Neidio i'r prif gynnwys

Byddwch yn barod – mae Super Rygbi Cymru yn cyrraedd fis Medi

Byddwch yn barod – mae Super Rygbi Cymru yn cyrraedd fis Medi

Mae Rygbi Cymru ar fin cael ei ad-drefnu – gyda’r newid mwyaf yn strwythur y gamp ers cyflwyno rygbi Rhanbarthol yn 2003. Croeso i Super Rygbi Cymru.

Rhannu:

Bydd y 10 tîm sydd wedi sicrhau eu trwyddedau ar gyfer y gystadleuaeth newydd yn chwarae rhan allweddol o bontio’r bwlch i chwaraewyr sy’n symud rhwng yr Academïau a’r Rhanbarthau.

Bydd y gemau cyntaf yn cael eu chwarae ar drydydd penwythnos mis Medi (dydd Sadwrn 21 Medi) a bydd y clybiau’n chwarae o leiaf 18 gêm gynghrair, o leiaf un gêm Ail Gyfle ac o leiaf bedair gêm yn y Cwpan. Bydd hynny’n rhoi o leiaf 23 gêm i bob tîm yn ystod y tymor.

Os gall Llanymddyfri gyflawni’r dwbl eto’r tymor nesaf yna byddant yn chwarae uchafswm o 26 gêm.

Ar y penwythnos agoriadol bydd y Porthmyn – enillodd Uwch Gynghrair Indigo a Chwpan yr Uwch Gynghrair – yn teithio i Barc Pont-y-pŵl:

Cwins Caerfyrddin v Abertawe
Glyn Ebwy v Aberafan
Casnewydd v Penybont
Pont-y-pŵl v Llanymddyfri
Rygbi Gogledd Cymru v Caerdydd

Fe enillodd Llanymddyfri 15 gêm gynghrair a chwpan ar Fanc yr Eglwys y tymor diwethaf a byddant yn dechrau eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth yn gwarchod eu record arbennig o beidio â cholli gartref ers y 10fed o Fawrth 2023 – 18 o gemau!

Yn ogystal â chwarae yng Nghynghrair a Chwpan Super Rygbi Cymru, bydd y timau hefyd yn cael cyfle yn ystod y tymor i frwydro am ‘Darian Her SRC’. Yn seiliedig yn fras ar Darian Ranfurly yn Seland Newydd, bydd y ‘deiliad’ yn cynnig y cyfle i ymwelwyr gipio’r Darian oddi arnynt. Mae’r egwyddor yn mynd i gynnig awch ychwanegol i’r gemau cynghrair hynny.

“Mae’r holl glybiau wedi bod yn wych ac rydym wedi cael llawer o gyfarfodydd da yn y cyfnod cyn y lansiad hwn. Mae’r Rhanbarthau i gyd yn gefnogol iawn i’r cynllun a dylai’r strwythur newydd godi safonau yn gyffredinol,” meddai Pennaeth Datblygu Chwaraewyr URC, John Alder.

“Rydyn ni wedi ceisio bod yn greadigol wrth feddwl am strwythur chwarae’r gynghrair newydd a bydd gan bob clwb o leiaf 11 gêm gartref yn ystod y tymor. Rydym am i hyn fod yn feithrinfa i’r chwaraewyr iau – fydd yn eu harwain i’r system ranbarthol yn y pen draw.

“Ond rydym hefyd yn cydnabod na all y gynghrair weithio’n effeithiol heb y chwaraewyr lled-broffesiynol profiadol sydd wedi cyfrannu at safon uchel yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf. Mae’r cyd-chwarae a’r cyd-ddealltwriaeth rhwng cyn-ganolwr y Scarlets, y Dreigiau a Chymru, Adam Warren a’r hynod addawol Macs Page yn Llanymddyfri wedi bod yn enghraifft berffaith o sut y gall y chwaraewyr ifanc ddysgu wrth chwarae ar ysgwydd rhywun profiadol.

“Mae Alex Mann, Mackenzie Martin a Lucas de la Rua i gyd wedi elwa o chwarae ochr yn ochr â Morgan Allen yn rheng ôl Caerdydd, tra bo blaenwyr tîm o dan 20 Cymru, Dylan Keller-Griffiths a Sam Scarfe wedi datblygu’n dda iawn yn rheng flaen Pont-y-pŵl yn ystod y tymhorau diwethaf.

“Mae Joe Westwood a Harri Ackerman wedi dod trwy’r rhengoedd yng Nghasnewydd i chwarae eu gemau cyntaf yn nhîm cyntaf y Dreigiau, tra bod Dan Edwards a Morgan Morse wedi chwarae i Abertawe cyn sicrhau cytundebau hirdymor gyda’r Gweilch.

“Mae’n bwysig cofio bod chwaraewyr fel James Hook, Alun Wyn Jones, Jonathan Davies a Gareth Davies i gyd wedi dechrau eu gyrfaoedd rygbi hŷn yn yr hen Uwchgynghrair – a’n nod yw gwneud  Super Rygbi Cymru hyd yn oed yn fwy dwys, cystadleuol, proffesiynol ac uchelgeisiol dros y blynyddoedd nesaf.”

Mae’r 10 clwb i gyd wedi ymrwymo i system ‘uchafswm cyflog’ a fydd yn eu galluogi i wario hyd at £150,000 ar garfan o 32 chwaraewr. Bydd eithriadau i’r rheol hon (gweler y nodiadau isod).

Bydd URC yn rhoi £105,000 i bob clwb, ac mae’n rhaid i’r clybiau gyfateb y swm hwnnw bob tymor hefyd.

Strwythur Tymor

Bydd Super Rygbi Cymru (SRC) yn cyd-fynd â chalendr y gêm broffesiynol a’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig i greu perthynas ymarferol ac adeiladol rhwng y 10 clwb a’r pedwar Rhanbarth. Bydd hyn yn cynnwys saib yn y gystadleuaeth yn ystod ffenestri rhyngwladol yr Hydref a’r Chwe Gwlad.

Bydd y tymor yn cael ei chwarae mewn tri chyfnod penodol (Medi & Hydref / Rhagfyr / Ebrill & Mai):

Tymor Arferol: 18 Rownd gyda’r 10 tîm yn chwarae ei gilydd gartref ac oddi cartref.

Rowndiau Terfynol wedi’r Tymor Arferol:

Bydd rowndiau terfynol y tymor yn cynnwys pedair set o gemau fydd yn dilyn yr egwyddor o golli ac allan.

Bydd tri thlws ar gael i’w hennill – Tlws Super Rygbi Cymru, Cwpan Super Rygbi Cymru, a’r Darian Her.

Tymor Super Rygbi Cymru 2024-25
Dechrau ar benwythnos 14 Medi ac yn gorffen gyda’r Rownd Derfynol Fawr tua ddydd Sadwrn 17 Mai 2025 (mewn lleoliad niwtral).

Bydd y tymor yn dod i ben ar benwythnos 19 Ebrill 2025.

Rhan 1: Rowndiau 1 – 7: 14 Medi 24 – 26 Hydref 24
Rhan 2: Rowndiau 8 – 14: 23 Tachwedd 2021 i 12 Ionawr 2022 Rowndiau 15 – 18,

Rowndiau Terfynol ar ôl y Tymor: 29 Mawrth 25 – 17 Mai 25

Rowndiau Terfynol yn dilyn y Tymor Arferol
Gemau Ail Gyfle (7 v 10 – Gêm 1, 8 v 9 – Gêm 2)
Rownd yr Wyth Olaf (1 v Enillydd Gêm 1 & 2 v Enillydd Gêm 2 / 3 v 6, a 4 v 5)
Rown Gyn-derfynol
Rownd Derfynol Fawr (Chwarae am y Tlws)

Tarian Her
Bydd Tarian Her yn cael ei chyflwyno yn ystod y tymor arferol. Enillwyr y Cwpan eleni (Clwb Rygbi Llanymddyfri) fydd deiliaid cyntaf y Darian. Rhaid i’r clwb sydd â’r Darian yn eu meddiant ei hamddiffyn ym mhob gêm gartref yn ystod y tymor arferol (ond nid yn ystod y Rowndiau Terfynol sy’n dilyn y tymor). Os bydd yr ymwelwyr yn curo’r deiliaid – nhw fydd wedyn yn hawlio meddiant y Darian hyd nes iddyn nhw golli gêm gartref.

Cwpan Super Rygbi Cymru
Bydd cystadleuaeth Gwpan yn cael ei chwarae yn ystod y Chwe Gwlad. Bydd pedair rownd a rownd derfynol (bydd yr enwau’n cael eu tynnu o’r het yn ystod y tymor).

Bydd dau grŵp o bum clwb, pob un yn chwarae dwy gêm gartref a dwy gêm oddi cartref. Enillwyr y ddau grŵp fydd yn cyrraedd y Ffeinal.

Llywodraethiant Cystadleuaeth Super Rygbi Cymru
Bydd Pwyllgor Llywodraethu’r SRC yn goruchwylio’r gwaith o reoli, uniondeb a chydymffurfio â rheoliadau a rheolau y gystadleuaeth yn effeithiol – a bydd yn is-bwyllgor i’r Bwrdd Rheoli Rygbi (Rugby Management Board), sy’n is-fwrdd i’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol.

Bydd gan Bwyllgor Llywodraethu’r SRC naw aelod, fydd yn cael eu penodi gan y Bwrdd Rheoli Rygbi o bryd i’w gilydd.

– 3 chynrychiolydd o Adran Perfformiad URC (Rheolwr Cystadleuaeth SRC ar ran URC, Cyfarwyddwr Perfformiad, a Phennaeth Datblygu Chwaraewyr (a fydd yn gweithredu fel Cadeirydd yn y flwyddyn gyntaf);

– 2 Gynrychiolydd rhanbarthol, a fydd yn cael eu hethol o’r Bwrdd Rheoli Rygbi.

– 2 gynrychiolydd i gael eu hethol o Glybiau’r Gystadleuaeth.

– 2 gynrychiolydd o’r Gêm Gymunedol, sef Cadeirydd Bwrdd y Gêm Gymunedol a Chyfarwyddwr Cymunedol URC (ar gyfer cyfnod cyntaf y drwydded – sy’n parhau am 3 blynedd, tan 30 Mehefin 2027, neu hyd nes y bydd cytundeb fel arall ar y cyd).

Bydd cyfarfodydd bob chwarter, ond nid yn amlach nac unwaith y mis. Bydd y grŵp yn anelu at gwrdd yn fisol am y chwe mis cyntaf wrth i’r gystadleuaeth gael ei sefydlu.

Bydd Pwyllgor Llywodraethiant SRC yn gyfrifol am:
1. Gweinyddu a Rheoli’r Gystadleuaeth
2. Goruchwylio Cydymffurfiaeth
3. Ymddygiad a Disgyblu
4. Datblygu Polisi ac Adolygu
5. Cynllunio Strategol.

  1. Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
  2. Rheoli Risg
  3. Adrodd ac Atebolrwydd

Bydd 3 Îs-bwyllgor
Grŵp Cynghori Meddygol SRC
Pwyllgor Disgyblu SRC
Grŵp Masnachol SRC

Rheolau & Rheoliadau’r Gystadleuaeth
Mae Rheolau a Rheoliadau’r Gystadleuaeth yn y broses o gael eu cadarnhau ar hyn o bryd gyda’r bwriad o’u gwneud mor gyson ag sy’n bosib â’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig a’r Uwch Gynghrair yn Lloegr. Bydd SRC yn mabwysiadu cyfreithiau taclo gemau proffesiynol a’r un elfennau disgyblu hefyd. Bydd modd hefyd i ganiatâu trwyddedu chwaraewyr i gystadlu yn y gêm Broffesiynol a Chymunedol yn ystod yr un tymor.

Mae’r clybiau sy’n cymryd rhan eisoes wedi ymrwymo i gyflawni a gweithredu amodau a thelerau eu trwydded, sy’n cynnwys ymrwymiadau masnachol a gweinyddol.

Mae’n ofynnol i bob clwb (a Rhanbarth) ddod i drefniant ffurfiol (affiliate) gyda chlybiau neu Ranbarth. Bydd pob chwaraewr o Academïau’r Rhanbarthau yn cael ei baru gyda chlwb penodol am gyfnod o dymor. Bydd y dewis o glwb ar gyfer y chwaraewr unigol yn dibynnu ar ardal y chwaraewr, ble chwaraeodd ei rygbi ieuenctid, ei anghenion a’i gyfleoedd i ddatblygu.

Mae’r Rhanbarthau eisoes wedi dechrau ar y gwaith hwn o drefnu bod rhai o chwaraewyr addawol eu hacademïau yn mynd i chwarae i’r clybiau hynny – y mae ganddynt drefniant ffurfiol gyda nhw.

Mae’r Rhanbarthau wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd gefnogol a chyfartal gyda’r gwahanol glybiau – o safbwynt chwaraewyr, rhaglenni a systemau rygbi, hyfforddi a datblygu.

Uchafswm Cyflog Chwaraewyr
Mae’r Uchafswm Cyflog Chwaraewyr ar gyfer carfan ar gyfer Tymor 24/25 wedi’i osod ar £150,000 y flwyddyn. Fodd bynnag, mae eithriadau’n cael eu caniatáu ar gyfer chwaraewyr Academi, chwaraewyr sydd newydd gael eu rhyddhau gan Ranbarth, chwaraewyr ar gytundeb deuol, ac anafiadau.

Y prif syniad yw cefnogi a chadw chwaraewyr hynod addawol yn y gystadleuaeth. Dyna pam y bydd eithriadau’n cael eu hystyried ar gyfer cyfnod byr.


GEMAU SUPER RYGBI CYMRU 2024-25

ROWND 1 – 14.09.2024
Cwins Caerfyrddin v Abertawe
Glyn Ebwy v Aberafan
Casnewydd v Penybont
Pont-y-pŵl v Llanymddyfri
RGC v Caerdydd

ROWND 2 – 21.09.2024
Aberafan v Cwins Caerfyrddin
Penybont v Pont-y-pŵl
Caerdydd v Glyn Ebwy
Llanymddyfri v RGC
Abertawe v Casnewydd

ROWND 3 – 28.09.2024
Cwins Caerfyrddin v Caerdydd
Glyn Ebwy v Llanymddyfri
Casnewydd v Aberafan
RGC v Pont-y-pŵl
Abertawe v Penybont

ROWND 4 – 05.10.2024
Aberafan v Casnewydd
Penybont v Abertawe
Caerdydd v Cwins Caerfyrddin
Llanymddyfri v Glyn Ebwy
Pont-y-pŵl v RGC

ROWND 5 – 12.10.2024
Aberafan v Penybont
Cwins Caerfyrddin v Pont-y-pŵl
Glyn Ebwy v RGC
Casnewydd v Llanymddyfri
Abertawe v Caerdydd

ROWND 6 – 19.10.2024
Penybont v Glyn Ebwy
Caerdydd v Aberafan
Llanymddyfri v Abertawe
Pont-y-pŵl v Casnewydd
RGC v Cwins Caerfyrddin

ROWND 7 – 26.10.2024
Aberafan v Llanymddyfri
Caerdydd v Penybont
Cwins Caerfyrddin v Glyn Ebwy
Casnewydd v RGC
Abertawe v Pont-y-pŵl

ROWND 8 – 23.11.2024
Penybont v Cwins Caerfyrddin
Glyn Ebwy v Casnewydd
Llanymddyfri v Caerdydd
Pont-y-pŵl v Aberafan
RGC v Abertawe

ROWND 9 – 30.11.2024
Aberafan v RGC
Caerdydd v Pont-y-pŵl
Llanymddyfri v Penybont
Casnewydd v Cwins Caerfyrddin
Abertawe v Glyn Ebwy

ROWND 10 – 07.12.2024            
Aberafan v Glyn Ebwy
Penybont v Casnewydd
Caerdydd v RGC
Llanymddyfri v Pont-y-pŵl
Abertawe v Cwins Caerfyrddin

ROWND 11 – 14.12.2024            
Cwins Caerfyrddin v Aberafan
Glyn Ebwy v Caerdydd
Casnewydd v Abertawe
Pont-y-pŵl v Penybont
RGC v Llanymddyfri

ROWND 12 – 21.12.2024 (GEMAU DARBI)
Aberafan v Abertawe
Penybont v RGC
Caerdydd v Casnewydd
Llanymddyfri v Cwins Caerfyrddin
Pont-y-pŵl v Glyn Ebwy

ROWND 13 – 28.12.2024 (GEMAU DARBI)
Cwins Caerfyrddin v Llanymddyfri
Glyn Ebwy v Pont-y-pŵl
Casnewydd v Caerdydd
RGC v Penybont
Abertawe v Aberafan

 

ROWND 14 – 04.01.2025             
Penybont v Aberafan
Caerdydd v Abertawe
Llanymddyfri v Casnewydd
Pont-y-pŵl v Cwins Caerfyrddin
RGC v Glyn Ebwy

ROWND 15 – 29.03.2025            
Aberafan v Caerdydd
Cwins Caerfyrddin v RGC
Glyn Ebwy v Penybont
Casnewydd v Pont-y-pŵl
Abertawe v Llanymddyfri

ROWND 16 – 05.04.2025            
Penybont v Caerdydd
Glyn Ebwy v Cwins Caerfyrddin
Llanymddyfri v Aberafan
Pont-y-pŵl v Abertawe
RGC v Casnewydd

ROWND 17 – 12.04.2025            
Aberafan v Pont-y-pŵl
Caerdydd v Llanymddyfri
Cwins Caerfyrddin v Penybont
Casnewydd v Glyn Ebwy
Abertawe v RGC

ROWND 18 – 19.04.2025            
Penybont v Llanymddyfri
Cwins Caerfyrddin v Casnewydd
Glyn Ebwy v Abertawe
Pont-y-pŵl v Caerdydd
RGC v Aberafan

Rowndiau Terfynol wedi’r Tymor Arferol

Gemau Ail Gyfle – 26.04.2025
7fed v 10fed (Gêm 1)
8fed v 9fed (Gêm 2)

Rownd yr Wyth Olaf – 03.05.2025
1af v Enillwyr Gêm Ail Gyfle 1 (R8 Olaf 1)
4ydd v 5ed (R8 Olaf 2)
2il v Enillwyr Gêm Ail Gyfle 2 (R8 Olaf 3)
3ydd v 6ed (R8 Olaf 4)

Rownd Gynderfynol – 10.05.2025
Enillydd R8 Olaf 1 v R 8 Olaf 4
Enillydd R8 Olaf 2 v R8 Olaf 3

Rownd Derfynol  – 17.05.2025
Enillydd Rownd Gynderfynol 1 v Enillydd Rownd Gynderfynol 2
* Lleoliad Niwtral i’w gadarnhau

Penwythnosau Cwpan Super Rygbi Cymru

ROWND 1 – 25.01.2025
ROWND 2 – 01.02.2025
ROWND 3 – 15.02.2025
ROWND 4 – 01.03.2025
FFEINAL – 15.03.2025

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert