Ystradgynlais

O Ystradgynlais i’r byd!

Mae Ystradgynlais wedi casglu cefnogaeth rhai o’r enwau mwyaf mewn rygbi eer mwyn cadw pawb i fynd – gan fwriadau dod allan o’r cload mawr yn gryfach fel canlyniad

Effeithiodd y pandemig Covid a’r cload ar filoedd o unigolion a theuloedd ledled y wlad mewn sawl ffordd wahanol, ond, yn ogystal, mae wedi dod a chlybiau a chymunedau at ei gilydd.

Neb yn fwy felly nag yn Ystradgynlais yn Nyffryn Abertawe. O gwisiau, adloniant cerddorol a nosweithiau Sadwrn gyda rhai o’r enwau mwyaf yn y gȇm, gweithiodd y clwb, sydd yn Adran Dau Canol y Gorllewin, yn galed, ddim yn unig i gadw ei chwaraewyr, hyfforddwyr, aelodau a chefnogwyr ei hun yn gysylltiedig ond cyrhaeddodd ei feddylfryd ‘awyr las’ gefnogwyr mwynhau rygbi ledled y byd.

Gareth Thomas, Cyn brop i’r clwb a hyfforddwr presennol dan 10,sydd wedi cymryd yr awennau fel rheolwr anffurfiol adloniant yn ystod y clo, yn benodol, drwy arwain cwisiau gydag C & A gyda rhai tebyg i Shanw Williams a Tom Shanklin.
Dywedodd, “Roeddem oll eisiau cefnogi’r clwb ar yr adeg yma ag mae’n angrhedadwy sut mae’r gymuned wedi dod at ei gilydd. Bu inni ddechrau drwy drefnu codwyr arian ar gyfer yr Ysbyty a’r gymuned leol drwy Grysau-T GIG a chyfraniadau Wyau Pasg. Yn gystal, bu inni ddechrau cynnal nosweithiau cwis wythnosol a oedd yn cael eu cefnogi gan fusnesau lleol. Symudodd hynny ymlaen i nosweithiau cerdd byw arlein ag yna, bu inni feddwl am gyfweld rhai o sȇr y gȇm – ein ferswin ni o Noson Gyda….

“Cyn belled, bu inni gael Shane Williams, Adam Jones, Sean Holley a Tom Shanklin. Daeth yn uchafbwynt da i’r wythnos i lawer – bu inni gael mwy na 100 000 o bobl yn ymuno gyda ni yn ystod ein slot nos Sadwrn ar ein tudalen Gweplyfe, sydd, i glwb bychan, yn bur anhygoel. Gall pobl anfon cwestiynau atom ymlaen llaw neu’n ystod y cyfweliadau byw a bu inni gael pobl yn tiwnio i mewn o gwmpas yr holl fyd. Mae gennym Lee Byrne a Ben Evans wedi’u llogi ar gyfer Sadwrn yma ac, yn barod, rydym wedi cael cwestiwn wedi’i anfon o Awstralia! Nigel Owens yw’r nesaf ar y rhestr.
“Mae’n ardderchog y modd y mae’r enwau mawr a’r chwaraewyr rhyngwladol yma’n rhoi eu hamser yn rhad ac am ddimer mwyn cadw’r gymuned rygbi ynghlwm ȃ’i gilydd a derbyniasom adborth ardderchog. Nid yw am godi arian, ond cael ychydig o hwyl a chadw pawb gyda’i gilydd.”

Mwynhaodd y chwaraewyr y digwyddiadau. Dywedodd Shane Williams, “Roeddwn ond yn rhy falch i gymryd rhan. Mae’n ardderchog gweld yr hyn mae clybiau fel Ystradgynlais yn ei wneud er mwyn cadw pawb ynghlwm ar yr adeg yma” a ychwanegodd Tom Shanklin, “Gobeithio, y bydd dod at ei gilydd fel hyn, yn annog pobl i ddod yn ôl i glybiau rygbi pan fydd rygbi’n ail-ddechrau.”

Cred Gareth fod cenhedlaeth newydd o wirfoddolwyr wedi dod i’r amlwg yn ystod yr amser yma.
“Mae gennym wirfoddolwyr ardderchog yn y clwb sydd wedi ymroi’n llwyr drwy eu bywydau i rygbi Cymreig. Fodd bynnag, yn ystod yr amser yma, mae eraill oedd yn perthyn i’r clwb hefyd eisiau helpu mewn unrhyw ffordd y gallent. Yn amlwg, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn allweddol yn ystod y cload ac felly, bu inni geisio cael y gorau ar hynny drwy ac mae gennym ychwaneg o syniadau i gynorthwyo’r clwb tros y misoedd nesaf a, hyd yn oed, pan fydd rygbi’n ôl yn rhedeg unwaith eto.
“Yn arferol, byddwn yn cynnal Diwrnod i’r Teulu a ras hwyaid i godi arian ar gyfer ein adrannau mini ac iau yn ystod yr haf. Ni all hynny ddigwydd eleni, ac felly, ar ddiwedd Gorffennaf, rydym am gynnal yr hyn a gredwn ni yw’r ras hwyaid gyntaf erioed wedi’i chynhyrchu dros gyfrifiadur! Byddwn yn ffilmio’r afon a gall pobl brynu’u hwyaid a fydd yn cael eu gosod ar ben y rhai ar y peiriant yn yr un modd ag y gwneir gyda rasus ceffylau dros gyfrifiadur. Gwyliwch y gwagle!”

Glyn Rees

Mae Llywydd y clwb, Glyn Rees yn dathlu ei 60fed blwyddyn gyda'r clwb - gyda Llywydd Undeb Rygbi Cymru llynedd

Mae Llywydd y Clwb, Glyn Rees, sydd wedi bod yn rhan hanfodol o Glwb Rygbi Ystradgynlais am 60 mlynedd mor falch yn gweld y clwb yn cael ei yrru ymlaen gan wirfoddolwyr ieuengach.

Dywedodd, “Bu i Gareth, yn arbennig, a’i griw afael yng nghyrn y clwb tros y misoedd diwethaf gan ei gymryd at y genhedlaeth ieuengach drwy ddefyddio technoleg fodern. Dyna’r hyn yr oeddem ei angen. Yn y gorffennol, roedd pawb yn chwarae rygbi’n ein hardal ond, yn awr, mae’n rhaid i ni ei werthu i bobl ifanc a gobeithio, pan y down allan o’r cload, y byddwn mewn lle gwell i wneud hynny – diolch i’w hymdrechion hwy.”

Mae gan Ystradgynlais adran Iau iach ac, yn barod, mae’n cael budd o gydweithredu gyda chlybiau cyfagos er mwyn hybu rygbi’n yr ardal. Hefyd, gwelir grŵp Rygbi Cyffwrdd sy’n tyfu – Yogits – ar gyfer y grŵp oedran 35+. Ychwanegodd Rees, a gyflwynwyd gyda Gwobr Cyrhaeddiad Oes y Llywydd gan Dennis Gethin yr haf diwethaf,

“Bu inni ymuno gyda Cwnmtwrch ag Abercraf ar lefel Dan 14 i ffurfio ‘Tawe Titians’ ac, ar lefel Ieuenctid, bu inni ffurfio partneriaeth lwyddiannus gydag Abercraf i ffurfio Ieuenctid Dyffryn Tawe Uchaf sydd wedi cadw nifer sylweddol o bobl ifanc yn y gȇm.

Yn awr, rydym yn rhan o Hwb Benywaidd ‘Valley Ferns’ sydd y ‘candi ar y deisen’ ac rydym yn edrych ymlaen at gael hynny’n rhedeg yn effeithiol. Mae’r ‘Yogits’ yn darparu cyfle pwysig i’r grŵp 35+ ac, am y tro cyntaf mewn bron i ddegawd, mae gennym hyfforddwyr a chwaraewyr sy’n awyddus i greu Ail XV. Aeth ein Pwyllgor i fyny o saith i 13 aelod ac ni fum mor gadarnhaol am ddyfodol y clwb er amser maith.

Mae gennym ddywediad yn y clwb – ‘Mae’r Dyfodol yn Olau, Mae’r Dyfodol yn Las’ a serch byw trwy’r haint ofnadwy yma, gobeithio y bydd y dyfodol un olau i glybiau eraill yn ogystal.”

Touch rugby

Mae'r Tim Rygbi Cyffwrdd Yr Yogits wedi creu cyfle i bobl dros 35 yn yr ardal

Mae tîm Rygbi Cyffwrdd yr Yogits, serch yn annibynnol o Glwb Rygbi Ystradgynlais, yn darparu cyfle pwysig i’r grŵp 35+ yn yr ardal hon.

Andrew Morgan-Jones ddechreuodd y grŵp Rygbi Cyffwrdd Yogits ag ef yw’r Arweinydd. Dywedodd, “Mae mor syml a chriw o ddynion yn troi i fyny ar nos Iau i daflu pȇl o gwmpas. Rydym yn dal yn bur gystadleuol ond ddim mor gyflym ag yr arferem fod; rhai ohonom gydag anafiadau fel fi fy hun – mae gennyf ffurf danbaid o gryd Cymalau Rhiwmatoid ond, wedi dysgu sut mae ymarfer yn wir helpu, roeddwn eisiau gosod rhywbeth i fyny ar gyfer pobl fel fi.

Yn wir, nid oedd yna ddim byd tebyg ar gael yna rhwng gorffen rygbi a Rygbi Cerdded nad oeddem yn barod iddo. Llogais le ar hap yn y Ganolfan Hamdden leol a throdd beth ddechreuodd fel pump neu chwech ohonom i gael o gwmpas 50 o bobl ar ein llyfrau.

“Mae’r ochr gorfforol yn ardderchog a daw hynny a buddiannau iechyd meddwl enfawr, yn enwedig i ni ddynion wedi inni ymddeol o chwaraeon tîm. Hwyrach na fuasech yn mynd i redeg neu i seiclo ar noson oer o aeaf ond, gyda phȇl rygbi a rheswm i ddod at ein gilydd, ceir synnwyr arddechog o fwynhȃd ac ymwneud ȃ’n gilydd.

“Mae gennym aelodau’n mynchu o ardal eang ac rydym yn cadw cysylltiad gyda thimau cyffwrdd tebyg yng Nghas-Gwent, Rhondda a Risca gan drefnu gemau bob hyn a hyn ond yr allwedd i ni yw’r sesiynau nos Iau rheolaidd.”

Bu Yogits yn actif yn ogystal yn ystod y cload wrth gadw’r slot nos Iau i fynd gyda chwisiau a heriau rheolaidd.

“Bu inni gwblhau her 4,000 milltir (drwy gerdded / rhedeg / seiclo neu symud yn unig!!) gan godi £2k ar gyfer ‘Mind’ YstradgynlaisRydym yn edrych i barhau i adeiladu’n partneriaeth gyda ‘Mind’ Ystradgynlais er mwyn cynorthwyo i godi proffeil ac ymwybyddiaeth o reoli Iechyd Meddwl yn effeithiol yn ein cymuned a thu hwnt.”