Neidio i'r prif gynnwys

Y Pic-yp Mawr

SOS Kit Aid

Shane Williams presents a signed shirt to Bryncoch RFC as part of ISUZU's backing for SOS KitAid

Bu’r seren rygbi a phrif sgoriwr ceisiau Cymru, Shane Williams, ynghyd ag ISUZU sy’n un o bartneriaid swyddogol Undeb Rygbi Cymru, yn ymweld â Chlwb Rygbi Bryn-coch yr wythnos hon i lansio ymgyrch newydd, sef ymgyrch ‘Y Pic-yp Mawr’ i gefnogi’r elusen ryngwladol SOS KitAid.

Rhannu:

Mae SOS KitAid yn ailgylchu citiau chwaraeon er budd pobl ifanc yn y DU a thramor, er mwyn iddyn nhw gael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae’r elusen yn cael effaith gadarnhaol ac amlwg ar fywydau plant drwy roi cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, ac mae’n hybu cynhwysiant cymdeithasol ac yn gwarchod yr amgylchedd drwy leihau’n sylweddol nifer y citiau chwaraeon sy’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.

Ar ôl cyrraedd y Clwb, aeth Shane ati’n gyntaf i gynnal sesiwn hyfforddi ar ffurf dosbarth meistr ar gyfer adran iau’r Clwb, ac yna bu’n helpu i lwytho’r cit chwaraeon a gasglwyd gan y Clwb i mewn i gefn y pic-yp ISUZU.

Diolchodd Shane i gadeirydd y Clwb, Richard Longman, am holl ymdrechion y Clwb a chyflwynodd iddo grys rygbi Cymru wedi’i lofnodi.

Meddai John Broadfoot, Prif Weithredwr SOS KitAid: ‘Rydym wrth ein bodd o weld y gefnogaeth frwd y mae Clwb Bryn-coch wedi’i chael. Bydd y cit a gasglwyd heddiw’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r modd y mae pobl ifanc ddifreintiedig yn cymryd rhan mewn chwaraeon.’

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert