Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws 21/01/21

Diweddariad Statws

“Mae URC yn ymgymryd â chyfnod pontio yn dilyn y cyhoeddiad diweddar fod tri aelod o’r Bwrdd Gweithredol wedi camu yn ôl, mae’n rhaid i ni barhau i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Cadarnhawyd yr wythnos diwethaf y bydd ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Julie Paterson, yn gadael ei rôl ar ôl mwy na 30 mlynedd o wasanaeth gydag URC. Mae’n gadael gyda’n cefnogaeth lawn, dymunwn yn dda iddi ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda Julie yn ei rôl newydd fel cyfarwyddwr rygbi ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond gydad unrhyw newid daw cyfle newydd ac mae gennym nawr gyfle unigryw i ailedrych ar ein hymagwedd at y sector hwn o fusnes URC. Gydag ymadawiad diweddar ein Cyfarwyddwr Perfformiad, Ryan Jones, mae gennym gyfle yn awr i ddod o hyd i ymgeisydd neu ymgeiswyr ar gyfer y ddwy rôl. Ein bwriad yw cadw meddwl agored am unrhyw strwythur newydd yn seiliedig ar yr opsiynau sydd ar gael i ni.

Y trydydd aelod o’r Bwrdd Gweithredol i’n gadael bydd ein Cyfarwyddwr Masnachol, Craig Maxwell, a fydd hefyd yn gweithio i bencampwriaeth y Chwe Gwlad. Bydd Craig yn ein gadael yn gynt na Julie – a fydd yn cynorthwyo’r trosglwyddiad yn ystod y cyfnod rhybudd o chwe mis – felly gallaf gadarnhau y bydd ein materion masnachol, dros dro, yn nwylo Rhodri Lewis, Cwnsler Cyffredinol y Grŵp.

Rydym hefyd yn falch iawn o gadarnhau y byddwn yn cynnig swydd hyfforddwr amddiffynnol i Gethin Jenkins gydag ochr genedlaethol Cymru. Mae’r gwaith papur yn cael ei roi yn ei le ar gyfer cadarnhau’r penodiad, ond rydym yn hapus i rannu’r newyddion mai Gethin yw’r ymgeisydd a ddewiswyd gan Wayne Pivac ar ôl perfformiad rhagorol yn y rôl yn ystod Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Yn olaf, mae nifer o faterion ‘byw’ eraill yn cael eu trafod ar hyn o bryd mewn cylchoedd rygbi byd-eang ac, wrth gwrs, y prif ffocws i ni fydd i’r gêm gymunedol allu ail-ddechrau. Mae’r materion hyn yn heriol ac yn cynnwys y Tymor Byd-eang, buddsoddiad posib yn y Chwe Gwlad mewn ffurf ecwiti preifat, taith Llewod Prydain ac Iwerddon o Dde Affrica, esblygiad y PRO14 ynghyd â’r protocolau cynyddol oherwydd y pandemig presennol a ddisgwylir ohonom er mwyn caniatáu y bydd modd cynnal pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r rheini sydd â diddordeb yn ein gêm yn ogystal â phan fydd gan Rygbi Cymru gyfraniadau pwysig a pherthnasol i’w rhannu ar y materion hyn.

Yn ein Diweddariad Statws cyntaf yn 2021 hoffwn ailadrodd fy addewid i chi, ein clybiau sy’n aelodau, sydd wrth galon Rygbi Cymru, y byddaf yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i chi’n rheolaidd am bob mater wrth i ni wynebu heriau’r flwyddyn i ddod gyda’n gilydd.”

Yr eiddoch mewn rygbi
Steve Phillips.

Yn ôl i’r gêm
Os ydych wedi colli eich gwaith oherwydd y pandemig a bod gennych gysylltiad â Rygbi Cymru mae Ysgol y Cnociau Caled (YYCC) yma i helpu.
Rydym wedi gweithio gydag elusen YYCC i helpu unigolion i’w cael ‘Yn ôl i’r gêm’ ac i mewn i gyflogaeth.
Mae gan elusen YYCC dîm o arbenigwyr a fydd yn darparu cyfres o gyrsiau dwys am ddim, sy’n cael eu rhedeg ar-lein ac mae dyddiadau cyrsiau newydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer mis Chwefror a mis Ebrill.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n gysylltiedig â Rygbi Cymru sydd wedi cael eu diswyddo oherwydd y pandemig – chwaraewyr, hyfforddwyr, canolwyr, gwirfoddolwyr neu rieni i chwaraewyr. Gallai’r cwrs hwn roi hwb i unrhyw un, â diddordeb mewn rygbi, yn ôl i gyflogaeth.
Mwy o wybodaeth:

Mwy o gydnabyddiaeth am ddarpariaeth rygbi anabledd URC
Mae Rygbi Cymru wedi ymdrechu’n ddiwyd i ddod yn fwy cynhwysol tuag at bobl ifanc ac oedolion ag anghenion ychwanegol, hyd yn oed gyda’r heriau a ddaeth yn sgil 2020. Mae cydlynydd Rygbi Anabledd URC, Darren Carew, wedi darparu cyfres o fideos Crys i Bawb (yn y cartref) sy’n llawn gweithgareddau i’w gwneud yn eich cartref neu’ch gardd. Cynhaliwyd Cynhadledd Hyfforddi Gynhwysol gyntaf URC – ar-lein – ac mae’r Undeb bellach ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Sefydliad y Flwyddyn Insport Chwaraeon Anabledd Cymru. Oherwydd y cyfyngiadau presennol, bydd y gwobrau’n cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Ar ôl lansio ei strategaeth Rygbi Anabledd gyntaf yn 2018, a derbyn gwobrau rhuban a efydd am gydraddoldeb gan Insport Chwaraeon Anabledd Cymru yn yr un flwyddyn, enillodd Undeb Rygbi Cymru’r y wobr arian fis Tachwedd 2019 ac mae bellach yn anelu am yr aur.
DARLLENWCH y cyfan am gynnydd Rygbi Anabledd URC yma:

100km ar gyfer Hobbs
Mae mwy na 300 o aelodau Clwb Rygbi Rhiwbeina yn rhedeg 100km mis yma i gefnogi Dai Hobbs.
Mae Hobbs, is-gadeirydd y clwb, wedi dechrau ar frwydr fwyaf ei fywyd ar ôl dechrau triniaeth cemotherapi ar gyfer canser y pancreas, yn cael ei gydnabod fel calon clwb Caerdydd. Mae wedi cyflawni llawer o rolau allweddol ac wedi helpu’r clwb i dyfu i fod yn un o’r clybiau mwyaf o ran maint ac o ran llwyddiannau yng Nghymru.
Pan ddaeth y newydd am ddiagnosis Hobbs dros y Nadolig, roedd pawb yn awyddus i helpu a gwneud beth bynnag y gallent. Penderfynwyd ar her rhedeg sydd wedi denu sylw a chalonnau’r gymuned gyfan.
Eglurodd y cyn chwaraewr, y rhiant ac hyfforddwr y adran iau Harry Trelawny, “Mae gennym tua 250 o redwyr yng ngrŵp WhatsApp yr her sy’n help i roi hwb i bawb – ac i Dai sydd wedi ei ychwanegu at y grŵp. Bydd chwaraewyr nad ydynt erioed wedi rhedeg unrhyw bellter yn eu bywydau yn cwblhau rhediadau 5km a hyd yn oed 10km yn rheolaidd. Rydym hyd yn oed yn cael rhedwyr yn cymryd rhan yn yr Iseldiroedd a Chanada. Mae gennym tua wyth o bobl yn treulio llawer o’u hamser eu hunain yn trefnu’r her – dim ond am eu bod am wneud rhywbeth dros Dai – ac hyd yn hyn rydym wedi casglu £23 000. Yn y mis sydd i ddod, bydd y chwaraewyr bach ac iau yn ymuno, gan redeg 1k y dydd a theimlwn, os gallwn wneud hyn o dan y cyfyngiadau presennol, y dylem barhau. Pwy a ŵyr, gallai’r targed o 100km mewn mis droi’n darged o godi £100mil? Ar hyn o bryd rydym yn codi arian ar gyfer dwy elusen sy’n agos at galon Dai – Ysgol y Cnociau Caled a MIND Caerdydd ac rydym yn awyddus i ychwanegu at y rhestr honno. Rydym hefyd am barhau a’r her gan fod y manteision corfforol a meddyliol i’n chwaraewyr a’n rhedwyr yn newid bywydau.”
Ychwanegodd cyn-gapten Rhiwbeina, Nick Howell, “Drwy gydol fy nyddiau chwarae ac ers hynny, mae Dai wedi bod wrth wraidd llwyddiant y clwb, ar y cae ac oddi arno. Ef fyddai’n ffonio’r chwaraewyr yn ystod yr wythnos, gan sicrhau bod gennym chwaraewyr ar gyfer y tîm cyntaf, yr ail dîm, y trydydd tîm a hyd yn oed pedwerydd tîm ar un adeg. Yn y bôn, mae wedi bod yn gwirfoddoli llawn amser yn y clwb ers iddo ymddeol yn gynnar. Bu’n gymorth wrth gael cyllid i adeiladu ein hystafelloedd newid a champfa fach ein hunain; gellid dod o hyd iddo’n glanhau neu baentio’r llinellau ar y cae yn ystod yr wythnos ac roedd yn benderfynol y dylai’r clwb gadw elfen gymdeithasol gref. Roedd bob amser wrth wraidd hynny yn y clwb ar ôl gemau ac mae bob amser wedi bod yn ddi-baid o ran codi arian. Mae ei garedigrwydd a’i hiwmor yn mynd y tu hwnt nid yn unig i’r clwb rygbi ond i’r gymuned gyfan. Mae pawb sydd ag unrhyw beth i’w wneud â’r clwb yn adnabod Dai, hyd yn oed os nad ydynt yn gysylltiedig â rygbi o gwbl. Yr ydym i gyd am wneud cyfiawnder ag ef a’i helpu i aros yn gryf yn ei frwydr. Rydyn ni’n gwybod y byddai’n ei wneud i unrhyw un ohonom.”

Hyfforddi’r Hyfforddwyr

Dywediad sy’n aros mewn cof gan Graham Henry, hyfforddwr y Crysau Duon, yw: “Ta waeth ar ba lefel ydych chi, mae hyfforddi yn her.” Mae’n deimlad y byddai Scott Sneddon yn cytuno ag ef, mae’n debyg.
Wedi’r cyfan, nid pawb fyddai’n teithio 14 awr er mwyn cynnal sesiwn agoriadol ar gyfer rhaglen Hyfforddwr Perfformiad Uchel, ond fe wnaeth cyn-faswr Cross Keys, Glamorgan Wanderers a Chaerdydd hynny – fwy nag unwaith – ac roedd yn barod i’w wneud eto ond yn anffodus ymyrrodd COVID-19.
Mae’r rhaglen Hyfforddwr Perfformiad Uchel yn eistedd ar lefel 4 fframwaith datblygu hyfforddwyr URC a’i nod yw darparu rhaglen i addysguhyfforddwyr sy’n meithrin meddwl beirniadol ochr yn ochr â chreadigrwydd yn y broses hyfforddi.
Mwy:

Newyddion Rygbi

PODLEDIAD YN CANOLBWYNTIO AR FERCHED CYMRU

Rydym yn canolbwyntio ar ferched Cymru, chwaraewr rhyngwladol yn anelu am y Gweilch y tymor nesaf ac un o’r sêr ym Podlediad URC yr wythnos hon. Rydym yn siarad â chapten Merched Cymru Siwan Lillicrap ar ôl iddynt ddod at ei gilydd am y tro cyntaf eleni. Byddwn hefyd yn siarad â hyfforddwr y Gweilch Toby Booth ar y rheol 60 cap a chanolwr y Dreigiau Aneurin Owen.
Gwrandewch yma:

SBOTOLAU: NADINE GRIFFITHS

Yn ystod gyrfa yn chwarae yn ymestyn dros 12 mlynedd enillodd Nadine Griffiths 44 o gapiau rhyngwladol, cynrychioli’r tîm enwog y Nomadiaid a chwarae ym Mhencampwriaethau Ewrop a Chwpan Rygbi’r Byd – ond yr hyn mae hi fwyaf balch ohono yw sefydlu Cardiff Blues Community Foundation.
Mae Griffiths wedi neilltuo dros 30 mlynedd o’i bywyd i rygbi, yn gyntaf fel un o aelodau sefydlu tîm merched swyddogol cyntaf Clwb Rygbi Caerdydd ac yna’n bencampwr yn y gamp, gan gipio calonnau a meddyliau miloedd ledled y rhanbarth.
Cafodd ei magu ym Mhencoed yn chwarae hoci i’r sir ac yn cystadlu yn y javelin i Ysgolion Cymru. Bu ei theulu erioed yn selogion rygbi a chwaraeodd ei brawd Geoff i’r sir ac yn Uwch Gynghrair Llanharan yn ystod y 1990au
Mwy:

CANOLFAN FRECHU YNG NGHLWB RYGBI CARMARTHEN ATHLETIC

“Rydyn ni’n awyddus iawn i ddychwelyd i normal a chwarae rygbi pan mae’n ddiogel gwneud hynny, ond ar hyn obryd yn ystod y pandemig bu’n rhaid i ni gamu ymlaen,” meddai cadeirydd Clwb Rygbi Carmarthen Athletic Wynne Jones.
“Byddwn yn parhau i wneud beth bynnag a allwn i helpu.”
Mae’r clwb yn sicr wedi chwarae rhan enfawr wrth ddatblygu sêr y dyfodol ar gyfer Rygbi Cymru ac mae nawr yn serennu fel clwb wrth helpu’r frwydr yn erbyn pandemig Covid-19.
O 18 Ionawr, bydd brechiadau Covid-19 yn cael eu darparu yn adeilad y clwb rygbi.
Cysylltodd Meddygfa Furnace House yng nghanol Caerfyrddin â chleifion dros 80 oed yn eu gwahodd i wneud apwyntiad i gael eu brechiadau.
Mae’r dosau bellach yn cael eu gweinyddu yn Carmarthen Athletic sy’n cynnig mwy o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.
Mwy yma


YN OLAF… COFIO HADYN MORRIS

Mae Haydn Morris, cyn-asgellwr Caerdydd a Chymru a deithiodd o amgylch De Affrica gyda Llewod Prydain ac Iwerddon 1955 wedi marw yn 92 oed yn Norwich.
Enillodd Morris, a aned yn Aberpennar, dri chap i Gymru ar yr asgell a sgoriodd ddau gais. Chwaraeodd ei gem ryngwladol gyntaf ym Mharis gan golli 8-3 i’r Ffrancwyr yng ngêm olaf Pencampwriaeth Pum Gwlad 1951.
Mwy yma

Rhannu:

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert