Neidio i'r prif gynnwys

Cynlluniau i ddychwelyd yn raddol i rygbi cymunedol

Cynlluniau i ddychwelyd yn raddol i rygbi cymunedol

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi amlinellu Dychweliad i Rygbi, gyda diogelwch yn gyntaf, i’r gêm gymunedol yn dilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Er bod yr amserlen ar gyfer dychwelyd gemau cystadleuol yn dibynnu ar gamau nesaf Llywodraeth Cymru yn y frwydr yn erbyn pandemig Covid-19, yn ystod Gweminar a fynychwyd gan fwy na 300 o gynrychiolwyr clwb, eglurodd URC sut y gall clybiau a grwpiau rygbi yng Nghymru ddechrau cynllunio eu gwaith o ddychwelyd i hyfforddiant digyswllt o fewn grwpiau bach yng Nghymru o’r 1af Awst ymlaen.

Rhannu:

Mae dychwelyd i hyfforddiant a drefnir gan y clwb yn dibynnu ar gwblhau cyfnod addysg a chamau paratoi a chafeatau.

1. Gofynnir i bob anogwr, chwaraewr – neu rieni chwaraewyr iau – gwblhau cwrs ar-lein gan Rygbi’r Byd ar godi ymwybuddiaeth o Ddychwelyd i Rygbi Covid-19. Yna, rhaid iddynt gwblhau proses gofrestru ar-lein URC a fydd yn agor ar y1af Awst. Pan fyddant wedi’u cofrestru’n llawn, gall chwaraewyr a hyfforddwyr gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi a drefnir gan glwb. Bydd y rhain yn cael eu trefnu mewn grwpiau bach o rhwng 10 a 15 o chwaraewyr a dylent ganolbwyntio ar ffitrwydd, sgiliau a gemau di-gyswllt bach o fewn grwpiau hyfforddi. Bydd Rheolwyr Gweithrediadau’r Clwb yn cael copi manwl o’r canllawiau Dychwelyd i Rygbi, ac yn cael eu gwahodd i weminar hyfforddi wedi’i gymeradwyo yn ddiweddarach yr wythnos hon. Bydd hyn yn cynnwys meysydd fel ymddygiad a hylendid cyn, yn ystod ac ar ôl hyfforddiant, defnyddio offer a threfnu meysydd hyfforddi i gadw grwpiau hyfforddi ar wahân. Bydd gwiriwr symptomau ar-lein i’w gwblhau cyn pob sesiwn hyfforddi drwy gyfrwng ‘Game Locker ‘ URC.

2. Mae angen i glybiau fod yn barod. Bydd gweminarau ychwanegol ar baratoi cyfleusterau, ar gyllid a gweithdrefnau Cymorth Cyntaf wedi’u diweddaru a fydd yn cynnwys defnyddio PPE perthnasol lle bo angen. Mae URC yn trafod gyda chyflenwyr PPE a bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i glybiau am y maes hwn.

3. Mae dull gweithredu fesul cam yn hanfodol. Bydd cam cyntaf yr hyfforddiant yn cael ei gynnal mewn grwpiau o 10 – 15 a bydd angen llacio’r cyfyngiadau ymhellach, yn enwedig pan ddaw’n fater o bellhau cymdeithasol, cyn y gellir dechrau ar hyfforddiant cyswllt. Darperir canllawiau pellach ar gynyddu maint y grŵp yn raddol ar yr adeg briodol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau URC, Julie Paterson: “Rydyn ni’n benderfynol o fod yn rhan o’r datrysiad i Covid-19 ac er mwyn i hynny ddigwydd mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd. Mae diogelwch pawb sy’n ymwneud â rygbi cymunedol Cymru a’u cymunedau ehangach o’r pwys mwyaf a phan mae rygbi’n dychwelyd, yr ydym i gyd am iddo ddychwelyd am byth.

“Byddwn yn defnyddio’r cyfnod sydd ar y gorwel cyn y 1af Awst i helpu i baratoi clybiau a grwpiau i ddychwelyd i’r cyfnod cyntaf o hyfforddiant rygbi a drefnir gan y clwb.

“

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cymunedol URC, Geraint John, “Er bod y rhain yn amgylchiadau anrhagweladwy a orfodir, mae hefyd yn gyfle gwych i hyfforddwyr a chwaraewyr i hogi sgiliau unigolion a thîm a fydd o fudd i’r gêm yn y tymor hir. Byddwn yn darparu syniadau ac adnoddau ar gyfer hyfforddwyr ond rydym hefyd yn gofyn iddynt fod yn arloesol ac annog creadigrwydd. “

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert