Ar gopa’r mynydd mae maes chwarae’r clwb ac mae sesiwn ymarfer y tîm Dan 8 dan ei sang gyda’r prif hyfforddwr Stewart Alan a chapten Cymru, Alun Wyn Jones, yn cadw llygad barcud ar dalent y dyfodol.

Yn gwylio’r ymarfer hefyd mae lluoedd o rieni a mamgu’s a thadcu’s. Mae’r garfan ieuenctyd yn boblogaidd iawn meddai un tadcu, gyda dros 150 o aelodau yn chwarae yn yr ystod oedran 7-13. Mae’r plant i gyd yn ymfalchïo yn llwyddiant y tîm hŷn ac yn siarad yn ddibaid am y rownd derfynol a’r cyffro o deithio i fyny’r M4 i gefnogi eu tîm. Gan fod y mwyafrif ohonnynt wedi dechrau eu gyrfa rygbi drwy chwarae i dîm Dan 6 y clwb, mae’n ysbrydoliaeth i’r chwaraewyr ifanc i efelychu llwyddiant eu harwyr lleol.

Yn gynnar ar fore’r 28ain mi fydd cefnogwyr o bob oed yn cwrdd yn y Clwb am frecwast cyn bod chwech bws yn eu cludo i Stadiwm Principality.

Mae’r clwb wedi bod yn fan cychwyn i sawl chwaraewr rhyngwladol: Malcolm Dacey, Richard Webster, Rory Thornton ac Alun Wyn Jones.

Ar ôl i’r plant orffen eu sesiwn hyfforddi a thynnu lluniau gyda chapten y Gamp Lawn, mae Alun Wyn Jones yn aros ymlaen i wylio sesiwn hyfforddi’r tîm hŷn ac i gynnig gair o gyngor. Sylwodd y dirprwy gapten, Richard William Cunniffe, pa mor dda mae’r chwaraewyr profesiynnol yn dal i gefnogi a rhoi yn ôl i’r clwb.

Chwaraewr profesiynnol sydd yn treulio llawer o amser yn y clwb yw Rory Thornton, ail reng y Gweilch sydd ar fenthyg gyda’r Gleision. Yn ogystal a bod yn chwaraewr rygbi proffesiynnol ef yw hyfforddwr blaenwyr Bonymaen. Mae’r bechgyn yn gwerthfawrogi ei gyfraniad gyda’r asgellwr ac hyfforddwr y cefnwyr, Richard Moore, yn dweud eu bod nhw wedi dysgu llawer oddi wrtho fe.

Mae hi’n anodd credu taw dyma’r un clwb a brofodd her enfawr i’w bodolaeth dim ond wyth mlynedd yn ôl. Arweiniodd y broses o dalu chwaraewyr at broblemau ariannol a phenderfynwyd i beidio a thalu chwaraewyr mwyach. Dychwelodd y mwyafrif o’r chwaraewyr yn ôl i’w clybiau lleol.

Roedd dyfodol y clwb yn y fantol ac roedd angen llenwi’r gwagle ag adawyd. Dywedodd Chris Moore eu bod nhw’n “ffodus bod tîm ieuenctyd da gyda ni a nhw yw’r rhanfwyaf o’r tîm nawr.” Mae’r profiad hynny wedi atgyfnerthu ymrwymiad y bechgyn i’r clwb ac i’w gilydd.

Un o’r gêmau mwyaf anodd yn y twrnament oedd yn erbyn Treorci yn y rownd gyn-derfynol. Erbyn hanner amser roedd Bony ar ei hôl hi 14-0. Mae Cunniffe yn llawn canmoliaeth o’i gyd-chwaraewyr am allu dod o hyd i’r nerth a’r cymeriad yn yr ail hanner i daro yn ôl ac ennill y gêm.

Mae hanes cythryblus Bonymaen a’r ffaith eu bod nhw wedi llwyddo i gyrraed Stadiwm Principality yn deyrnged i ewyllys a chymeriad y chwaraewyr a’r cefnogwyr. Wrth edrych ymlaen at y rownd derfynol dywedodd y dirprwy gapten: “It’s a once in a lifetime opportunity. We’re going to go for it and hopefully get the win.”