Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru 2024

Bydd Gwobrau Gwirfoddolwr Cymunedol y Flwyddyn (URC) 2024 yn dathlu ac yn cydnabod Gwirfoddolwyr ar draws ein gêm Gymunedol a’u cyflawniadau yn ystod y deuddeg mis diwethaf a chyn hynny hefyd.

Gellir enwebu unigolion neu glybiau sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl gyda’u hymdrechion gwirfoddoli yn y gêm gymunedol gan gyflawni llwyddiannau nodedig yn ystod y deuddeg mis diwethaf.

Bydd y broses enwebu yn cau am 23:59 ar 4 Mawrth 2024, a’r bwriad ar hyn o bryd yw cynnal digwyddiad Gwobrau Gwirfoddolwr Cymunedol y Flwyddyn (URC) ddydd Gwener 31 Mai 2024 (Bydd Undeb Rygbi Cymru’n cadarnhau’r union fanylion mewn da bryd).

Categorïau a meini prawf
Rhaid i’r holl wybodaeth ar gyfer pob categori (ar wahân i Wobr y Llywydd) fod yn gysylltiedig ag unrhyw weithgaredd gwirfoddoli a wnaed mewn rygbi cymunedol yng Nghymru o 1 Gorffennaf 2023 ymlaen. Gellir cynnwys manylion am weithgareddau cyn hynny ond mae’n rhaid nodi cyflawniadau o fewn y cyfnod penodol hefyd.

Rhaid i bob enwebiad dilys a gyflwynir i URC ddangos yn glir pam eich bod yn credu y dylid cydnabod eich enwebiad fel rhan o Wobrau Gwirfoddolwr Cymunedol y Flwyddyn (URC) 2024. Wrth gyflwyno enwebiad, dylech ystyried y meini prawf a ddarperir ar gyfer pob categori a dangos lle rydych yn teimlo bod eich enwebiad yn bodloni’r meini prawf allweddol gan ddarparu enghreifftiau clir.

Ni ddylai unrhyw berson sy’n cael eu henwebu fod wedi derbyn taliad (ac eithrio treuliau) am eu gwaith. Bwriad y gwobrau hyn yw cydnabod gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser am ddim gan arddangos eu cariad at y gamp a’u cymuned.

Efallai y byddwch hefyd am enwebu unigolyn mewn mwy nag un categori os yw’n bodloni’r meini prawf. Er bod hyn yn bosibl, nodwch y bydd angen i chi gyflwyno ffurflen enwebu ar wahân ar gyfer pob categori lle rydych yn dymuno cyflwyno enwebiad.

Awgrymiadau

Rydym wedi rhestru isod rai awgrymiadau am ymarfer da i’w hystyried wrth gyflwyno cais:
• Gwnewch yn siwr eich bod yn darllen y meini prawf i sicrhau eich bod yn gwneud cais yn y categori cywir.
• Dylech gynnwys tystiolaeth os yw’n bosibl mewn unrhyw enwebiadau(au) rydych yn eu cyflwyno.
• Cadwch at y terfyn geiriau o 250 a rhowch atebion mewn pwynt bwled os oes angen.
Gellir dod o hyd i gategorïau’r gwobrau isod.

Sut i Enwebu
• Rhowch fanylion eich enwebiad ar ffurflen enwebu Gwobrau Gwirfoddolwr Cymunedol y Flwyddyn (URC) 2024, sydd ar gael yma.
• Bydd enillwyr Gwobrau Gwirfoddolwr Cymunedol y Flwyddyn (URC) 2024 yn cael eu dewis yn seiliedig ar deilyngdod gan URC yn unig.
• Bydd y broses enwebu’n cau am hanner nos 4 Mawrth 2024.
• Drwy gofrestru ar gyfer, a chyflwyno unrhyw gais i, Wobrau Gwirfoddolwr Cymunedol y Flwyddyn (URC) 2024, rydych yn cadarnhau eich bod wedi:
– darllen, deall a chytuno y byddwch yn cydymffurfio â’r Telerau ac Amodau Gwobrau.

Os bydd eich enwebiad yn llwyddiannus yng Ngwobrau Gwirfoddolwr Cymunedol y Flwyddyn (URC) 2024, byddwch chi ac unrhyw berson perthnasol arall yng nghyd-destun y Wobr yn cydymffurfio’n llawn â thelerau ac amodau’r Gwobrau. Byddwch hefyd yn cydymffufrio gydag unrhyw gyfarwyddiadau a thelerau penodol eraill (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau penodol sydd wedi’u cynnwys yn yr adran hon o wefan URC).