y fuddugoliaeth a dyna beth sy’n bwysig.”

Ychwanegodd y maswr Ioan Hughes:” Mae hyn yn anhygoel. Mae ennill gartre’ o flaen ein cefnogwyr ein hunain yn wych. Fi ffaelu credu’r peth i fod yn onest. Mae ennill y Dwbl mor bwysig i’n clwb a’n cymuned.”

‘Roedd maswr Casnewydd Matt O’Brien yn siomedig ond hynod barchus tuag at y buddugwyr cyn dychwelyd i’r ystafell newid: “’Ry’n ni’n naturiol yn siomedig iawn – ond mae Llanymddyfri wedi dangos drwy’r tymor mai nhw yw’r tîm gorau. ‘Roedd hi’n gêm dda heddiw – rhwng y ddau glwb gorau eleni, ac er i ni gael digon o gyfleoedd i ennill y prynhawn ‘ma – Llanymddyfri aeth â hi a llongyfarchiadau iddyn nhw.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert