Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth i chwaraewyr ar ddechrau wythnos gwrth-gyffuriau

Gwybodaeth i chwaraewyr ar ddechrau wythnos gwrth-gyffuriau

Wythnos o godi ymwybyddiaeth

Ar ddechrau wythnos gwrth-gyffuriau UKAD, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cynnig gwybodaeth ac arweiniad i chwaraewyr am eu cyfrifoldebau.

Rhannu:

Fel Chwaraewr, mae’n rhaid i chi gydymffurfio gyda rheolau a rheoliadau UK Anti-Doping (UKAD). Mae hyn yn golygu sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am sylweddau sydd wedi eu gwahardd, deall eich cyfrifoldebau, a bod yn gyfrifol ac atebol am eich gweithredoedd.

Fel Chwaraewr, mae 11 o wahanol droseddau sy’n ymwneud â rheolau a rheoliadau gwrth-gyffuriau – a allai arwain at gael eich gwahardd o gymryd rhan mewn chwaraeon.

  • Cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am unrhyw sylweddau sydd wedi eu gwahardd – sydd i’w cael yn eich corff. Ry’n ni’n galw hyn yn Gyfrifoldeb ac Atebolrwydd Llym.
  • Rydym yn eich cynghori i fod yn wyliadwrus bob amser wrth ddefnyddio unrhyw ychwanegiadau neu feddyginiaethau. Mae risg ym mhopeth!
  • Cofiwch gadw llygad am unrhyw sylweddau sydd wedi eu gwahardd sy’n cael eu hychwanegu at y rhestr waharddedig. Ychwanegwyd tramadol yn 2024 ac mae’n lladdwr poen sy’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn ysbytai.
  • Mae modd i Chwaraewyr gael eu derbyn ar gynllun Eithriad Defnydd Therapiwtig (TUE) eu corff rheoli – os oes angen iddynt ddefnyddio sylwedd sydd wedi ei wahardd i drin cyflwr meddygol. Os nad yw’r broses gywir yn cael ei dilyn – bydd hynny’n gosod y Chwaraewyr mewn perygl o gael eu cosbi os canfyddir sylwedd sydd wedi ei wahardd yn eu system.
  • Mae’n ofynnol i Chwaraewyr nad ydynt wedi’u cynnwys ar gynllun Eithriad Defnydd Therapiwtig (TUE) eu corff rheoli, i gyflwyno cais am ystyriaeth feddygol i UKAD o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl i sylwedd sydd wedi ei wahardd gael ei ddarganfod yn eu system. Gelwir y darganfyddiad hyn yn Ganfyddiad Dadansoddol Anffafriol (AAF).
  • Os ydych chi’n cymryd rhan yng nghynllun Profi Undeb Rygbi Cymru (wrth chwarae yn y Bencampwriaeth, yr Uwch Gynghrair neu ar lefel uwch), mae angen i chi ddilyn y Rheolau Lleoliad. Gall gwybodaeth ffug neu anghyflawn – neu golli prawf – arwain at dorri y rheolau gwrth-gyffuriau.

Mae rhagor o wybodaeth am eich holl gyfrifoldebau ar gael drwy Game Locker URC neu’n uniongyrchol yn https://www.ukad.org.uk/

 

 

 

 

 

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert