Neidio i'r prif gynnwys

Neges Nadolig y Cadeirydd

Neges Nadolig y Cadeirydd

A hithau’n gyfnod y Nadolig mae clybiau rygbi ar draws y wlad yn chwarae rhan allweddol bwysig yng nghalon eu cymunedau.

Rhannu:

Ers y dyddiau cynnar mae’r profiadau y mae’r gêm yn ei gynnig tu hwnt i’r cae wedi bod yr un mor bwysig ar hyn sydd yn digwydd arni.

Yr ydym yn ymfalchïo yn ffaith bod gennym ni rwydwaith o 320 o glybiau ar hyd a lled Cymru sydd ar gallu, neu o leiaf y potensial i fod yn ganolbwynt pwysig i’r trefi, dinasoedd a rhanbarthau y maent yn eu cynrychioli.

Mae cryfder a bywiogrwydd ein clybiau yn arwydd o gryfder rygbi yng Nghymru yn ei gyfanrwydd ac mae ein strategaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy yn rhestru’r ffyrdd yr ydym am barhau i gynorthwyo ein clybiau i dyfu ac i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei gyflawni.

Yn draddodiadol mae’r Nadolig yn gyfnod o fyfyrio dros hynt a helynt y tymor hyd yma ac i gynllunio ar gyfer flwyddyn sydd i ddod.

Mae Uwchgynghrair y Principality yn un arbennig o ddiddorol eleni wrth i’r drefn newydd ddod i uchafbwynt yn y flwyddyn newydd wrth i’r gynghrair o 16 rannu’n ddwy gyda gemau ail-gyfle a rownd derfynol i ddilyn.

Gyda’r drefn bresennol yn ei le hyd 2019, mae’r Principality yn lwyfan arbennig i glybiau uchelgeisiol, ac sydd eisoes wedi cynhyrchu gemau gyda mwy o ddwyster ac angerdd yn sgil y format newydd ac yn fagwrfa ar gyfer chwaraewyr, hyfforddwyr a dyfarnwyr professional.

Mae datblygiad hyfforddwyr wedi bod yn destun trafod dros yr wythnosau diwethaf wrth i Warren Gatland a Rob Howley baratoi i hyfforddi’r Llewod ar eu taith i Seland Newydd yr haf nesaf – ac fe fydd tîm hyfforddi Cymru hefyd yn cynnwys wynebau newydd ar eu taith yn ystod yr haf.

Dyma haf o gyfle i hyfforddwyr Cymreig i ddatblygu mewn amgylchedd newydd. Yr ydym yn hynod falch o gael troi at hyfforddwyr talentog sef Robin McBryde, Danny Wilson, Stephen Jones a Matt Sherratt, gan wybod y bydd Cymru mewn dwylo diogel ar eu taith i’r Ynysoedd Tawel. Yr ydym yn hynod gyffrous gyda’r cymysgedd o hyfforddwyr o’r Rhanbarthau fydd yn cyd-weithio o dan un faner.

Ond fe ddaw’r her gyntaf yn ystod pencampwriaeth y 6 Gwlad RBS  wrth i ni groesawu Alex King i rengoedd y tîm hyfforddi gyda’r profiadol Rob Howley, Robin McBryde, Shaun Edwards a Neil Jenkins.

Fe ddaw Alex i Gymru gyda llond trol o lwyddiant fel hyfforddwr i’w enw ac fe fydd hi’n ddiddorol gweld yr hyn fydd o’n gynnig i’r tîm cenedlaethol fydd hefyd yn edrych i efelychu llwyddiant Rob Howley pan enillodd Cymru’r Bencampwriaeth y tro diwethaf iddo dderbyn yr awenau.

Ar y noson cyn pob un gêm gartref yn ystod y Chwe Gwlad fe fydd y wledd o rygbi yn dechrau gyda thîm dan 20 Cymru yn croesawu eu gwrthwynebwyr i’w cartref ym Mharc Eirias.

Fe fydd y penwythnos o rygbi rhyngwladol yn parhau ym Mharc yr Arfau pan fydd tîm Merched Cymru yn gobeithio serennu am 11.30 ar fore Sadwrn cyn y gêmau yn Stadiwm Principality.

Dw i’n gobeithio y bydd cefnogwyr yn tyrru i gefnogi’r merched yng Nghaerdydd ac yn parhau i heidio yn eu miloedd i wylio’r ieuenctid ym Mae Colwyn er mwyn sicrhau’r un lefel o gefnogaeth y mae tim Rob Howley yn mwynhau yn Stadiwn Principality.

Ar yr adeg yma y llynedd yr oeddwn i yn erfyn ar ein cefnogwyr i gefnogi’r gêm ranbarthol drwy fynychu Dydd y Farn yn Stadiwm Principality ym mis Ebrill. Bu bron i ni werthu pob ticed yn 2016 a dw i’n credu y bydd modd cyrraedd y nod yn 2017.

Mae 26,000 o dicedi eisoes wedi’u gwerthu – cynnydd o 25% o’i gymharu gyda’r un cyfnod y llynedd, ac am £10 mae’r achlysur yn cynnig dydd i’w gofio i’r teulu cyfan a hynny am bris rhesymol iawn.

Ond yn gyntaf rhaid edrych ymlaen at gemau mawr yn ystod cyfnod y Nadolig pan fydd cyfle i fwynhau’r awyr iach gyda’n hanwyliaid ac i wneud yr hyn mae teuluoedd yng Nghymru yn ei wneud orau – gwylio rygbi.

Ar drothwy’r ?yl, yr ydym yn cyfarch y chwaraewyr oll ac yn eu canmol am eu hymroddiad i’r gamp. I’r cefnogwyr, swyddogion clwb, dyfarnwyr a gwirfoddolwyr ar lawr gwlad – diolch i chi am eich holl waith caled a dw i’n edrych ymlaen at gael ymweld â chlwb yn eich cyffiniau yn fuan yn y flwyddyn newydd.

Gan edrych ymlaen at flwyddyn arall o rygbi,

Gareth Davies
Cadeirydd URC

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert