Neidio i'r prif gynnwys

Wilkins, yr eilydd arbennig, yn troi’r fantol o blaid y Cymoedd

Wilkins, yr eilydd arbennig, yn troi’r fantol o blaid y Cymoedd

Daeth yr eilydd Lloyd Wilkins oddi ar y fainc yn ail hanner y gêm yn Heol Sardis gan wneud argraff arbennig wrth iddo ysbrydoli Coleg y Cymoedd i ddal ei afael ar dlws Cynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru â buddugoliaeth o 28 i 19 dros Goleg Sir Gâr.

Rhannu:

Trawsnewidiodd Wilkins y gêm â chais, cic gosb a chic letraws a arweiniodd at y trydydd cais tyngedfennol i’r pencampwyr presennol, wrth iddynt daro’n ôl ar ôl bod naw pwynt ar ei hôl hi. Yn goron ar y cyfan, trosodd Wilkins y cais olaf hwnnw a sgoriwyd gan un arall o’r eilyddion, yr asgellwr Will Clapham.
 
“Roeddwn i’n poeni braidd gyda 10 munud i fynd ac yn amau a fydden ni’n ei gwneud hi,” cyfaddefodd Lee Davies, cyfarwyddwr rygbi Coleg y Cymoedd, “ond roedd y modd y brwydrodd y chwaraewyr yn ôl yn dangos cymeriad y tîm.”
 
Coleg y Cymoedd: Bailey Roberts; Cavan Davies, Macauley Rowley, Iwan Sheppard, Iwan Price-Thomas; Tyler Morris, Ethan Lloyd; Harrison Chapman, Mitch Savage, Rhys Lewis, Cai James, Mitchel Barnard, Lloyd Gregory, Ethan Fackrell, Ieuan Pring (capten)
Eilyddion: Arwel Hughes, Travis Green, Iestyn Haskins, Rhys Anstey, Alex Mann, Rhys Howells, Lloyd Wilkins, Will Clapham
 
Coleg Sir Gâr: Dean James; Callum Williams, Ilan Phillips, Bradley Roderick, Harrison Button; Jack Tregoning, Dai Jones; Keelan Jewell, Rhodri King, Zak Giannini, Joe Scott, Ryan Evans, Leon Samuel, Caine Rees-Jones, Sam Williams (capten)
Eilyddion: Morgan Thomas, Nikki Frampton, Sean Janes, Elliot Briskham, Sam Richards, Lewis Clayton, Jac Howells, Liam Cox
 
Rowndiau terfynol Cynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru

2010/11: Coleg Sir Gâr 20, Coleg Gwent 19
2011/12: Coleg Sir Gâr 16, Coleg Gwent 17
2012/13: Coleg Sir Gâr 18, Coleg Morgannwg 16
2013/14: Coleg Sir Gâr 25, Coleg y Cymoedd (Coleg Morgannwg yn flaenorol) 22
2014/15: Coleg y Cymoedd 13, Coleg Sir Gâr 3
2015/16: Coleg y Cymoedd 44, Coleg Sir Gâr 24
2016/17: Coleg Sir Gâr 27, Coleg y Cymoedd 23
2017/18: Coleg y Cymoedd 29, Coleg Sir Gâr 10
2018/19: Coleg y Cymoedd 28, Coleg Sir Gâr 19

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert