Neidio i'r prif gynnwys

Gwirfoleddwyr yn diogelu dyfodol eu clybiau

Tondu

Mae Graham a Jo Thomas yn gweithio'n galed i diogelu dyfodol Clwb Rygbi Tondu

Yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, mae’n bwysig cydnabod y cyfraniad enfawr ar, ac oddiar y maes, y mae gwirfoodolwyr yn ei roi i Rygbi Cymreig bob amser.

Rhannu:

Gweithia’n hyfforddwyr, rhieni, dyfarnwyr, cymorthyddion cyntaf a gweinyddwyr yn ddiflino i sicrhau fod clybiau rygbi’n parhau i fod yn leoedd hapus i bawb yng nghalonau’n cymunedau gan alluogi rygbi i fod yn llawn bywyd.

Mae un tîm i ŵr a gwraig yng Nghlwb Rygbi Tondu – cadeirydd a thrysorydd, Graham a Jo Thomas – yn enghraifft ardderchog o’r ymdrech enfawr sy’n mynd ymlaen drwy Gymru gyfan ar yr adeg yma.

Mae Graham, sydd yn hyfforddwr i’r tîm dan 15 oed yn y clwb, yn goruchwylio un o’r adrannau mini ac Iau’n yr ardal yn ogystal ag fel y dywedodd noddwyr y clwb,

“Mae gennym wirfoddolwyr ardderchog drwy’r holl glwb. Buom yn edrych ar ddulliau i gadw’r clwb mewn cysylltiad gyda phawb yr ystod y cyfnod hwn drwy gwisiau a heriau. Rydym wedi bod yn rhedeg, ar gyfryngau cymdeithasol, ‘Tondu XV Gorau Erioed’ sydd wedi gweithio’n dda iawn wrth gadw pawb i gadw mewn cysylltiad.” Rydym yn mynd trwy rywbeth na fu inni erioed ei weld o’r blaen. Fel busnes, yr ydych yn ceisio rhoi rhywbeth o’r neilltu ar gyfer argyfwng a theimla fel mai hwn yw’r argyfwng hwnnw. Bu inni gau’r clwb i lawr yn llwyr arwahȃn i gynnal a chadw angenrheidiol a gwneud yn siwr fod y clwb yna pan fyddwn yn dychwelyd; rhaid cofio mai iechyd meddwl yw un o’r agweddau pwysicaf. Mae’n Mentor yn y Clwb yn ogystal ȃ bod yn hyfforddwr llesiant, Rob Lester, wedi anfon fideo fer i bob un o’n grwpiau i wneud yn siwr ein bod yn aros mewn cyswllt ag yn sicrhau’n rheolaidd ein bod i gyd yn iawn.

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen i’r dyfodol. Mae yna rai pethau cadarnhaol y gallwn eu cymryd o’r cyfnod hwn, er enghraifft, cyfarfodydd clwb drwy zoom neu app’iau eraill, tra’n her i rai i ddechrau, allai brofi’n ddefnyddiol yn y tymor hir pan fydd nifer yn cael trafferth i ddod i’r clwb. Credaf mai un o’r heriau fydd cael y bobl ifanc yn ôl oddiar y Bocsys-X fel y gorfodwyd hwy i wneud am amser maith yn ystod y cload mawr.

“Unwaith y bydd canllawiau’r llywodraeth yn caniatau inni ail agor ein ‘Tŷ Clwb’, bu inni edrych am ffyrdd y gallem ail agor y gwagle tra’n cadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol. Mae gennym ardd ac, o bosibl, gallem ddod yn gaffi nwu’n ganolfan taro i mewn i’r gymuned.

“Mae’n 45 neu debyg o hyfforddwyr yn eiddgar iawn, yn ogystal, i wneud rhywbeth ond, wrth gwrs, byddwn yn aros ac ymateb pa bryd bynnag y cawn y goleu gwyrdd.”

“Bu inni gysylltu gyda Busnes Cymru’n syth ac roeddem yn gwerthfawrogi derbyn cymorthdaliadau gan Lywodraeth Cymru ag URC. Yn ogystal, rydym wedi gwneud cais i Gyngor Pen y Bont ar Ogwr. Manteisiom ar drefniant furlough er sicrhau yr edrychid ar ôl ein staff a lleihawyd ein gwariant i’r isafswm posibl. Buaswn yn hapus i gynorthwyo clybiau eraill ar ardaloedd megis yswiriant a buasem hefyd yn awyddus i glywed gan glybiau eraill yn nhermau’u syniadau’n ystod yr amser hwn.”

Diolch i chi i gyd.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert