Neidio i'r prif gynnwys

Dychwelyd i Rygbi

Dychwelyd i Rygbi

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi’r cynllun diweddaraf ar gyfer Dychwelyd i Rygbi Cymunedol. Bydd y cynllun manwl hwn, sy’n canolbwyntio’n y lle cyntaf ar gael hwyl dros yr haf ac yna ddychwelyd yn raddol i rygbi llawn ar gyfer chwaraewyr o bob oed, yn rhoi hwb mawr ei angen ar ein Gêm Genedlaethol yn dilyn effaith pellgyrhaeddol pandemig COVID ac yn sicrhau bod y gêm ar lefel gymunedol yn dychwelyd i’w sefyllfa gref ac iach flaenorol.

Rhannu:

Mae disgwyl i chwaraewyr o dan 18 oed ddychwelyd i sesiynau hyfforddi wedi’u trefnu o ddydd Sadwrn 27 Mawrth ymlaen, ar yr amod bod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau hynny’r wythnos hon. Nawr hefyd, ar yr amod bod amodau iechyd y cyhoedd yn parhau’n ffafriol, gallai gemau rygbi tag a chyffwrdd ar gyfer y chwaraewyr hynny (dan 18) gael eu cymeradwyo o 1 Ebrill ymlaen yn eu hardaloedd eu hunain. Bydd mesurau sy’n ymwneud â hyfforddi a gemau’n dal i fod yn amodol ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys mynediad at gyfleusterau ac unrhyw gyfyngiadau teithio perthnasol. Ni fydd gwylwyr yn cael bod yn bresennol ar hyn o bryd ac mae’n hanfodol bod rhieni / gwarcheidwaid sy’n bresennol am resymau diogelu yn parhau i lynu wrth holl ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Gall pob lefel o’r gêm, gan gynnwys timau ieuenctid ac oedolion (dynion a merched), edrych ymlaen at ddychwelyd yn raddol i hyfforddiant llawn, gydag chyfyngiadau ac addasiadau, o 1 Mai ymlaen. Darperir manylion llawn maes o law ynghylch beth mae hyfforddi gyda chyswllt cyfyngedig yn ei olygu ynghyd â chymorth i hyfforddwyr. Er enghraifft, ni fydd unrhyw sgrymiau ar hyn o bryd.

O ganol Mehefin ymlaen, gall chwaraewyr o bob oed edrych ymlaen at haf o rygbi saith a deg bob ochr – o dan reolau addasedig. Bydd clybiau a thimau’n gallu manteisio ar y cyfnod ganol haf i drefnu gemau canol wythnos a dros y penwythnos mewn fformatau addasedig y cytunir arnynt i alluogi chwaraewyr i ddychwelyd yn raddol i rygbi cystadleuol llawn. Bydd yn gyfle i ail-feithrin rhywfaint o’r cyfeillgarwch sy’n deillio o rygbi cystadleuol yr ydym wedi gweld ei eisiau cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd y cyfnod hwn yn arwain at ddychwelyd yn raddol i rygbi 15 bob ochr a bydd yn cynnwys hyfforddiant llawn.

Cytunwyd ar set o reolau addasedig er mwyn gallu cymeradwyo gemau cyfeillgar 15 bob ochr o ganol mis Gorffennaf ymlaen, a gobeithio y bydd cystadlaethau ffurfiol Undeb Rygbi Cymru yn dechrau ym mis Awst. Mae union fformat y Cystadlaethau hynny wrthi’n cael ei gadarnhau. Gallai gynnwys rhyw fath o gystadlaethau ar gyfer pob oed (dynion a merched) lle bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf. Darperir canllawiau llawn ynghylch rheolau a fformat diwygiedig y cystadlaethau maes o law.

Bwriedir cynnal toriad ganol gaeaf rhwng mis Rhagfyr a chanol mis Ionawr, sydd wedi’i nodi fel cyfnod risg uchel o bosibl o safbwynt iechyd y cyhoedd. Os bydd Canllawiau Cymru yn hyblyg bryd hynny, efallai y bydd clybiau’n dewis chwarae gemau cyfeillgar yn ystod y ffenestr hon. Gobeithir y bydd Cynghreiriau rygbi Undeb Rygbi Cymru i ddynion hŷn a thimau ieuenctid yn cychwyn o ganol mis Ionawr ac yn rhedeg tan fis Mai 2022. Bydd y tymor newydd ar gyfer y gêm i ferched yn dechrau ar yr un pryd – ganol mis Ionawr.

Heb os nac oni bai, bydd diogelwch a’r rheidrwydd i lynu wrth brotocolau COVID llym yn parhau i fod yn hollbwysig drwy gydol y cyfnod hwn er mwyn helpu Rygbi Cymru i symud drwy bob cam ac aros ar y trywydd iawn er mwyn gallu cymryd rhan lawn yn y gêm unwaith eto. Y nod clir yw ailsefydlu’r manteision y mae rygbi cymunedol yn ei gynnig i les corfforol a meddyliol chwaraewyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr.

Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Rob Butcher, “Rydyn ni’n gwybod bod awydd cryf ar lefel gymunedol i gamu’n ôl ar y cae rygbi. Mae clybiau rygbi wrth galon ein cymunedau ac rydym i gyd yn gweld eisiau cymdeithasu ynddynt.

“Cyn gynted ag y bydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu, byddwn yn cymeradwyo dychwelyd i weithgareddau rygbi yn raddol ac yn ddiogel, ar yr amod bod gan y clybiau yr holl brotocolau angenrheidiol ar waith. Byddwn yn parhau i gefnogi’r cannoedd o wirfoddolwyr rygbi ar lawr gwlad i wneud hyn. Maen nhw wedi chwarae rhan mor bwysig dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Roedd gennym tua 300 o glybiau Undeb Rygbi Cymru ar ddechrau’r pandemig flwyddyn yn ôl, a’n blaenoriaeth yw dod allan o hyn gyda’r holl glybiau a thimau cymunedol eraill mewn sefyllfa i groesawu eu chwaraewyr, eu hyfforddwyr, eu gwirfoddolwyr a’u haelodau yn ôl i’w cyfleusterau.

“Rydyn ni’n hyderus y gellir cyflawni hyn ar ôl gweithio’n agos gyda chlybiau ar amryw o faterion, gan gynnwys ffrydiau ariannu, cymorth gan Lywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol, help i gael gafael ar yr offer ychwanegol sydd ei angen ar hyn o bryd, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol, ac arweiniad ar roi systemau a phrotocolau priodol ar waith i gadw pawb mor ddiogel â phosib.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Undeb Rygbi Cymru, Julie Paterson, “Mae’r cynllun ar gyfer Dychwelyd i Rygbi yn gam mawr ar daith rygbi Cymru tuag at adferiad.

“Mae ein teulu rygbi yn fwy brwdfrydig nag erioed i ddychwelyd i’r meysydd a chynnal gemau fel bod chwaraewyr, gwirfoddolwyr, teuluoedd a chefnogwyr yn manteisio, unwaith eto, ar yr holl fanteision corfforol, cymdeithasol a meddyliol sy’n unigryw i rygbi ar lawr gwlad. Gobeithiwn fod y cynllun hwn yn rhoi sicrwydd ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni hynny.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Cymru a Gemau’r Gymanwlad Cymru am eu cefnogaeth i gyrraedd y pwynt hwn ac rydyn ni’n cydnabod amynedd a gwaith caled ein holl wirfoddolwyr rygbi sydd wedi rhoi ein protocolau diogelwch ar waith drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf er mwyn caniatáu i rywfaint o weithgarwch rygbi ddigwydd pryd bynnag y mae wedi’i ganiatáu. Rydyn ni’n gwybod y byddan nhw’n parhau i wneud hynny yn ystod y cam nesaf hwn er mwyn ein helpu ni i symud drwy’r camau yn yr amserlen wrth i ni ddychwelyd at gymryd rhan lawn yn y gêm gymunedol.”

Ychwanegodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru: “Gan fod rygbi cystadleuol cymunedol wedi cael ei ohirio am 12 mis, rydyn ni nawr yn rhoi pwys mawr ar fwynhau a dylai’r gweithgaredd a gynlluniwyd dros y misoedd nesaf helpu pob clwb, pob Hwb Merched a phob tîm arall i gael eu traed tanynt a dechrau mwynhau rygbi eto, ar yr amod eu bod yn teimlo y gallan nhw ddarparu amgylchedd diogel i bawb.

“Ar ôl mwy na 12 mis heb chwarae rygbi caled, mae’n bwysig iawn bod pob chwaraewr yn cwblhau o leiaf chwe wythnos o hyfforddiant er mwyn paratoi ar gyfer y rheolau addasedig cyn dechrau hyfforddi a chwarae gemau gyda chyswllt llawn neu gemau mewn unrhyw fformat.

“Byddwn wrth law i ddarparu cymorth ar sawl lefel, o gynlluniau hyfforddi i helpu i reoli cyfleusterau’n ddiogel, ac mae ein tîm cymunedol ledled Cymru yn edrych ymlaen at ailgyflwyno cystadlaethau’n ddiogel wrth i ni weld ailddyfodiad y gêm 15 bob ochr.”

Dychwelyd i Rygbi – Saith Cam:*

Amserlen Arfaethedig

Ebrill 1: Chwaraewyr dan 18 oed yn ailddechrau chwarae gemau Tag a Chyffwrdd
Mai 1: Caniatáu timau ieuenctid a thimau hŷn i ddychwelyd i hyfforddi gyda chyswllt dan reolau addasedig (dim sgrymiau)

O ganol mis Mehefin: Dychwelyd i rygbi cystadleuol cyswllt llawn 7 a 10 bob ochr i bob oed a hyfforddi gyda chyswllt llawn (dynion a menywod)

O ganol mis Gorffennaf: Caniatáu gemau cyfeillgar 15 bob ochr o dan set o reolau addasedig wedi’u cytuno

Awst – Tachwedd: Dychwelyd i rai cystadlaethau 15 bob ochr a drefnir gan Undeb Rygbi Cymru ar bob lefel (dynion a merched).

Rhagfyr – canol Ionawr: Egwyl dros y Gaeaf

Canol mis Ionawr: Cynghrair rygbi Undeb Rygbi Cymru (gêm y dynion) yn dychwelyd; dechrau tymor Hwb Merched newydd.

*Os yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn dal yn ffafriol ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Gallai’r dyddiadau newid.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert