Neidio i'r prif gynnwys

Liza Burgess – angen wella cynwysoldeb ar draws rygbi Cymru

Liza Burgess

Is-cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Liza Burgess

Mae is-gadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru, Liza Burgess, wedi siarad am ei phenderfyniad i wella cynwysoldeb, amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel o’r gêm yng Nghymru.

Rhannu:

Yn arloeswr ar gyfer gêm y Merched, hyfforddwr enwog a chyn-gapten Cymru, Burgess oedd y cyfarwyddwr benywaidd cyntaf i gael ei ethol i’r Bwrdd drwy bleidlais clybiau sy’n aelodau, ym mis Tachwedd 2019.
Mai’n dweud nad yw, fel benyw ar y bwrdd, am fod yn ystum symbolaidd, ac mae am ysbrydoli merched eraill i gyflwyno eu hunain ar gyfer rolau allweddol.

“Mae’n amlwg yn anrhydedd enfawr cynrychioli Rygbi Cymru fel hyn.
“Mae fy etholiad yn dangos bod Rygbi Cymru yn awyddus i ystyried newid a chynyddu’r amrywiaeth ar y Bwrdd. Ond rwy’n credu fy mod wedi cael fy ethol am y rhesymau cywir ac nid am fy mod yn ddynes. Byddaf yn dod â’m harbenigedd a’m profiad fel chwaraewr, hyfforddwr ac athro rhyngwladol i’r gofynion heriol o ddatblygu Rygbi Cymru.

“Doeddwn i byth yn disgwyl bod ar Fwrdd URC na dod yn is-gadeirydd, ond mae’n debyg y dylem ni i gyd ddechrau meddwl ychydig yn wahanol yn hynny o beth.
“Pam na ddylai merched, ac nid merched yn unig ond pobl o bob cefndir a maes arbenigedd a phrofiad gamu ymlaen ar gyfer y math hwn o rôl?
“Mae’n rhaid i ni ddechrau yn rhywle. Efallai mai fi yw’r ferch etholedig gyntaf ar y Bwrdd ond mae hynny’n dangos fod llwybr i eraill eu dilyn. Byddwn yn annog merched ar bob lefel o’r gêm i gyflwyno eu hunain ar gyfer rolau arweiniol. Os bydd fy etholiad yn rhoi ysgogiad i ferched eraill gyflwyno eu hunain yn eu clybiau a’u Hardaloedd, dyna’n union sydd ei angen arnom i gynyddu’r amrywiaeth o ran rhyw.

“Mae angen amser ac ymrwymiad, ond os ydych yn angerddol am rywbeth, gallwch wneud gwahaniaeth. Mae gan bawb eu profiad a’u cymwyseddau i ddod â nhw at y bwrdd. Byddwn i’n dweud peidiwch â bod ofn cefnogi eich hun.

Rydym yn bendant yn mynd i’r cyfeiriad cywir ac yn gwneud cynnydd sylweddol wrth i ni barhau ar ein taith gynhwysol.”
Mae Burgess hefyd yn awyddus i gefnogi datblygiad chwaraewyr benywaidd rhyngwladol yng Nghymru ac yn y gêm gymunedol.
“Rydym wedi bod drwy gyfnod tyngedfennol yn barod eleni gyda’r pandemig. Mae cyfnod o newid o fewn llywodraethiant URC, a byddaf yn cefnogi’r cadeirydd newydd Rob Butcher a’r staff gweithredol i helpu Rygbi Cymru i ddod allan o’r argyfwng gyda sylfaen gynaliadwy.
“Yn seiliedig ar fy mhrofiad a’m diddordebau, rhai o’m blaenoriaethau allweddol fydd gwella ein hamrywiaeth, ein cydraddoldeb a’n cynwysoldeb ar bob lefel er mwyn i ni gynrychioli holl boblogaeth Cymru.
“Rwy’n amlwg yn angerddol am helpu merched a genethod Cymru i barhau a gwella ar lefel uchaf y gêm, ac rwyf hefyd eisiau cefnogi clybiau ar lawr gwlad, sydd wrth galon y gêm yng Nghymru.”

Ychwanegodd cadeirydd URC, Rob Butcher, “Mae’n anrhydedd ac yn fraint croesawu Liza i swydd is-gadeirydd Bwrdd URC.
“Mae Liza wedi bod yn aelod annatod o’n Bwrdd ers ei hethol yn 2019. Er bod ffigyrau benywaidd hŷn eraill yn Amanda Blanc ac Aileen Richards yn ymuno â hi, fel cynrychiolydd etholedig mae hi’n fodel rôl arbennig o bwerus i’r brîd newydd o aelodau i’r Bwrdd. Brîd yr ydym i gyd yn gobeithio y bydd ein clybiau yn parhau i’n helpu i gynhyrchu.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert