Mynychodd pob un o’r pedwar rhanbarth wersyll hyfforddi llwyddiannus a gynhaliwyd y penwythnos diwethaf yng Nghanolfan Ragoriaeth Genedlaethol URC. Roedd yn gyfle i Rowland Phillips, prif hyfforddwr newydd tîm Merched Cymru, gyflwyno ei negeseuon allweddol i chwaraewyr a hyfforddwyr wrth iddo baratoi ar gyfer y tymor newydd.