Mae Dafydd wedi gorfod paratoi’r adnoddau ar gyfer sesiynau ymarfer y garfan yn ogystal â rhannu profiadau am ddiwylliant a iaith ein gwlad gyda’r Fijïaid. Mae’r holl wythnos o baratoi wedi cael ei ffilmio a’i gofnodi yn rhaglen ddogfen S4C ‘Y Fficsar: Cymru v Fiji’ sydd ar gael ar sianel You Tube S4C ar hyn o bryd.
Dywedod Dafydd Roberts: “Dyma’r tro cyntaf dwi wedi cael y fraint o weithio gyda thîm rhyngwladol. Er ei bod hi wedi bod yn brysur iawn drwy’r wythnos – ‘dwi wedi bod wrth fy modd. Mae o wedi bod yn brofiad hollol wych.
“Dwi wedi bod i faes awyr Bryste ac yn ôl saith o weithiau a dwi hefyd wedi trio dangos dipyn o Gaerdydd i’r hogia’ – a dysgu ‘chydig o Gymraeg iddyn nhw wrth gwrs.
“Maen nhw wrth eu boddau efo cacen gri Gymreig – ac felly dwi wedi gorfod prynu cryn dipyn ohonyn nhw’r wythnos yma!
“Mae’r garfan wedi gweld y Senedd ac maen nhw wedi dangos diddordeb mawr yn ein hanes, ein iaith a’n diwylliant.
“Dwi’n meddwl eu bod nhw wedi mwynhau eu hamser yma yng Nghymru – er bod ambell un wedi cwyno ei bod hi’n rhy oer yma! Wedi dweud hynny – maen nhw’n cyfaddef bod Caeredin yn oerach fyth!
“Er mod i wedi bod yn brysur drwy’r wythnos ac wedi gorfod codi am 6 y bore cyn cyrraedd fy ngwely tua hanner nos – dwi wedi cael wythnos anhygoel. Mae’r garfan wedi rhoi croeso cynnes iawn i mi – ac fe roddon nhw grys wedi ei arwyddo i mi – sy’n rhywbeth y byddai’n ei drysori am byth.
“Faswn i ddim wedi gallu gofyn am well profiad na gweithio efo carfan Fiji. Maen nhw wedi bod yn hael, yn garedig ac yn lot o hwyl hefyd. Dwi’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am bob dim ac hefyd i Undeb Rygbi Cymru am y cyfle ffantastig yma.”
Dyma ddolen i’r rhaglen: https://www.youtube.com/watch?v=xJVcj1YudP0