Mae cynllun Swyddogion Hwb llwyddiannus Undeb Rygbi Cymru – sy’n gyfrifol am ddenu a hyfforddi unigolion i weithredu gweithgareddau o safon uchel yn y clybiau rygbi, ysgolion a lleoliadau cymunedol eraill – wedi cyrraedd y garreg filltir nodedig o gyflogi 100 o Swyddogion Hwb.

Mae’r can swyddog hyn, sy’n cael eu cyllido ar y cyd gan URC a’i phartneriaid, yn trefnu ac arwain digwyddiadau rygbi ar hyd a lled y wlad, gan gynnig hwyl a’r profiad o ddysgu sy’n allweddol i dŵf rygbi yma yng Nghymru. Mae’r targedau a osodwyd i’r cynllun Hwb ar gyfer Tymor 2022/23 wedi eu cyrraedd a’u chwalu gan i dros 3,000 o chwaraewyr newydd gofrestu gyda chlybiau. Yn ogystal, mae cyfanswm o dros 30,000 o ddisgyblion ysgol cynradd ac uwchradd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau rygbi y neu hysgolion.

Mae’r swyddogion Hwb hefyd wedi cynnig arweiniad ymarferol i 520 o hyfforddwyr o dan hyfforddiant. Mae hyn wedi arwain at 4,000 o gyfleoedd ymarferol unigol iddynt. Mae sefyllfa debyg yn bodoli o safbwynt dyfarnwyr hefyd gyda– gyda 182 o ddyfarnwyr yn gyfrifol am dros 900 o gemau’n ystod y tymor o ganlyniad i 290 o sesiynau datblygu dyfarnwyr ddarparwyd gan y swyddogion yn y gymuned ar gyfer merched a bechgyn.

Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru: “Mae’r cynllun Hwb yn rhan allweddol o’n strategaeth i gynyddu’r nifer o ferched a bechgyn sy’n cymryd rhan yn y gamp. Ry’n ni’n arbennig o ddiolchgar i’n partneriaid a’r sefydliadau addysgol am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth gyda’r cynllun pwysig yma.

“Mae’r ffaith bod dros 100 o swyddogion Hwb yn gweithio’n ein cymunedau’n wych a byddai’n hyfryd cael hwb ym mhob ysgol rhywbryd yn y dyfodol.”

Un o brif lwyddiannau URC yn y Gymuned eleni yw gweithredu’r cynllun ‘Heini, Hwyl a Hansh’ gafodd eu cynnal trwy gydol yr haf. Roedd y digwyddiadau rhad ac am ddim yma, yn cynnig gweithgareddau rygbi yn ogystal â brecwast a chinio.

Mynychwyd y digwyddiadau gan gyfanswm o 14,000 o bobl ifanc ar hyd a lled Cymru – oedd ddwywaith yn fwy na chyfanswm yr haf blaenorol. Cynhaliwyd y digwyddiadau mewn 49 o glybiau rygbi a thargedwyd 120 o ysgolion mewn ardaloedd a ystyrir gan Lywodraeth Cymru yn rhai di-freintiedig.

Cyd-weithiwyd yn glos gyda chlybiau rygbi, ysgolion a sefydliadau rygbi eraill i sicrhau llwyddiant y cynllun – ac roedd y Swyddogion Hwb wrth wraidd y gwaith hynod bwysig hwn.

Mae Cynllun Hwb Undeb Rygbi Cymru yn cael ei adolygu’n gyson drwy ein partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae’r Brifysgol Agored yn dadansoddi’r cynllun a’i effaith yn gyson ac awgrymir bod y gweithgareddau hyn yn arwain at fudd o £3miliwn dros gyfnod o dair blynedd. Bydd y cylch aor blynedd presennol yn dod i ben ac yn cael ei ddandansoddi yn haf 2024.

Dywedodd Dr Joanne Jordan, Cymrawd Ymchwil yn y Brifysgol Agored: “ Mewn cydweithrediad gydag Undeb Rygbi Cymru, mae’r Brifysgol Agored yn parhau i ymchwilio i’r effaith y mae’r Cynllun Hwb yn ei gael ar blant a’u rhieni yng Nghymru.

“Mae’r cynllun bellach yn cynnwys nifer o ysgolion, athrawon a phlant er mwyn cynnig yn cymorth a’r canlyniadau gorau.”

Dywedodd Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker: “Mae Cynllun Hwb URC yn allweddol i rygbi ym mhob rhan o Gymru. Mae’n pobl ifanc yn dysgu sgiliau arwain, hyfforddi a datblygu – heb sôn am feithrin eu doniau rygbi.

“Mae’n amlwg bod ein pobl ifanc yn gweld pwysgrwydd a gwerth ein Swyddogion Hwb sy’n dangos arweiniad ac esiampl dda iddyn nhw. Mae’r gweithgareddau hynod bwysig yma yn gwella ffitrwydd wrth gwrs ac yn cael dylanwad cadarnhaol ar gyd-weithio a chynhwysiant.

“Rwyf wedi cael y fraint o weld effaith gadarnhaol y Cynllun Hwb ar ein ysgolion a’n cymunedau gyda fy llygaid fy hun. Mae gweithio ar brosiectau mor bwysig a hyn yn datblygu sgiliau ein Swyddogion Hwb yn ogystal â chreu newid er gwell yn ein cymunedau ar ar y meysydd rygbi.

“Mae canlyniadau effaith y cynllun yn gadarnhaol hyd yma – ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygiad cadarnhaol pellach trwy gyfrwng gweithgareddau ac ymroddiad ein Swyddogion Hwb.”

Am fwy o wybodaeth, dylai clybiau rygbi a sefydliaidau eraill e-bostio: participation@wru.wales

Os hoffech gael eich ystyried i fod yn Swyddog Hwb eich hun – cysylltwch â Ben Rose, Arweinydd Cynllun Cenedlaethol Hwb. brose@wru.wales