Mae cystadleuaeth 7 Bob Ochr Urdd WRU eleni wedi’i osod i fod yn fwy nac erioed wrth iddo ddychwelyd i Gaeau Pontcanna, Caerdydd ym mis Ebrill.

Disgwylir i fwy na 5000 o bobl ifanc gymryd rhan mewn cystadlaethau a sesiynau cynhwysol.

Mae hyd yn oed Nigel Owens yn bwriadu pigo fyny ei chwiban i helpu’r digwyddiad i fynd ymlaen yn esmwyth.