Prentisiaeth Datblygu Rygbi URC 2023/2024
Prentisiaeth Datblygu Rygbi – Undeb Rygbi Cymru.
Swydd: Prentis Datblygu Rygbi URC
Cytundeb: 12 mis – cyfnod penodol.
Lleoliad: Canolfan Rhagoriaeth Cenedlaethol, Stadiwm Principality & gyda rhanbarth y Scarlets, Caerdydd, Dreigiau, RGC neu’r Gweilch.
Swydd Ddisgrifiad:
Mae Grŵp Undeb Rygbi Cymru (URC) yn falch o gynnig cyfle gwych i bobl ifanc ymuno gyda’n cynllun Prentisiaid.Rydym yn chwilio am bobl ifanc brwdfrydig a mentrus fydd yn cyfleu ein gwerthoedd yn eu gweithredoedd.
Mae Cynllun Prentisiaeth Datblygu Rygbi URC yn cynnig cymwysterau cydnabyddedig, sgiliau newydd, gwybodaeth a môr o brofiad i’r ymgeiswyr llwyddiannus.
Yn ystod y cyfnod penodol o 12 mis, byddwch yn gweithio tuag at gydnabyddiaeth Sylfaenol Lefel 4 – Rheoli a Datblygu – a gefnogir gan Brifysgol Met Caerdydd. Bydd gofyn i chi gwblhau amrywiaeth o gynlluniau technegol yn y maes rygbi a byddwch yn cael eich mentora gan Staff Datblygu URC. Bydd cymorth bugeiliol hefyd ar gael i chi gan Swyddog Prentisiaeth URC.
Mae bod yn Brentis gydag URC yn cynnig cam cyntaf arwyddocaol i rywun sy’n ansicr os ydyn nhw’n awyddus i fynd i’r Brifysgol neu beidio. Gall y Cynllun gynnig arweiniad a gweledigaeth ar gyfer llwybr gyrfa neu opsiynau addysgol wedi i’r 12 mis ddod i ben.
Mae’r Cynllun yn cynnig y profiad o fod yn aelod cyflogedig o’r staff am gyfnod o flwyddyn – all arwain at gyfleoedd pellach o fewn rhwydwaith Grŵp Undeb Rygbi Cymru. Mae’n gyfle gwych hefyd i ennill profiad ym maes datblygu chwaraeon gan ennill cymhwyster Sylfaen yn y broses. Nid yw’r cynllun hwn wedi ei anelu at Raddedigion.
Yn ystod y 12 mis amrywiol a difyr hwn byddwch yn derbyn cyflog o £9500 a chostau hefyd.
Cliciwch yma am y Ffurflen Gais.
Ymgeisiwch trwy ddilyn y ddolen uchod ac ymgeisio ar-lein erbyn Hanner Dydd Awst 21ain 2023. Mae’n bwysig nodi y bydd disgwyl i chi fod ar gael ar Awst 30ain ac Awst 31ain ar gyfer cyfweliadau posib. Bydd lleoliadau’r cyfweliadau’n cael eu cyhoeddi gyda’r gwahoddiadau i’r cyfweliadau.
Bydd y gwaith i’r ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau gyda diwrnod sefydlu ar y 5ed o Fedi 2023.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda wruapprenticeship@wru.wales neu Adran Adnoddau Dynol URC hr@wru.wales os gwelwch yn dda.