
Prentisiaid URC yn cynnig gweithgareddau rygbi gyda prentisiaid Chwaraeon yr Urdd yn Grangetown, Caerdydd
Prentisiaethau Datblygu Rygbi URC yn ysgogi llwyddiant
Mae Undeb Rygbi Cymru yn chwilio am 12 o bobl ifanc sy’n awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau drwy Brentisiaeth Datblygu Rygbi a fydd yn para 12 mis.
Mae’r brentisiaeth yn ffordd berffaith i bobl ifanc (18 -24 oed) ennill arian wrth ddysgu. Byddant yn cael cymhwyster NVQ Lefel 3 (Tystysgrif a Diploma) mewn Datblygu Chwaraeon ac yn ennill peth wmbredd o brofiad ymarferol wrth gyflwyno gweithgareddau rygbi i gyfranogwyr o bob oed a gallu mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol.
Mae prentisiaid blaenorol a phresennol wedi magu hyder ac wedi meithrin sgiliau allweddol ym maes datblygu chwaraeon drwy’r lleoliad, sy’n flwyddyn o hyd, ac maent wedi llwyddo i wella mewn meysydd megis eu gallu i ddysgu’n annibynnol a’u cyflogadwyedd, sydd wedi eu helpu i gael lleoedd mewn prifysgolion a chael swyddi llawn-amser.
Roedd Caitlin Rees braidd yn bryderus ar y dechrau oherwydd nad oedd ganddi gefndir ym maes rygbi ond drwy gydol y flwyddyn mae wedi gweld ei bod wedi defnyddio ac ennill sgiliau, y mae modd eu trosglwyddo, er mwyn ei helpu i ddatblygu fel hyfforddwr. Mae’n awr yn dechrau ar gwrs TAR gyda’r bwriad o fod yn athrawes ysgol gynradd.
GWYLIWCH Y FIDEOS ISOD A CLICIWCH YMA I GAEL GWYBOD MWY AC I YMGEISIO
“Fe wnes i gwblhau hyfforddeiaeth gyda’r Scarlets yr haf diwethaf, a daeth y cyfle hwn wedyn. Mae’n cynnig rhywbeth gwahanol bob dydd – rydym yn hyfforddi mewn ysgolion ac yn cyflwyno gweithgareddau mewn digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’n her, a dyma’r peth gorau i fi ei wneud erioed. Does dim rhaid i chi fod yn chwaraewr rygbi i fod yn hyfforddwr ar brentisiaeth.”

“Doedd mynd i’r brifysgol ddim yn addas i mi a doeddwn i ddim yn ddigon da i fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol, felly roeddwn yn chwilio am rywbeth arall i’w wneud ym maes rygbi. Mae’r brentisiaeth wedi rhoi hwb enfawr i fy hyder,” meddai Johan Hoogendoorn.