Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws 05/08/20

Diweddariad Statws

“Y llawenydd yr wythnos hon ar wyneb fy ŵyr ifanc, Tom, pan ddywedodd wrthyf ei fod yn dychwelyd i hyfforddiant rygbi gyda gweddill ei ffrindiau yn  Clwb Rygbi Cymry Caerdydd (Dan 7) yn cael ei sugno i’r enaid.Gwn fod hyn yn deimlad sy’n cael ei ailadrodd ar hyd a lled y wlad wrth i’n timau clwb, hwb a chymuned gymryd eu camau cyntaf tuag at ddychwelyd i rygbi, yn ddiogel.

Rhannu:

Rwy’n cymeradwyo ein timau gweithrediadau clwb, perfformiad meddygol a rygbi cymunedol am greu’r canllawiau yn unol â Llywodraeth Cymru i alluogi’r broses hon. Rydym wedi cymryd rhai camau bach ond maent yn gamau penderfynol yn y cyfeiriad cywir.

Yn y gêm broffesiynol hefyd, mae ein timau rhanbarthol wedi dechrau ar gyfnod newydd yn eu dychweliad at hyfforddiant rygbi sydd bellach gyda chysylltiad llawn ac yn gallu ymdebygu i arferion a phatrymau cyn-Covid-19, tra’n cadw at y protocolau diogelwch caeth sydd wedi cael eu rhoi ar waith. Rwy’n gwybod mai’r nodau a’r amcanion yma yw cadw’r firws oddi ar y llain ac i ffwrdd o’r amgylchedd rygbi proffesiynol yn gyfan gwbl yn hytrach na cheisio chwarae’r gêm ei hun mewn ffordd wahanol, ond byddwn yn parhau i wylio a dysgu gan genhedloedd eraill sydd o’n blaenau yn ogystal â chwaraeon eraill.

Chwaraeon fel pêl-droed, allai, o bosibl, gynnig lleoliad i gynnal gêm ail-chwarae Cymru’n y Chwe Gwlad 2020 yn erbyn yr Alban.  Mae llawer i’w benderfynu o hyd, o ran mynediad i’r dorf, a fydd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ein dewis o leoliad, ond mae gennym gêm wedi’i chadarnhau erbyn hyn.

Unwaith eto, y camau bach hyn sy’n rhoi gobaith i ni i gyd ac edrychwn ymlaen at y cam cadarnhaol nesaf ymlaen yn y cyswllt hwn, a fyddai’n profi digwyddiadau o flaen torfeydd bach.  Pan fydd gennym leoliad, byddwn yn sicrhau bod tocynnau ar gael ar y cyfle cyntaf posibl, gan gymryd y bydd torfeydd yn cael eu caniatáu.  Rydym yn gwybod bod cefnogwyr yn awyddus i ddychwelyd gyda thua 25% o’r rhai sy’n ceisio ad-daliadau am gêm wreiddiol yr Alban, yn dewis credyd neu roi’n ôl fel y dewisiadau a gynigiwyd gennym.  Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r holl gefnogwyr hynny sydd wedi dangos eu cefnogaeth i rygbi Cymru yn y modd hwn ac yn arbennig, y rhai sydd wedi rhoi’r arian a wariwyd ar docynnau i’r gêm, sydd wedi darparu tipyn dros £20,000 mewn arian hynod dderbyniol i’n gêm ni’n barod.

Wythnos nesaf, byddwn yn dechrau’r broses gyfweld ar gyfer Prif Weithredwr nesaf Undeb Rygbi Cymru, i olynu Martyn Phillips a fydd yn ein gadael yn yr Hydref. Ehangodd Martyn ei ddeiliadaeth ar ôl cynllunio i gamu i lawr ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd a gwn fy mod yn siarad ar ran yr Undeb wrth ddiolch iddo am ‘ gamu i fyny ‘. Nid yn unig y mae wedi arwain yr Undeb o’r tu blaen yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi bod yng nhrwch y materion byd-eang sy’n wynebu’r gêm, yn cynrychioli nid yn unig Cymru ond buddiannau gorau’r gamp.  Bydd yn weithred anodd i’w dilyn. Mae gennym hanner dwsin o ymgeiswyr o safon uchel iawn i siarad â nhw ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r broses hon. Mae hon yn rôl bwysig iawn i rygbi Cymru a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r unigolyn iawn i arwain ein tîm gweithredol ar yr adeg hon o liferiad sydd gyda chyfle gwych ar gyfer y gêm ar raddfa ryngwladol

Yn olaf, gan fod enwebiadau bellach wedi cau ar gyfer swydd aelod o’r Cyngor Cenedlaethol, hoffwn ailadrodd fy nymuniad i gynnig cyfnod o barhad a sefydlogrwydd i rygbi Cymru drwy wasanaethu am dymor pellach yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Os bydd clybiau sy’n aelodau yn penderfynu eu bod am i mi wneud hynny, byddaf yn cymryd y fantell yn ystod yr hyn a fyddai’n drydydd, a’m tymor olaf gyda chymaint o angerdd a brwdfrydedd ag a wneuthum yn fy nghyfnod cyntaf. Rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach â chlybiau sy’n aelodau yn ystod yr wythnosau nesaf i egluro fy ngymhellion dros sefyll a’m cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn llawn. Fodd bynnag, digon i’w dweud yma, yr wyf yn dal i deimlo’r un ymdeimlad o ddyletswydd a theyrngarwch i rygbi Cymru ag a wneuthum yn 2014 pan gefais fy ethol gyntaf ac ni allaf gyfiawnhau imi fy hun y syniad o adael ar adeg y mae’r gêm genedlaethol fwyaf o angen, o bosibl.

Yr eiddoch mewn rygbi,
Gareth Davies
Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru

Enwebiadau ar gyfer Aelod o’r Cyngor Cenedlaethol

Mae enwebiadau bellach i mewn gyda thri ymgeisydd ar gyfer rôl Aelod o’r Cyngor Cenedlaethol sydd ar hyn o bryd yn cael ei dal gan y Cadeirydd, Gareth Davies.

Yn unol ag Erthygl 57 o Erthyglau Cymdeithas URC (yr “Erthyglau”), bydd papurau pleidleisio’n cael eu dosbarthu i glybiau sy’n aelodau tros yr ychydig ddiwrnodau nesaf, ynghyd â chopïau o’r dogfennau proffil ymgeisydd perthnasol.

Ieuan Evans a Nigel Davies fydd yn ymuno â’r deilydd presennol, Davies ar y papur pleidleisio.
Ni enwebwyd rhagor o ymgeiswyr ar gyfer unrhyw un o’r rolau Aelodau Ardal o’r Cyngor oedd ar gael.
Bryn Parker (Ardal A); Dave Young (Ardal B); Ray Wilton (Ardal C); Felly, bydd Chris Morgan (Aedal D) a Phil Thomas (Ardal E) yn cael eu hailbenodi fel Aelodau Ardal o’r Cyngor ar gyfer eu Hardaloedd perthnasol.

Bydd pob un yn gwasanaethu am dymor o dair blynedd a fydd yn dechrau ar ddiwedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni (a gynhelir ar 18fed Hydref 2020).

Dychwelyd i rygbi

Rydym wedi ymuno â’r cam diweddaraf yn ein cynllun i gael Rygbi Cymunedol yn ôl yn raddol. Agorwyd cofrestru ar-lein cymunedol URC ddydd Sadwrn – mwy na 17 000 o chwaraewyr a 2000 o wirfoddolwyr wedi cofrestru dros y penwythnos – ac ar yr amod bod chwaraewyr, hyfforddwyr a chlybiau wedi dilyn y camau angenrheidiol, gallwn bellach gymeradwyo hyfforddiant di-gyswllt wedi’i drefnu gyda grwpiau bach. Yn ogystal, yn dilyn y cyngor gan Lywodraeth Cymru y diweddaraf ddydd Gwener diwethaf (Gorffennaf 31ain), gall ein Dan 7 i Dan 11 oed YN UNIG bellach gynnwys rygbi tag a rygbi cyffwrdd yn eu sesiynau hyfforddi.

Fodd bynnag, gyda lles chwaraewyr o’r pwys mwyaf ar ôl pedwar mis i ffwrdd o’r gêm, rydym yn dal i beidio â sancsiynu rygbi cyswllt ar unrhyw lefel felly ni ddylai fod unrhyw rycio, sgarmesu, taclo, sgrymio neu linellau taflu i mewn ar unrhyw lefel y tro hwn. Byddwn yn parhau i adolygu hyn ac yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd.

Yn barod ar gyfer y cam hwn, rhoddwyd cyngor manwl i’r rhai sy’n ymwneud â’r gêm gymunedol yng Nghymru ac mae cyfres o weminarau wedi’u cynnal gyda Rheolwyr Gweithrediadau Clybiau a gwirfoddolwyr allweddol eraill sy’n ymwneud â meysydd allweddol megis ymarferoldeb paratoi chwaraewyr, gwirfoddolwyr a chyfleusterau clybiau ar gyfer sesiynau hyfforddi; newidiadau i weithdrefnau cymorth cyntaf; y broses gofrestru a chronfa dychwelyd i hyfforddi ar gyfer clybiau.Am yr holl gyngor a chanllawiau ar brotocolau Dychwelyd i Rygbi, ewch i:

Yn ogystal, bydd adran hyfforddi Cymunedol URC yn cyhoeddi canllaw gweithgareddau a gweminar ar gyfer hyfforddwyr i’w helpu i ddychwelyd i hyfforddiant yn ddiogel ar bob lefel yn y gêm, gan gynnwys canllawiau ar ddiogelwch a syniadau ar gyfer cynlluniau sesiwn o fewn y cyfyngiadau presennol.

Yr holl gysylltiadau sydd eu hangen arnoch:

* CLICK HERE ar gyfer Cwrs Ymwybyddiaeth Covid Rygbi’r Byd.
*Ewch i
wrugamelocker.wales i gwblhau pob cam arall o’r broses Dychwelyd i Rygbi yn y Gymuned – proses gofrestru ar-lein URC, gwiriwr symptom Covid ac ar gyfer pob cefnogaeth hyfforddi.
Bydd angen i unrhyw chwaraewyr, hyfforddwyr neu wirfoddolwyr newydd i’r gêm hefyd ddilyn y broses uchod cyn mynychu hyfforddiant clwb.

COFRESTRU AR AGOR

Mae cofrestriadau bellach ar agor i hyfforddwyr, dyfarnwyr a rheolwyr tîm am y tymor sydd i ddod, mae’n rhaid i bob parti ailgofrestru cyn cymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant a gaiff ei gymeradwyo gan URC.

Bydd angen i glybiau hefyd gymeradwyo cofrestriadau cyn unrhyw weithgaredd. Dylech fod yn ymwybodol bod hyn yn berthnasol i BOB hyfforddwr, ar draws POB grŵp oedran gwryw a benyw (gan gynnwys dynion a menywod hŷn), sy’n bwriadu hyfforddi rygbi ar gyfer UNRHYW glwb rygbi/ hwb merched yn ystod y tymor hwn.

Os ydych o dan 18 oed, mae’n ofynnol i chi fynegi gwybodaeth am eich rhiant/gwarcheidwad, neu gallwch gael eich rhiant/gwarcheidwad i’ch cofrestru ar eich rhan gan ddefnyddio’r un broses ag isod

I gofrestru fel hyfforddwr, rhiad ichwi ymweld ȃ Game Locker URC https://www.wrugamelocker.wales/ , gand logio i mewn gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair.

Gȇm Cymru

Mae’r Chwe Gwlad wedi cadarnhau manylion gemau wedi’u haildrefnu ar gyfer Pencampwriaeth Guinness y Chwe Gwlad, 2020:

DYDDIAD         GORNEST                AMSER*                       LLEOLIAD
ROWND 4                                         
24.10.2020         Iwerddon vYr Eidal     I’w gadarnhau1          Stadiwm Aviva
ROWND 5                                         
31.10.2020         Cymru v Yr Alban       14:15                          I’w gadarnhau 2
31.10.2020         Yr Eidal v Lloegr        16:45                         Stadio Olympico
31.10.2020         Ffrainc v Iwerddon     20:00                         Stade de France
* Mae’r holl amseroedd yn Amseroedd y DU
1Cyhoeddir yr amser cychwyn ar gyfer gêm Iwerddon v Yr Eidal maes o law
2Bydd y lleoliad ar gyfer gêm Cymru v Yr Alban yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Wrth aildrefnu’r gemau hyn, mae iechyd a diogelwch chwaraewyr, staff cysylltiedig a chefnogwyr wedi bod ar flaen y meddwl. Mae trefnwyr y Chwe Gwlad yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â’r holl awdurdodau perthnasol ar draws y priod awdurdodaethau i sicrhau bod y gemau hyn yn digwydd mewn amgylchedd diogel a byddant yn cyhoeddi rhagor o fanylion am brotocolau iechyd a diogelwch a chanllawiau ar bresenoldeb gwylwyr maes o law.

Mae’r Chwe Gwlad hefyd wedi cadarnhau y bydd Pencampwriaeth y Merched yn dod i ben yr hydref hwn ar y penwythnosau canlynol:

Penwythnos 24ain Hydref: Rownd 4
• Yr Alban v. Ffrainc
• Iwerddon v. yr Eidal
Penwythnos y 31ain o Hydref: Rownd 5
• Cymru v. yr Alban
• Yr Eidal v. Lloegr
• Ffrainc v. Iwerddon
Penwythnos y 5ed o Ragfyr: Rownd 3
• Yr Eidal v yr Alban
Bydd amserlen lawn yn cael ei chyhoeddi maes o law

O ran pencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan20, oherwydd cyfyngiadau amserlennu tymhorau, penderfynwyd na fyddai’r tair gêm sydd heb eu cynnal, yn cael eu chwarae ac na fyddai enillydd ar gyfer Pencampwriaeth 2020.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r Chwe Gwlad hefyd wedi bod yn datblygu cynlluniau wrth gefn ar gyfer fformat twrnamaint amgen yn lle gemau rhyngwladol yr Hydref ar gyfer 2020, wedi’u llywio’n bennaf gan gyfyngiadau teithio nad yw’n caniatáu i lawer o dimau rhyngwladol chwarae’r gemau a drefnwyd.

Bydd y twrnament hwn yn gystadleuaeth unigryw i wyth tîm, sy’n cynnwys undebau’r Chwe Gwlad a dau dîm rhyngwladol arall. Ar hyn o bryd, mae’r Chwe Gwlad yn cwblhau amserlenni cyfatebol, manylion gweithredol gan gynnwys lleoliadau yn ogystal â threfniadau masnachol. Disgwylir i gyhoeddiadau pellach yn ymwneud â’r gystadleuaeth hon gael eu gwneud yn ddiweddarach y mis hwn.

Dywedodd Ben Morel, Prif Swyddog Gweithredol y Chwe Gwlad, “Rydym wrth ein bodd yn gwneud y cyhoeddiad hwn heddiw. Er bod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod o heriol, rydym bob amser wedi bod yn obeithiol o ddod â’r twrnament eleni i ben ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at y gemau terfynol ym Mhencampwriaethau’r Dynion a’r Merched. Mae cymaint i’w chwarae o hyd, ac rydym yn hynod gyffrous am yr hyn sydd o’n blaenau.
“Mae iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth ac er bod rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus ac yn ymwybodol o’r amgylchedd allanol deinamig sy’n newid yn gyflym, rydym, serch hynny, yn hynod o falch ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir.”

Cynhadledd Anabledd URC 2020

Ar ddydd Sul, 23ain Awst 2020 (10:00-14:00) bydd URC yn cynnal ei gynhadledd hyfforddi cynhwysol rhithwir gyntaf.

Mae’r gynhadledd wedi’i hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu cyfleoedd i bobl ag anableddau mewn chwaraeon drwy hyfforddiant – naill ai mewn sefyllfa anabledd / gallu cymysg neu o mewn y gymuned rygbi ehangach.

Rydym yn falch iawn bod athletwyr, chwaraewyr a hyfforddwyr o bob rhan o’r Maes Rygbi Anabledd gyda ni i rannu eu gwybodaeth ar draws y meysydd hyn drwy ystod o gyflwyniadau allweddol a thrafodaethau panel.

Mae Cynhadledd Hyfforddi Gynhwysol URC yn fyw ar Eventbrite, ar gyfer cofrestru drwy’r linc: https://wruinclusivecoachingconference.eventbrite.co.uk
Archebwch ymlaen nawr i gadw eich lle.

Newyddion Rygbi

SÊR DOC NEWYDD – OHERWYDD MAEN NHW’N WERTH CHWEIL
Mae canlyniadau llawer iawn o waith caled ar ôl protocolau Dychwelyd i Rygbi ar ôl Covid-19 a’r gweminarau sydd wedi cael eu rhoi at ei gilydd i alluogi chwaraewyr i ddychwelyd at y gamp y maent yn ei garu i’w gweld yn nhîm Dan 16 Sȇr y Doc Newydd.
Dychwelodd yr ochr i hyfforddiant yr wythnos hon ac mae Ysgrifennydd y clwb, Faye Davies, yn dweud bod y pleser yn blaen i’w weld ar wynebau’r chwaraewyr.
“Mae’r bechgyn ifanc hyn wedi cael eu cythryblu yn eu harholiadau TGAU, misoedd dan do ar gonsolau gemau ac i ffwrdd o’u cyfeillion rygbi, ac roeddent mor hapus i gael hyfforddiant yn yr awyr agored,” meddai.
“Yn Sȇr y Doc Newydd, yr ydym wedi dilyn eich holl ganllawiau a phrotocolau yn union dros y mis diwethaf ac, er bod yn rhaid imi gyfaddef, bu’n dasg enfawr i ni i gyd ac i minnau fel Rheolwr Gweithrediadau’r Clwb i raeadru’r holl wybodaeth a sicrhau y glynir wrth yr holl brotocolau angenrheidiol, mae wedi bod yn werth chweil gweld y bechgyn ifanc hyn yn hyfforddi.
“Bydd ein timau Iau a Mini eraill o yn dilyn y trywydd hyfforddi yr wythnos nesaf a rhaid imi ddweud bod hyd yn oed y rhieni mwyaf pryderus yn awr yn teimlo y byddant yn gallu dychwelyd i rygbi’n hyderus.
“Yn y lle cyntaf, roedd rhai yn teimlo’n anesmwyth ynglŷn â dychwelyd at rygbi yn yr hinsawdd bresennol ond, ar ôl derbyn yr holl ganllawiau a phrotocolau a gyhoeddwyd gan URC y bu i Glwb Rygbi Sȇr y Doc Newydd eu dilyn a’u sefydlu, fe’u sicrhawyd bod diogelwch yn hollbwysig.”

CYFARFOD MANDERS
John Manders yw’r dyn newydd ar Gyngor Cenedlaethol URC, wedi iddo gael ei bleidleisio ymlaen gan y clybiau sy’n aelodau yng Nghymru.

Tiwniwch i mewn i Bodlediad diweddaraf URC am gyfle i glywed llawer mwy gan y dyn ei hun, ei gefndir, beth mae’n gobeithio ei gyflawni a’r prosiect hynod sy’n trawsnewid ei glwb annwyl Clwb Old Illtydians Rugby.
https://www.wru.wales/audio/welsh-rugby-union-podcast-31-2020/

PAUL JAMES YN GRADDIO
Fe wnaeth Paul James dros 200 o ymddangosiadau i’r Gweilch tros ddau gyfnod ac enillodd 66 o gapiau Prawf dros Gymru, ac felly mae’n gwybod beth mae’n ei gymryd i fod yn llwyddiannus ar y lefel uchaf.

Erbyn hyn mae wedi trosglwyddo i waith hyfforddi drwy weithio gydag Academi’r rhanbarth yn Abertawe ac mae James yn credu bod y dyfodol yn ddisglair yn Stadiwm Liberty.

Yn gallu cynnal a phropio dwy ochr y sgrym yn ystod ei yrfa chwarae, chwaraeodd James mewn dwy Gwpan y Byd, gan ennill Camp Lawn y Chwe Gwlad yn 2012, a theitl Pencampwriaeth y flwyddyn ganlynol.

Yr oedd ymysg grŵp o chwaraewyr a ddewiswyd yn ofalus fis Medi diwethaf, ar y cyd â’r rhanbarthau a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru, ddechreuodd ar y rhaglen gyntaf o 12 mis o hyd o Chwaraewr i Hyfforddwr, a oruchwylir gan Reolwr Hyfforddwr Perfformiad URC, Dan Clements.

Mae James yn ymuno â’r cynllun arloesol gan gydweithwyr y Gweilch, Justin Tipuric, Bradley Davies, James Hook a Rob McCusker, y ddeuawd o’r Scarlets Leigh Halfpenny ac Angus O’Brien ynghyd â’r Dreigiau ‘ Aaron Jarvis a Brok Harries ‘ a Dan Fish o Gleision Caerdydd. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd James, fel ei gyd-raddedigion, yn sicrhau dyfarniad lefel 3 UKCC mewn hyfforddi rygbi’r Undeb.

DARLLENWCH FWY YMA:

HEN BENARTHIAID UCHELGEISIOL
MaeTîM Adran 3 Dwyrain Canolog A, yr Hen Benarthiaid wedi ychwanegu cyfarwyddwr rygbi cyntaf, Keri Lovell, at eu staff ystafell gefn yn sgil arwyddo’r cyn-chwaraewr o Bontypridd, Jake Thomas, fel eu prif hyfforddwr.

Mae Lovell yn ymuno â’r clwb ar ôl gweithredu fel Swyddog Hwb Canolfan Bro Morgannwg ar ran URC gyda chyfrifoldeb arbennig am ddatblygu rygbi ym mhob un o ysgolion uwchradd a chynradd Penarth. Roedd yn swydd a enillodd wobr Swyddogion Hwb Cenedlaethol am newid y gêm i fenywod a hefyd y wobr Genedlaethol am Ddatblygu Hyfforddwyr yn ei flwyddyn gyntaf yn ei swydd gydag URC.

Mae’n hyfforddwr lefel 3 cymwysedig, ac ef yw hyfforddwr ‘Tîm Dan 16 Glesion Caerdydd’. Cyn symud i dde Cymru, roedd yn brif hyfforddwr y timau menywod ym Mhrifysgol Canterbury,Christchurch, prif hyfforddwr yn Gillingham Anchorians RFC a Hyfforddwr Datblygu ar gyfer RFU Lloegr.

Mwy yma:

JMAE ABBA YN AROS
Mae cyn-fachwr Cymru Steve Jones, o’r farn y bydd y trafferthion a brofodd ei chwaraewyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr i aros ar eu traed yn Uwchgynghrair grŵp Indigo y tymor diwethaf yn eu helpu i beidio â suddo pan fydd rygbi’n dychwelyd i ymgyrch 2020-21

Gyda dim ond ennill deirgwaith mewn 18 gêm cyn i’r tymor gael ei dorri’n fyr oherwydd coronafeirws, roedd y Ravens mewn perygl o ddisgyn allan o’r brif adran. Yr oeddent wyth pwynt islaw i Lanelli a Glynebwy, a oedd hefyd â gemau mewn llaw.

Ond mae’r gobeithion yn uchel am newid mewn ffawd pan fydd rygbi’n dychwelyd gyda Jones yn arwain y grŵp hyfforddi ar Faes Bragdy am yr ail dymor

https://community.wru.wales/2020/07/27/jones-and-bridgend-look-to-brighter-future/

FISHER YN PTSGOTA AM FRATHIAD ARALL YN Y GYNGHRAIR
Mae Paul Fisher wedi colli cyfrif o nifer y capiau a enillwyd gan y chwaraewyr sydd wedi dod drwy’r rhengoedd ynG Nhlwb Rygbi Llanelli ers iddo ddechrau hyfforddi yn y clwb 15 mlynedd yn ôl.

Fe wnaeth cymaint o chwaraewyr y Scarlets sydd wedi graddio i rengoedd Cymru a’r Llewod Prydeinig dorri eu dannedd am y tro cyntaf yn y gêm uwch-gynghrair yn chwarae yn y ‘ Scarlets ‘ gwreiddiol.

Nid yw taro’r cydbwysedd rhwng gwthio am anrhydeddau clwb a datblygu chwaraewyr ar gyfer gradd uwch o rygbi yn un hawdd a dau dymor yn ôl canfu Fisher ei fod yn brwydro yn erbyn y gostyngiad i Bencampwriaeth Cenedlaethol Specsavers mewn gêm yn erbyn Pont-y-pŵl oedd yn ddi-guro.

Gyda’r Cwpan Celtaidd ddim yn digwydd pan ddylai rygbi ailddechrau, dylai Llanelli gael gwell ergyd i geisio dringo’r tabl. Bydd hefyd yn helpu eu hachos eu bod wedi gallu cadw’r rhan fwyaf o garfan y tymor diwethaf.

Ar ben hynny, maent wedi ychwanegu’r asgellwr, Harrison Button, sy’n dychwelyd o Met Caerdydd, yr hannerwr, Tom Ham, sy’n ymuno o Abertawe, a chyn reng-ôl dan 20 Cymru,Ellis Thomas, sy’n ailymuno o Brifysgol Caerdydd

https://community.wru.wales/2020/08/03/llanelli-still-vital-breeding-ground-says-fisher/

BURNELL YN TAWELU’R LLONG YN PONTY
Bydd Justin BURNELL yn parhau fel Cyfarwyddwr rygbi ym Mhontypridd fel y mae’r Clwb yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo, yn gofyn am barhad wrth symud i’r hyn sy’n anhysbys y tymor nesaf.

Yn ymuno ag ef yn ‘ ystafell gychwyn ‘ Heol Sardis fydd y hyfforddwr blaenwyr, Lee Davies, Paul Matthews, yr hyffoddwr cefnwyr a’r hyfforddwr cyflyru, Nathan Evans, ynghyd a’r Dadansoddwr Perfformiad, Dean Parsons. Mae Dan Godfrey hefyd yn parhau fel rheolwr tîm.

Bydd rôl Burnell yn cynnwys mentora carfan hŷn y clwb yn ogystal â chysylltu â’r adrannau Ieuenctid, Mini ac Iau. Mae hefyd yn ymwneud â Menter y Cymoedd ac Ysgolion Pontypridd.

https://community.wru.wales/2020/08/03/burnell-co-carrying-on-at-ponty/

AC YN OLAF… COFIO DONOVAN
Dydyn nhw ddim yn pacio’r stondin ym Mharc Pandy fel roedden nhw’n arfer ei wneud y dyddiau hyn, ond daethant mewn rhifau mawr i ymddangosiad olaf Richie Donovan ar ei hen faes troedio.

Derbyniodd cyn brop Cross Keys ffarwel emosiynol cyn cael ei osod i orffwys ar ôl colli ei frwydr ddewr gyda chanser yn gynharach y mis hwn.

Roedd galarwyr yn llenwi’r eisteddle wrth i’w arch gael ei chludo i’r cae lle chwaraeodd gymaint o’i 413 o gemau 413 i’r clwb.

Roedd y prop 63 oed wedi bod yn ymladd y clefyd gyda’r un ymroddiad a dycnwch a arddangosodd ar y maes drwy gydol gyrfa eithriadol a oedd hefyd wedi ymddangos tros Pont-y-pŵl, Casnewydd, Abertyleri, Sir Fynwy, Crawshay’s ac UWIC.
Mwy yma:

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert