Neidio i'r prif gynnwys

URC yn croesawu a chefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

URC yn croesawu a chefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Mae URC yn cynnig cyngor ac arweiniad iechyd meddwl i'r clybiau.

Eleni, mae thema Mudiadau Iechyd Meddwl yn taro tant gyda’r gymuned rygbi. 

Rhannu:

Mae symud yn bwysig i’n hiechyd meddwl, felly mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon yn annog pobl i ddod o hyd i gyfleoedd i symud yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Mynd am dro, gwrando ar eich hoff gerddoriaeth a dawnsio o gwmpas yr ystafell fyw, neu ymarferion syml wrth wylio’r teledu – Gwnewch y pethau bychain!

Mae ein clybiau rygbi cymunedol yn chwarae rhan hanfodol, gan ddarparu cyfleoedd ymarfer corff cyson i bawb sy’n cymryd rhan gan wella lles, a gwella ymwybyddiaeth feddyliol.

Mae URC wedi ymrwymo i roi lles wrth galon ein gêm. Ein nod yw darparu addysg, arweiniad, a’r offer i’ch helpu i fyw bywyd iachach a hapusach! Gall siarad am eich pryderon a’ch problemau wneud pethau’n haws. Mae URC wedi datblygu Canolfan Lles fel adnodd i ddarparu addysg, arweiniad ac offer i glybiau a chwaraewyr i gynorthwyo gyda materion lles.

SIARADWCH Â RHYWUN OS NAD YDYCH CHI’N IAWN!

Meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol URC, ‘Mae cymaint o’n clybiau wedi cofleidio cefnogi mentrau iechyd meddwl ac maent yn gweithio i wella lles meddyliol eu chwaraewyr a’u gwirfoddolwyr, i helpu i greu amgylcheddau rygbi diogel a chadarnhaol.’

Beth yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl?

Mae’n digwydd bob blwyddyn, a dyma’r cyfle mwyaf i wledydd y DU ddod at ei gilydd i ganolbwyntio ar gael iechyd meddwl da. Nod yr wythnos yw mynd i’r afael â stigma a helpu pobl i ddeall a blaenoriaethu eu hiechyd meddwl nhw ac eraill.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn hanfodol er mwyn cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o iechyd meddwl a sut y gellir atal problemau iechyd meddwl.

Cysylltwch â ni:

Mae gennym linell Uniondeb ar waith, a ddatblygwyd i annog cyfranogwyr y gêm i siarad â’r cysur y bydd rhywun yn gwrando arnynt, a bydd eu pryderon yn cael eu trin yn sensitif.

Llinell Uniondeb URC – 02920 822200 Blwch Post Uniondeb URC: integrity@wru.cymru

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert