Neidio i'r prif gynnwys

Cyrsiau Cymraeg yn y Clybiau gyda chymorth Cynllun Arfor

Cyrsiau Cymraeg yn y Clybiau gyda chymorth Cynllun Arfor

Lansio polisi iaith URC y llynedd - Nigel Walker, Efa Gruffudd Jones (Comisiynydd y Gymraeg), Dona Lewis, (Prif Weithredwr Dysgu Cymraeg), Ioan Cunningham.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi derbyn cefnogaeth ariannol Cynllun Arfor ar gyfer cynllun projectsy’n normaleiddio a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad ac yn y byd busnes drwy gynnig gweithdai cyfrwng Cymraeg.

Rhannu:

Bwriad y cynllun peilot, yw creu cysylltiadau cryfach rhwng clybiau rygbi, busnesau lleol a’u perthynas gyda’r Gymraeg fydd yn arwain at fudd economaidd.

Ymysg y cyrsiau fydd yn cael eu cynnig i’r clybiau fydd:

Llesiant Meddyliol yn eich Clwb

Llywodraethiant Effeithiol

Cynnal Cyfarfodydd Pwyllgor Effeithiol

Cyfryngau Cymdeithasol – gyda phwyslais ar ddefnydd o’r Gymraeg

Gwneud eich Clwb yn fwy croesawgar o safbwynt ieithyddol

Bydd modd hefyd i glybiau wneud cais am arweiniad am bynciau perthnasol eraill hefyd.

Mae tri deg o brosiectau arloesol ar draws gogledd a gorllewin Cymru wedi sicrhau cyllid gwerth cyfanswm o dros £2 filiwn drwy Gronfa Her ARFOR.

Sefydlwyd y gronfa i dreialu atebion newydd ac arloesol i heriau sy’n bodoli yn ardal ARFOR, sy’n cwmpasu Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr.

Gyda ffocws ar ddod â sefydliadau ynghyd i arloesi, cydweithio a datrys heriau lleol a rhanbarthol, ac i dreialu syniadau a all ddod yn endidau masnachol yn y tymor hir, nod Cronfa Her ARFOR yw sicrhau bywiogrwydd economaidd cymunedau a galluogi pobl i fyw a gweithio yn yr ardaloedd hynny.

Mae’r prosiectau llwyddiannus bellach yn cwblhau’r rhaglen, gyda phob un yn dangos angerdd dros gadarnleoedd y Gymraeg, gyda ffocws ar ysgogi twf economaidd. Mae’r tri deg prosiect a dderbyniodd gyllid yn amrywio’n fawr, o atebion digidol arloesol sydd â’r nod o gefnogi’r iaith mewn busnes; ymgyrch i ddenu’r graddedigion gorau yn ôl i Gymru; hyd at brosiectau sector-benodol ym meysydd chwaraeon, ffermio, a gofal plant.

Mae ARFOR yn fenter ar y cyd rhwng awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn yn dilyn cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae bellach yn ail gam ei weithgarwch, a fydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2025, wrth iddo geisio defnyddio datblygu economaidd fel modd o gefnogi a chynnal y Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John: “Ry’n ni’n hapus iawn ein bod yn gallu cynnig cyrsiau perthnasol a gwerthfawr i’n clybiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ein clybiau yw calon eu cymuned – a bydd y ffaith bod busnesau lleol yn cael eu gwahodd i’r digwyddiadau yn cryfau cysylltiadau’n lleol ac yn normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg yn ein clybiau.”

Dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Llywodraeth Cymru, “Mae ffyniant economaidd ein cymunedau Cymraeg yn hollbwysig i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith; ac mae’n braf gweld busnesau a grwpiau cymunedol yn cydweithio er mwyn cynnig cyfleoedd i arloesi yn ei chadarnleoedd. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y prosiectau peilot hyn yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, ar ran Bwrdd ARFOR, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, “Mae’r ystod amrywiol o brosiectau yn hynod addawol, ac yn dangos y gallu entrepreneuraidd a thalent sy’n gynhenid yn rhanbarth ARFOR. Braf iawn yw gweld mentrau yn llwyddo ym mhob un o’r pedair sir ac rwyf yn edrych ymlaen at ddilyn y prosiectau wrth iddynt ddatblygu.

“Ein nod yw atal yr all-lif o bobl sy’n gadael ein hardaloedd, gan gydnabod yr effaith andwyol y mae’n ei chael ar y Gymraeg a’r gymdeithas yn gyffredinol. Yng Ngwynedd rydym eisoes yn profi heriau oherwydd y draen dawn, ond, drwy fod yn gadarnhaol ac yn arloesol mae cyfle i ni amlygu potensial yr ardal. Dyma le gwych i fyw a gweithio, ac rydym am roi’r cyfle gorau i bobl nid yn unig aros, ond hefyd ddychwelyd i’w gwreiddiau.”

Mae Cronfa Her ARFOR yn cael ei redeg gan Menter a Busnes a Menter Môn ar ran Llywodraeth Cymru.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert