“Mae wedi rhoi hwb i’w hyder”, “mae ganddi deulu newydd o ffrindiau”, “mae’n teimlo ei bod hi’n aelod gwerthfawr o dîm”, “mae wedi bod yn brofiad gwych a chadarnhaol”, “rydw i wedi meithrin diddordeb newydd hefyd drwy fynychu sesiynau ffitrwydd rygbi.”

Dyma farn rhai o’r rhieni y mae eu merched wedi dechrau ymwneud â rygbi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Gwelwyd cynnydd enfawr yn nifer y merched sy’n dangos diddordeb ac sy’n cymryd rhan mewn rygbi merched yng Nghymru. Mae nifer y merched sy’n chwarae rygbi yn un o’r 95 o ysgolion a cholegau sydd â swyddogion hybu rygbi llawn-amser wedi cynyddu o lai na 200 i bron 10,000 yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Y tu allan i’r ysgol erbyn hyn, mae canolfannau clystyrau ‘merched yn unig’ yn dechrau ar eu trydydd tymor ‘gwanwyn a haf’ ac yn mynd o nerth i nerth.

– Y tymor hwn ceir mwy o gyfleoedd fyth i ferched gymryd rhan, gan fod 32 o glystyrau o amgylch Cymru a bod yr ystod oedran a gynigir yn y clystyrau wedi’i ehangu er mwyn darparu ar gyfer y galw ymhlith merched i allu chwarae rygbi mewn cymunedau ledled Cymru. Erbyn hyn mae’r clystyrau ar agor i ferched o bob oed – o rai dan 7 i rai dan 18.

– Mae’r clystyrau wedi mabwysiadu ethos o ddarparu ar gyfer cam datblygu yn hytrach nag oedran, oherwydd mae’n bosibl bod rhai merched am barhau i chwarae rygbi digyswllt, rygbi tag a rygbi cyffwrdd tra bo eraill yn awyddus i symud ymlaen i chwarae rygbi cyswllt llawn. Mae’r clystyrau yn diwallu pob un o’r anghenion hynny ac yn darparu ystod o gyfleoedd i ferched ddewis o’u plith, er mwyn darparu ar gyfer ystod lawn o ddiddordebau a gallu.

– Yr haf diwethaf bu dros 3,000 o ferched yn cymryd rhan yn rheolaidd yn un o’r clystyrau cymunedol sy’n bodoli o amgylch Cymru. Eleni’n barod mae dros 90% o’r merched hynny wedi ailgofrestru, ac oherwydd bod chwaraewyr newydd wedi ymuno â phob gr?p oedran a bod y grwpiau oedran iau a h?n newydd wedi’u hychwanegu, mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu ein bod ar drothwy blwyddyn arall o dwf yn hanes clystyrau rygbi.

– Roedd 30% o gyfranogwyr y tymor diwethaf yn perthyn i’r gr?p oedran dan 15, sy’n mynd yn groes i’r duedd genedlaethol ar gyfer merched yn eu harddegau, sy’n draddodiadol yn rhoi’r gorau i chwaraeon a gweithgarwch corfforol pan fyddant yn cyrraedd yr oedran hwnnw.

– Mae peth wmbredd o waith wedi’i wneud y tu allan i’r tymor – yn enwedig gan wirfoddolwyr yn y clystyrau a chan Arloeswyr URC ar gyfer camp y menywod a’r merched – i gryfhau ac atgyfnerthu strwythurau’r clystyrau. Mae hynny’n cynnwys recriwtio datblygwyr clystyrau er mwyn cynorthwyo’r gwirfoddolwyr, gan gynnwys arweinwyr y clystyrau, hyfforddwyr a swyddogion diogelu, drwy ddarparu hyfforddiant.

– Er mwyn ateb y galw, mae calendr o wyliau wedi’i drefnu ar gyfer pob rhanbarth er mwyn i ferched allu chwarae yn erbyn clystyrau eraill yn y fformat rygbi y maent wedi’i ddewis.

Meddai Rheolwr Ymgysylltu Menywod a Merched URC, Charlotte Wathan: “Rydym yn gwybod bod merched yn ffynnu mewn amgylchedd hwyliog a chyfeillgar, ac mae’n amlwg bod y cysyniad o glystyrau rygbi ‘merched yn unig’ yn ystod misoedd yr haf wedi ateb galw mawr ymhlith merched i ymwneud â rygbi.

“Rydym wedi gwrando ar ferched, rhieni a gwirfoddolwyr ac wedi ehangu’r ystod oedran a’r ardaloedd lle ceir cyfleoedd i fod yn rhan o glwstwr, a byddwn yn cynnal yr amrywiaeth o fformatau rygbi a gynigir ac y gall merched ddewis o’u plith mewn clystyrau, waeth beth fo’u hoedran.”

Mae Stradey Sospans yn glwstwr llewyrchus yn Llanelli ac mae’n denu dros 100 o ferched bob wythnos i sesiynau hyfforddi. Mae rhai o aelodau’r clwstwr eisoes wedi symud ymlaen i chwarae i dîm dan 18 y Scarlets ac mae llawer o’r aelodau eraill yn dechrau chwarae rygbi am y tro cyntaf y tymor hwn.

Meddai arweinydd clwstwr y Sospans, Jamie Hodson: “Rydym yn sicrhau bod y sesiynau’n hwyl ac yn ddifyr, bod y merched yn gwneud ffrindiau, eu bod yn meithrin llawer o hyder ac yn dysgu sgiliau newydd, ond yn anad dim eu bod bob amser yn gwenu.

“Erbyn hyn rydym yn dechrau ar ein trydydd tymor ac rydym yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn. Roedd galw yn yr ardal erioed am gyfleoedd i ferched chwarae rygbi, ac mae’r clystyrau yn cynnig llwybr i rygbi ar lefel clybiau a rhanbarthau.”

Wedi i dri o glystyrau yn y gogledd – y Ravens, y Rebels a’r Môr-ladron – gyflwyno is-ganolfannau ychwanegol y tymor diwethaf, mae chwech o’r is-ganolfannau hynny wedi troi’n glystyrau yn eu rhinwedd eu hunain, sef Môn Stars ar Ynys Môn, Ceirw Nant yn Nant Conwy, Y Celtiaid ym Mhwllheli, Dreigiau’r Glannau yn Abergele, Valkyries yn Shotton, a chlwstwr Meirionnydd. Mae clwstwr newydd i’w gael yn Aberafan hefyd – y Talbot Reds.

Meddai Dave Roberts, Arloeswr y Gogledd ar gyfer camp y merched a’r menywod: “Ar ôl ychwanegu is-ganolfannau y llynedd, gwelsom fod arnom angen rhagor o ddarpariaeth yn y gogledd er mwyn manteisio ar yr awydd mawr i chwarae rygbi, a welwyd ymhlith merched yn ein hysgolion a thrwy ein clystyrau haf.

“Rydym eisoes wedi gweld bron yr un faint o ferched yn ein clystyrau yn ystod wythnosau cyntaf y tymor hwn ag a welsom yn ystod yr haf cyfan y llynedd, ac rwy’n si?r y bydd y niferoedd yn cynyddu ymhellach wrth i bobl glywed am yr hwyl a’r brwdfrydedd sy’n bodoli yn y clystyrau.”

Mae Pennaeth Cyfranogiad URC, Ryan Jones, o’r farn y gall pawb gael budd o ymwneud â rygbi. Meddai: “Ein nod yw sicrhau bod pawb sy’n awyddus i ymgysylltu â’n camp yn cael profiad cadarnhaol. Rydym yn gwybod bod clystyrau yn ffordd hwyliog o ymwneud â rygbi ac o sicrhau bod merched yn cael cyfle i fwynhau’r manteision o ran iechyd a’r manteision cymdeithasol ac emosiynol yr ydym yn gwybod bod rygbi’n eu cynnig i unigolion, teuluoedd a chymunedau.”

Meddai’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rwy’n falch o glywed bod rygbi merched yng Nghymru, o ganlyniad i’r gwaith gwych y mae URC yn ei wneud i ehangu apêl y gamp, yn gweld cynnydd enfawr yn nifer y merched sydd â diddordeb yn y gamp ac sy’n cymryd rhan ynddi. Rydym yn gwybod bod bwlch rhwng bechgyn a merched a rhwng dynion a menywod yng Nghymru o safbwynt y graddau y maent yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Bydd y cyfleoedd y mae URC yn eu darparu i ferched a menywod ifanc gymryd rhan mewn amryw fformatau rygbi, heb os, yn helpu i leihau’r bwlch hwnnw.”

Ewch i wru.wales/girlsrugby i ddod o hyd i’ch clwstwr agosaf. Mae croeso cynnes bob amser i aelodau newydd.