Neidio i'r prif gynnwys

Yr Ariannin â’i golygon ar Gymru

Yr Ariannin â’i golygon ar Gymru

Bydd yr Ariannin yn benderfynol o guro Cymru pan fyddant yn ymweld â Stadiwm Principality ar gyfer Cyfres Under Armour yr hydref hwn, wrth iddynt geisio parhau i ddringo tabl World Rugby o dimau gorau’r byd.

Rhannu:

Curodd yr Archentwyr Dde Affrica, a fydd hefyd yn wynebu Cymru yn y gyfres gyffrous o bedair gêm ym mis Tachwedd, ym Mhencampwriaeth Rygbi hemisffer y de y penwythnos diwethaf, ac yn awr maent yn barod i wynebu’r her eithaf – yn erbyn pencampwyr y byd, y Crysau Duon – yn Hamilton yr wythnos nesaf.

Roedd buddugoliaeth yr Archentwyr dros y Springboks, gyda sgôr o 26-24, y penwythnos diwethaf wedi eu galluogi i godi dau safle yn y tabl o dimau gorau’r byd. Maent wedi dringo uwchben yr Alban a Ffrainc i gyrraedd y seithfed safle, a bellach mae eu golygon ar godi uwchben Iwerddon yn y chweched safle a Chymru, sy’n bumed yn y byd.

“Rydym wedi bod yn ysu am fuddugoliaeth fel hon ers amser mawr, a dyma oedd un o’n prif nodau yn y bencampwriaeth eleni. Rydym yn hapus iawn gan ein bod wedi llwyddo i gyflawni’r nod ar ôl gweithio’n galed iawn ar y cae ac oddi arno,” meddai’r canolwr Matías Orlando.

“Roeddem wedi llunio cynllun ar gyfer y gêm, ac enillon ni drwy lynu at y cynllun hwnnw. Bydd hynny’n ein gwneud ni’n gryfach, ac mae’r fuddugoliaeth yn golygu mwy oherwydd bod llawer o’r chwaraewyr wedi gorfod chwarae allan o’u safle arferol.”

Mae tipyn o her o flaen y Springboks, a fydd yn wynebu Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 26 Tachwedd, gan eu bod yn gorfod teithio i chwarae Awstralia a Seland Newydd dros y pythefnos nesaf.

Gall cefnogwyr brynu tocynnau drwy fynd i urc.cymru/tocynnau (codir ffi archebu), drwy ffonio 0844 847 1881 (codir pris uwch am alwadau i’r rhif hwn), drwy fynd i swyddfa docynnau Undeb Rygbi Cymru neu drwy gysylltu â’u clwb rygbi lleol.

Cyfres Under Armour 2016
Cymru v Awstralia – Dydd Sadwrn, 5 Tachwedd (2.30pm)
Tocynnau: £70, £60 (£30), £40, £25
Cymru v Yr Ariannin – Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd (5.30pm)
Tocynnau: £50, £40 (£20), £30, £20
Cymru v Japan – Dydd Sadwrn, 19 Tachwedd (2.30pm)
Tocynnau: £35, £20 (£10)
Cymru v De Affrica – Dydd Sadwrn, 26 Tachwedd (5.30pm)
Tocynnau: £70, £60 (£30), £40, £25

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert