Neidio i'r prif gynnwys

Gwledd o rygbi’r Uwch Gynghrair Principality dros y Nadolig

Gwledd o rygbi’r Uwch Gynghrair Principality dros y Nadolig

Wrth i’r ras i gyrraedd hanner uchaf Uwch Gynghrair Cymru’r Principality ddwysau, bydd S4C, partner darlledu Undeb Rygbi Cymru, yn dangos tair gêm o’r gynghrair yn fyw dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Rhannu:

Fydd y gemau hefyd ar gael i’w wylio yn fyw ar sianel Facebook Live S4C Chwaraeon a fydd y gemau yma’n rhan o gyfres o 15 o gemau fydd yn cael eu dangos ar y sianel dros y tymor, gan gynnwys gemau’r Uwch Gynghrair, yn ogystal â gemau o’r Cwpan, Plât a Bowlen Genedlaethol.

Bydd wyth tîm yn brwydro i gyrraedd yr wyth safle uchaf cyn i’r gynghrair rannu’n ddwy yn y flwyddyn newydd, ac mi fydd y perfformiadau dros yr wythnosau nesaf yn hollbwysig yn y frwydr i fod yn yr hanner uchaf.

Fe fydd Caerdydd, sydd yn yr wythfed safle ar hyn o bryd, yn herio’i hen elyn Pontypridd ddydd Gwener, 23 Rhagfyr yn y gêm nesaf yn yr Uwch Gynghrair Principality, tra bydd y gêm gyntaf i gael ei dangos ar y teledu yn digwydd ar Ddydd San Steffan, gyda’r tîm sydd yn y pumed safle, Bedwas, yn croesawu Glyn Ebwy, am 4.45.

Bydd gemau pwysig eraill yn cael eu chwarae ar yr un diwrnod, gan gynnwys Cross Keys v Casnewydd, Cwins Caerfyrddin v Llanymddyfri, a RGC 1404 fydd yn teithio i Ferthyr ar ddiwrnod G?yl y Banc, ddydd Mawrth 27 Rhagfyr.

Yna, bydd camerâu S4C yn ymweld â Heol Sardis ar brynhawn 31 Rhagfyr. Bydd y tîm a gollodd yn y rownd derfynol y llynedd, Pontypridd, yn herio’r tîm sydd yn y degfed safle, Cross Keys.

Cyn y gêm honno, sy’n cychwyn am 3.00, bydd tîm ieuenctid Pontypridd yn chwarae yn erbyn tîm ieuenctid Treorci am 12.00? ar y cae pob tywydd newydd y clwb.
Bydd gêm ychwanegol yn cael ei darlledu ar 7 Ionawr, y penwythnos olaf cyn rhaniad y gynghrair, ac fe fydd S4C yn dewis pa gêm sy’n cael ei darlledu’n fyw ar ôl y Nadolig. Yn ogystal, mae’r sianel wedi cadarnhau y bydd y gêm rownd gyntaf yn y Cwpan Cenedlaethol rhwng Llanelli a Phont-y-p?l yn cael ei darlledu’n fyw.

Dywedodd Pennaeth Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Geraint John, “Mae’r diddordeb yng ngemau Uwch Gynghrair y Principality wedi cynyddu’r tymor yma, ac rydym wedi gweld sawl gornest gystadleuol iawn wrth i’r timau frwydro am le ymhlith yr haen uchaf. Rydym yn gweithio’n agos â chlybiau’r Uwch Gynghrair i ddarparu cymorth i’r hyfforddwyr ac rydym yn edrych ymlaen at ddiweddglo cyffrous i’r rhan yma o’r tymor – bydd y darllediadau ar S4C yn cyfrannu at y cynnwrf.”

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau Rygbi, Julie Paterson, “Mae’n fraint derbyn cefnogaeth o’r math yma gan ein partneriaid darlledu yng Nghymru. Bydd 15 o gemau Uwch Gynghrair y Principality ynghyd â gemau’r Gwpan, Plât a’r Bowlen Genedlaethol yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C rhwng nawr a diwedd y tymor, sydd yn hwb enfawr i’r gynghrair ac i rygbi ar lawr gwlad. Mae’n braf fod pawb yn gweithio tua’r un nod, er budd pawb.”

Ychwanegodd Ryan Jones, Pennaeth Cymryd Rhan mewn Rygbi, Undeb Rygbi Cymru, “Rydym wrth ein bodd fod gêm rygbi ieuenctid yn mynd i gael ei chwarae ar yr un diwrnod ac ar yr un cae â rhai o gemau’r Uwch Gynghrair a’r Gwpan Genedlaethol sydd yn cael eu dangos ar y teledu. Dyma’r cyfle i rygbi ieuenctid serennu a dwi’n si?r y cawn ni gêm wych rhwng tîm ieuenctid Pontypridd a thîm ieuenctid Treorci. Rwy’n gobeithio y bydd y gêm yn cyfrannu at gynnwrf yr achlysur ac y bydd y syniad yn tyfu wrth i ragor o glybiau a rhanbarthau Uwch Gynghrair Principality wneud y gorau o’r manteision y mae caeau artiffisial yn eu cynnig.”

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Rydym yn falch i gefnogi pob lefel o rygbi yng Nghymru a hapus iawn ein bod ni’n dangos gemau’n fyw o Uwch Gynghrair y Principality, a’r Cwpan, Plât a’r Bowlen Genedlaethol. Mae rygbi unwaith eto wrth galon ein hamserlen Nadolig a Blwyddyn Newydd ac rydym yn gobeithio bydd cefnogwyr o bob oedran yn mwynhau’r gemau.”

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert