Cofrestru Cymru Alltud
Cymry Alltud
Sefydlwyd rhaglen Cymry Alltud URC ym 1980, a’i chylch gwaith yw nodi chwaraewyr sy’n gymwys i chwarae dros Gymru (12 oed a hŷn) sydd wedi eu lleoli y tu allan i Gymru ac sydd â’r potensial i chwarae rygbi gradd oedran rhanbarthol neu genedlaethol, a rygbi hŷn ‘elitaidd’, yng Nghymru.
Yn y blynyddoedd diweddar cafodd llawer o fechgyn eu cap drwy gynllun yr Alltudion ac mae rhaglen yr Alltudion wedi bod yn gyfrifol am nifer o chwaraewyr cymwys o bedwar ban byd yn ymgysylltu â rygbi rhanbarthol yng Nghymru.
I fod yn gymwys ar gyfer cynllun y Cymry Alltud ac URC mae’n rhaid i bob chwaraewr fodloni Adran 8 rheoliadau ‘Rygbi’r Byd’ h.y. mae’n rhaid i’r chwaraewr fod wedi ei eni yng Nghymru, neu fod un rhiant yn enedigol o Gymru, neu fod un taid neu nain yn enedigol o Gymru.
Mae gan URC gysylltiad agos ag ysgolion preswyl annibynnol yng Nghymru sy’n hybu rygbi yn ogystal â gyda phrifysgolion Cymru lle mae chwaraewyr alltud wedi dewis datblygu eu rygbi ochr yn ochr â’u llwybr academaidd.
Yn ogystal â threfnu digwyddiadau yng Nghymru mae rhaglen yr Alltudion yn trefnu ‘gwersylloedd’ undydd ar gyfer chwaraewyr ifanc cymwys i chwarae dros Gymru y tu allan i Gymru mewn amrywiaeth o leoliadau.
Gall chwaraewyr sy’n gymwys i chwarae dros Gymru ac sydd wedi eu lleoli y tu allan i Gymru gofrestru ar gyfer rhaglen Alltudion URC isod lle ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch rhaglen yr Alltudion, cysylltwch â Swyddog Cenedlaethol Alltudion URC, Gareth Davies, drwy e-bost; gdavies2@wru.wales neu ffoniwch 07500 225670.