Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws – 17/08/21

Diweddariad Statws

“Rydym wedi cyffroi ein bod wedi gallu ailddechrau chwarae gemau cymunedol.

Rhannu:

Wrth i ni gyd ddod i arfer â rhyw fath o normalrwydd yn araf deg, mae’r tymor wedi dechrau gyda chyfres o gystadlaethau cwpan. Mae rowndiau grŵp y cystadlaethau wedi eu cynnal yn lleol er mwyn lleihau’r angen i deithio, ac er mwyn rhoi’r cyfle i chwaraewyr a chefnogwyr i fwynhau gemau derbi lleol wrth iddynt ddychwelyd i glybiau a chaeau ledled Cymru.  Ond mae rygbi yn ôl!

Gyda 20,000 o docynnau wedi gwerthu yn yr awr gyntaf o werthiant i’r cyhoedd, nifer uchel iawn, gwyddwn fod yr awch i wylio Cymru yn chwarae rygbi rhyngwladol yng Nghyfres Cenhedloedd yr Hydref yn gryfach nag erioed.  Mae tîm Wayne Pivac yn wynebu Seland Newydd, De Affrica, Ffiji ac Awstralia yn yr hydref a gallwn groesawu torf lawn i Stadiwm Principality. Mae’n deimlad braf gweld fod y genedl yn barod i rygbi ddychwelyd i Gaerdydd yn ei hanterth.

Rydym ni yn disgwyl y bydd rhai mesurau yn eu lle oherwydd Covid -19. Efallai bydd angen i gefnogwyr wisgo mygydau wrth symud o amgylch y stadiwm, ond bydd modd eu tynnu pan fyddant wrth eu seddau, bydd hefyd mesurau glanhau llym. Mae’n bwysig nodi ein bod wedi dilyn y canllawiau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a’r rhai gan Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy gydol y broses, a byddwn yn parhau i wneud hyn. Wrth i ni gynllunio ymlaen rydym ni hefyd yn gweithio gyda’r Awdurdod Lleol a’r Grŵp Ymgynghorol Diogelwch.

Rydym ni wedi galluogi cefnogwyr i brynu gyda’r sicrwydd fod polisi ad-daliad lawn yn ei le os bydd  cyfyngiadau Covid-19 yn atal unrhyw un rhag mynychu.  Ond mae’n rhaid maddau i bawb am gynllunio ac edrych ymlaen gan obeithio am y gorau gyda thorf lawn yr hydref hwn, i gynhesu’r galon a bwydo’r angerdd ledled Cymru.  Bydd stadiwm lawn yn ystod y gyfres yn arwydd o normalrwydd yn rygbi Cymru.

Mae’r galw mawr am docynnau rhyngwladol yn argoeli’n dda ar gyfer y gêm yn ei chyfanrwydd yng Nghymru. Yn amlwg mae gallu ail-groesawu cefnogwyr yn hanfodol er mwyn cynhyrchu’r arian sy’n cael ei ail-fuddsoddi yn y gêm ar bob lefel, ond rygbi yw camp genedlaethol Cymru ac nid yw wedi teimlo’n iawn heb gefnogwyr yn bresennol yn ystod y gemau.

Mae rhywbeth wedi bod ar goll, a byddwn yn falch o allu croesawu cefnogwyr yn ôl ar gyfer cyfres a fydd yn cynnwys nifer o fawrion y gêm ryngwladol yng Nghaerdydd.

Hefyd, dyma’r tro cyntaf y bydd llawer o gefnogwyr yn gweld tîm Cymru yn y cnawd ers iddynt ennill pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021, gan mai ond nifer cyfyngedig gafodd eu caniatáu i mewn i Stadiwm Principality yn ystod cyfres yr haf yn ddiweddar.

Mae’n debyg y bydd yr awyrgylch yn un anhygoel, a hynny cyn i ni ddechrau siarad am y gemau. I ddechrau gyda’r gêm yn erbyn Seland Newydd, wrth i ni obeithio am fuddugoliaeth, y cyntaf ers 1953 yn erbyn y crysau duon; yna Tîm De Affrica, pencampwyr y byd; a Thîm ffyrnig Ffiji a Thîm Awstralia, wrth iddynt drio am y trydydd tro i’n curo ni.

Mae clybiau sy’n aelodau wedi bod yn allweddol wrth helpu i greu’r galw i rygbi ddychwelyd, ac yn uniongyrchol wrth dderbyn dyraniadau o docynnau ar gyfer Cyfres Cenhedloedd yr Hydref. Rwy’n ddiolchgar i bob un o’n haelodau am eu hymroddiad a’u cefnogaeth barhaus tuag at rygbi Cymru.

Hoffwn longyfarch Alun Wyn Jones yn ffurfiol ar yr hyn mae wedi ei gyflawni, nid yn unig gyda Llewod Prydain ac Iwerddon ble y mae wedi gwneud hanes fel un o’r goreuon, ond hefyd yr hyn mae wedi ei gyflawni gyda’r genedl ac ar ei rhan. Mae’n esiampl wych i bawb sy’n cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd, ac rydym yn falch o’i gael fel un o’n rhai ni.

Llongyfarchiadau i Jasmine Joyce a fu’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd am yr ail dro. Er ei bod wedi siomi eu bod wedi dod yn bedwerydd yn y rygbi 7 bob ochr yn Tokyo, roedd yn allweddol i’r tîm yn y twrnament ac yn esiampl i chwaraewyr ifanc y dyfodol, da iawn Jaz.

Yn olaf, hoffwn longyfarch Sean Fitzpatrick a phawb arall sydd wedi cymryd rhan yn nigwyddiad Tour de Scarlets i godi arian er budd Sefydliad Cymunedol y Scarlets. Cefais y fraint o gwrdd â nhw er mwyn dymuno yn dda iddynt yn ystod eu taith feicio o amgylch y rhanbarth.”

Yr eiddoch mewn rygbi
Steve Phillips
Prif Swyddog Gweithredol URC

Mae rygbi yn ôl!


Dychwelodd rygbi gyda bang ledled Cymru ddechrau’r mis, wrth i gefnogwyr a chwaraewyr bentyrru i’r clybiau.

Trodd cystadlaethau Cwpan URC, a gynlluniwyd i ail-gyflwyno’r gêm i genedl a oedd wedi treulio dros 500 diwrnod yn meddwl tybed pryd y gallent chwarae eto, yn ddathliad go iawn wrth i dimau o bob lefel a rhyw ddychwelyd i’r caeau.

“Mae’n rhaid i mi gyfaddef, roeddwn i ychydig yn bryderus yn y cyfnod cyn y penwythnos agoriadol,” cyfaddefodd Geraint John, Cyfarwyddwr Rygbi Cymunedol URC “ond o’r hyn a brofais ym Mhorthcawl fe drodd i mewn i ymarfer gwych.

“Daeth tîm Sgiwen i Borthcawl ac ennill, ond nid diwrnod i’r enillwyr na’r collwyr oedd y diwrnod hwnnw. Diwrnod pan ddaeth Rygbi Cymru at ei gilydd yn un teulu, ar y cae ac oddi arno.

“Gohiriwyd rhai o’r gemau oherwydd Covid a chymhlethdodau eraill, ond chwaraewyd y rhan fwyaf o’r gemau. Fel cam cyntaf yn ôl i chwarae, ni allwn i fod wedi dymuno am ganlyniad gwell.

“Roedd yn wych bod yn dyst i’r hyn sy’n digwydd ym Mhorthcawl. Mae 40 o chwaraewyr wedi bod yn mynychu sesiynau hyfforddiant, ac felly maent yn ystyried dechrau ail dîm a sefydlu tîm Dan 18 i ferched.

“Roedd ambell glwb yn awyddus i chwarae gemau cynghrair yn syth, ond rwy’n credu fod ein dyhead pwyllog wedi bod yn ddoeth. Mae pawb angen cymryd camau bach er mwyn dod i arfer â chwarae eto. Byddwn yn cadw cofnod o’r nifer y gemau sy’n cael eu chwarae, a chlybiau sydd efallai’n cael trafferth, wrth i ni barhau â’r cystadlaethau cwpan presennol.”

Mwy am y stori yma:

Hefyd, cliciwch yma i glywed mwy am holl ganlyniadau’r Llwybr at Gyfranogiad

Yn ôl, ond ddim fel o’r blaen:

Cafodd rygbi cystadleuol ei groesawu a breichiau agored ar draws Gymru yn ddiweddar, ond ddim y math o rygbi a oedd yn cael ei chwarae 500 diwrnod yn ôl pan oedd y gêm gymunedol yn cael ei chwarae diwethaf.

Mae Covid-19 wedi achosi newidiadau i’r rheolau, er mwyn sicrhau diogelwch. A bydd amrywiadau i’r rheolau a wnaed gan Rygbi’r Byd yn cael eu defnyddio er mwyn cynnal rowndiau agoriadol gemau yng Nghystadleuaeth Cwpan Timau hŷn sy’n rhan o Lwybr at Gyfranogiad URC. Mae hyn yn cynnwys Cwpan y Bencampwriaeth a chystadlaethau eraill sy’n croesawu timau o’r cynghreiriau is wedi’u rhannu’n gategorïau Plât, Powlen a Tharian.

Yn ychwanegol, mae twrnamentau Cwpan y Menywod yng Ngogledd a De Cymru a thwrnament Plât De Cymru. Mae’n wych fod y timau yn gallu dychwelyd i’r cae i chwarae unwaith eto, ond bydd nifer o bethau i’w hystyried.

Wrth ystyried rheoliadau Rygbi’r Byd, dyma’r prif newidiadau (yn Saesneg yn unig):

50:22
If the team in possession kicks the ball from inside their own half indirectly into touch inside their opponents’ 22, they will throw into the resultant lineout. The ball cannot be passed or carried back into the defensive half for the 50:22 to be played. The phase must originate inside the defensive half.
GOAL LINE DROP-OUT
If the ball is held up in in-goal, if there is a knock-on from an attacking player in in-goal or an attacking kick is grounded by the defenders in their own in-goal, then play restarts with a goal line drop-out anywhere along the goal line.
FLYING WEDGE
The three or more player, pre-bound pod, or flying wedge, is now outlawed. The sanction will be a penalty kick.
1 MAN LATCH
The one-player latch will still be permitted, but this player will now have the same responsibilities as a first arriving player (i.e. must stay on feet, enter through the gate and not fall to the floor). The sanction will be a penalty kick.
CLEANOUT AND SAFETY OF THE JACKLER
Any player who attempts a clean out which targets or drops weight onto the lower limbs of another player will now be penalised.

Mae’r rheolau sydd wedi eu haddasu ar gyfer y twrnamentau, yn cynnwys newidiadau i reolau presennol er mwyn sicrhau diogelwch dan gyfyngiadau Covid-19.

Dyma rai o’r newidiadau:
CLICIWCH YMA
weld yr holl reolau ar gyfer pob oedran

Y tocynnau yn boblogaidd

Mae tocynnau ar gyfer gemau Cyfres Cenhedloedd yr Hydref Cymru yn erbyn Seland Newydd, De Affrica, Ffiji ac Awstralia newydd fynd ar werth i’r cyhoedd am y tro cyntaf – ar-lein ar sail y cyntaf i’r felin, gyda thocynnau yn hanner pris ar gyfer plant o dan 17.

Yn ystod yr awr gyntaf, gwerthwyd 20,000 o docynnau. O’i gymharu yn union â 2017 – y tro diwethaf i Seland Newydd chwarae yng Nghaerdydd – pan werthyd 6,000 o docynnau yn ystod yr awr gyntaf (ffigwr anhygoel yn ei hun ar y pryd) mae’n dangos cynnydd aruthrol yn y galw.

Y cyfanswm ar gyfer diwrnod cyntaf y gwerthiant cyhoeddus yn 2017 oedd 19,000 ac mae’r nifer yma hefyd wedi’i drechu, gyda haen is a chanol Stadiwm Principality bellach wedi gwerthu allan ar gyfer y gêm yn erbyn y Crysau Duon.

Bydd Cymru yn wynebu timau nerthol hemisffer y de yn eu hymgyrch anoddaf yn ystod yr hydref hyd yma, gyda Stadiwm Principality yn llawn unwaith eto.

Petai’r pedwar tîm yn cael eu cynnwys yn yr un grŵp mewn cystadleuaeth Cwpan y Byd, buasai’n cael ei nodi fel grŵp anoddaf y gystadleuaeth.

Buasai cyfanswm y 4 tîm yn ôl eu lle ar lwyfan rygbi’r byd yn adio i 20, yn well o lawer na gwrthwynebwyr y chwe gwlad (gyda chyfanswm o 26) pan enillodd Cymru’r bencampwriaeth y tymor diwethaf.

“Maent yn gyfres o gemau anodd iawn,” dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.

“Rydym yn dechrau gyda dau o dimau gorau’r byd un penwythnos ar ôl y llall yng Nghaerdydd. Wedi hynny, bydd y frwydr yn erbyn Ffiji ac Awstralia yn parhau i brofi ein gallu.

“Ond dyna beth yw naws rygbi rhyngwladol.  Profi eich hunain yn erbyn y goreuon, a byddwn yn mwynhau’r her.”

Mwy gan Wayne Pivac yma:

Cyfarfyddiadau’r gorffennol

O’r tri achlysur blaenorol y mae Cymru wedi wynebu’r gemau hyn, dim ond unwaith, yn 2005, y maen nhw wedi chwarae’r Crysau Duon gyntaf. Ar yr achlysur hwn enillodd yr ymwelwyr 41-3.

Yn yr un flwyddyn gwelwyd gem agos rhwng Ffiji a Chymru, a oedd newydd ennill y gamp lawn, gyda’r tîm cartref yn ennill 11-10.  Trechodd De Affrica’r Cymry yn ystod trydedd gêm y gyfres, ond y fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia, y cyntaf ers yr 80’au oedd y pinacl yn ystod gêm olaf y gyfres.

Yn ystod 2010 roedd canlyniad y gêm yn erbyn Ffiji hyd yn oed yn agosach, gyda’r sgôr yn gyfartal 16-16, a dyma’r unig lwyddiant a gafodd Cymru yn ystod y gyfres bedair gêm.

Enillodd Cymru yn erbyn De Affrica yn eu gêm olaf yn 2014. Unwaith eto cafwyd gem agos yn erbyn Ffiji gyda thîm Cymru yn ennill 17-13 yn ystod ail benwythnos y gemau, cyn ac ar ôl colled i Awstralia i ddechrau ac yna Seland Newydd.

Y gêm agosaf a welwyd rhwng Cymru a’r Crysau Duon, yn ddiweddar, oedd yn 2009. Cafwyd buddugoliaethau yn erbyn Samoa a’r Ariannin, ond colli i Awstralia yng Nghaerdydd. Llwyddodd y tîm cartref sgôr agos o 19-12 yn erbyn Seland Newydd yn ystod y gêm agoriadol, ond mae buddugoliaeth yn erbyn y Crysau Duon yn parhau yn gamp.

 

Mae Fiji yn herio Cymru yn Stadiwm y Principality


Ffocysu ar Ffiji

Ffiji yw’r unig dîm yn y gyfres eleni sydd y tu ôl i Gymru ar lwyfan y byd rygbi, yn eistedd ychydig y tu allan i’r deg uchaf yn 11eg.

Ond mae Ffiji hefyd newydd ddychwelyd o’r Gemau Olympaidd yn Tokyo gydag aur, ar ôl curo yn erbyn Seland Newydd yn rownd derfynol cystadleuaeth saith bob ochr y dynion, a medalau efydd, ar ôl curo Menywod Prydain. Allan o ddeuddeg gem yn erbyn Ffiji, mae Cymru wedi ennill deg, colli un, ac un gêm yn gyfartal. Ond nid yw’r ystadegau yn adrodd yr hanes i gyd.  Yn 2007 ni aeth Cymru ym mhellach na gemau’r grwpiau yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc wedi i Ffiji eu trechu. Roedd y gêm gyfartal yn 2010 hefyd yn sioc i dîm talentog Cymru.

Awstralia yn edifarhau
Mae Cymru wedi ennill yn erbyn Awstralia yn y ddwy gêm ddiwethaf, yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019 ac yn ystod cyfres yr hydref yng Nghaerdydd yn 2018.  Ond, cyn y golled yn 2018, roedd Awstralia wedi curo 13 gem yn olynol yn erbyn y Cymry, cartref ac oddi cartref, gan fynd yn ôl mor bell â 2008 pan gurodd tîm Cymru 21-18 yn Stadiwm Principality wedi iddynt ennill y Gamp Lawn.

Gemau’r Gyfres

I ddechrau’r gyfres bydd Cymru yn wynebu Seland Newydd ar ddydd Sadwrn 30 Hydref yn Stadiwm Principality am 17:15, y tro cyntaf i’r Crysau Duan chwarae yng Nghaerdydd ers pedair blynedd.

Chwaraeir yr ail brawf, yn erbyn De Affrica ar ddydd Sadwrn 6 Tachwedd, a’r Prawf terfynol, yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn 20 Tachwedd, y ddwy yn cychwyn am 17:30. Caiff trydedd gêm y gyfres yn erbyn Ffiji ei chwarae ar Sul y Cofio, dydd Sul 14 Tachwedd am 15:15.

Cymru v Seland Newydd, Stadiwm Principality  – Dydd Sadwrn 30 Hydref CAT A £95 (£47.50) / CAT B £85 (£42.50) / CAT C £75 (£37.50) /

(Mae CAT D a CAT E wedi gwerthu allan ar gyfer y gêm yma)

Cymru v De Affrica, Stadiwm Principality – Dydd Sadwrn 6 Tachwedd CAT A £75 (£37.50) / CAT B £65 (£32.50) / CAT C £45 (£22.50) / CAT D £35 (£17.50) / CAT E £25 (£12.50)

Cymru v Ffiji, Stadiwm Principality – Dydd Sul 14 Tachwedd CAT A £35 (£17.50) / CAT B £25 (£12.50) / CAT C £20 (£10) / CAT D £15 (£7.50) / CAT E £10 (£5)

Cymru v Awstralia, Stadiwm Principality – Dydd Sadwrn 20 Tachwedd CAT A £75 (£37.50) / CAT B £65 (£32.50) / CAT C £45 (£22.50) / CAT D £35 (£17.50) / CAT E £25 (£12.50)

Am y tro cyntaf, mae tocynnau consesiwn ar gael ym MHOB categori ar gyfer POB gêm ar draws y gyfres (i’w gweld mewn cromfachau), sy’n golygu y gallai plentyn wylio pob un o’r pedair gêm am £50.

Newyddion Rygbi
DAVIES YN EDRYCH YMLAEN

Ni all Jonathan Davies aros i chwarae yn erbyn chwaraewyr rygbi pwerus hemisffer y de yr hydref hwn, ond yr hyn mae’n edrych ymlaen ato fwyaf yw chwarae o flaen stadiwm yn llawn cefnogwyr unwaith eto.

Bydd pencampwr y byd, De Affrica, a thimau Seland Newydd, Awstralia a Ffiji yn chwarae ym mhrifddinas Cymru ar gyfer cyfres yr hydref ac mae Davies, a gapteiniodd Cymru yn ystod cyfres yr haf yn erbyn yr Ariannin, yn dweud bod y chwaraewyr yn edrych ymlaen at y cyfle i wynebu goreuon y byd.

Ond mae un peth yn arbennig mae’n edrych ymlaen ato wrth iddo gamu yn nes tuag at chwarae ei 100fed gêm yn gyffredinol ac ar gyfer Cymru – y daith bws i mewn!

“Rydych chi’n gwybod fod yr amser wedi dod, pan fyddwch chi’n gyrru i Stadiwm Principality ac yn gweld y torfeydd ar y strydoedd. Dyna pryd y cewch ychydig o adrenalin ychwanegol,” dywedodd Davies.

“Rwyf wrth fy modd â’r pwysau ychwanegol o berfformio o flaen miloedd o bobl. Dydi chwarae heb dorf ddim yn rhoi’r un wefr.”

Mwy gan Jonathan yma:

JONES YN PROFI PAM EI FOD YN UN O’R GOREUON

Roedd Alun Wyn Jones yn gyfartal â record Graham Price o fod wedi chwarae mewn 12 gêm prawf yn olynol i Lewod Prydain ac Iwerddon. Ond nid oedd yn ddigon i atal yr ymwelwyr rhag colli 19-16 i dîm De Affrica ac felly colli’r gyfres.

Roedd yn debyg i’r hyn a ddigwyddodd i dîm Warren Gatland y tro diwethaf, wrth i gic cosb gan Morne Steyn yn ystod eiliadau olaf y gêm achosi iddynt golli 2-1.

Darllenwch mwy, os allwch chi wynebu ail-fyw’r boen, yma:

“Mae’n debyg fy mod i ychydig yn emosiynol ar ôl y gêm am ddau reswm,” dywedodd Jones.

“Yn gyntaf, mae taith y Llewod yn un arbennig iawn, yn enwedig oherwydd yr 18 mis neu ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r daith wedi bod yn y fantol oherwydd y sefyllfa fyd-eang.

“Mae’n debyg fod gallu chwarae wedi golygu lot mwy i nifer o bobl.

“Fe wnaethom siarad yn ystod Cwpan Cenhedloedd yr Hydref a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad am y cyfnod clô a chymryd rhan mewn chwaraeon.

“ac rydyn ni wedi gallu chwarae yn Ne Affrica sydd yn amlwg yn wynebu heriau Covid-19 eu hunain.

“Mae bod yn rhan o’r daith yn Ne Affrica wedi bod yn wahanol ond yn arbennig.

“Mae colli â sgôr mor agos yn fwy o ergyd na cholled fawr. Rydyn ni yn deall arwyddocâd y daith yma, gan fod pedair blynedd nes y daith nesaf a 12 mlynedd nes y byddwn yn dychwelyd i Dde Affrica.”

Mwy gan Jones yma:

JOYCE YN BEDWERYDD GYDA THÎM PRYDAIN

Cyfaddefodd Jasmine Joyce ei bod “wedi siomi yn fawr” wedi canlyniad torcalonnus i’w thîm o Brydain yn y Gemau Olympaidd yn y gystadleuaeth rygbi saith bob ochr i ferched yn Tokyo.

Cafodd asgellwr Cymru, Joyce, dwrnament anhygoel, a chwaraeodd ei chyflymder a’i dawn wrth anelu am y llinell gais ran fawr wrth i Dîm Prydain sicrhau lle yn y rowndiau cynderfynol.

Ond cafodd y tîm eu trechu gan Ffrainc, a olygodd eu bod yn chwarae Fiji yn y gêm am y fedal efydd.

Daeth y tîm o Ynysoedd Môr y De yn fuddugol gan ennill 21-12.

Golygai hyn fod Tîm Prydain wedi dod yn bedwerydd, ac o drwch blewyn ddim yn dod adra â medal.

“Mae’n debyg ei fod yn amlwg o’n hwynebau, ein bod wedi siomi yn fawr,” dywedodd Joyce.

Clywch fwy gan Joyce yma:

Rebecca Rowe

Rebecca Rowe: Tân a rhew


ROWE YN TRECHU TÂN A RHEW

Yn ôl y dywediad – ble yr ydych yn gorffen sy’n bwysig, nid ble yr ydych yn dechrau.

Mae hyn yn sicr yn wir am gyn chwaraewr rhyngwladol Menywod Cymru Rebecca Rowe.

Byth yn un i orffwys ar ei rhwyfau, o’r diwedd cyfarfu’r mabolgampwr aml-dalentog â grŵp newydd o gyd-chwaraewyr yng ngwres tanbaid Bannau Brycheiniog yn ddiweddar i baratoi ar gyfer ymosodiad arloesol ar… Antarctica!

Mae’r Antarctic Fire Angels yn honni eu bod yn “Fenywod cyffredin sy’n gwneud pethau anghyffredin”

Darllenwch fwy yma

DILEIT Y DERBI YNG NGRŴP UWCH GYNGHRAIR INDIGO

Ar ôl saib o 18 mis oherwydd y pandemig, mae gan glybiau Uwch Gynghrair Grŵp Indigo rywbeth i edrych ymlaen ato o’r diwedd gyda chystadleuaeth cwpan newydd i ddechrau’r tymor ar 18 Medi.

Mae’r 12 clwb wedi’u rhannu’n ddau grŵp o chwech – Gorllewin a Dwyrain – ar gyfer Cwpan Uwch Gynghrair Grŵp Indigo.
Mwy yma:

GEMAU’R GYSTADLEUAETH CWPAN

Mae’r gemau cyntaf yng nghystadlaethau cwpan Llwybr at Gyfranogiad (Awst- Rhagfyr 2021) wedi eu chwarae – Cwpan y Bencampwriaeth, Plât y Bencampwriaeth, Powlen y Bencampwriaeth a Tharian y Bencampwriaeth ar gyfer y gêm i ddynion hŷn. Bydd gemau cystadlaethau Cwpan Gogledd Cymru, Cwpan De Cymru a Phlât De Cymru ar gyfer y gêm i fenywod hŷn yn cychwyn ym mis Medi.

Yn ystod y gystadleuaeth gwelwyd y gemau cystadleuol 15 bob ochr cyntaf yn cael eu cynnal ers i rygbi cymunedol gael ei atal am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2020. Bydd y cystadlaethau’n cael eu chwarae o dan reolau wedi’u haddasu i leihau’r cyswllt yn enwedig yn y sgrym a’r sgarmes, ac mae ffocws ar aros yn lleol yn ystod cyfnodau’r gemau grŵp.

Clywch gan Gyfarwyddwr Cymunedol URC a mwy yma:

CANLLAWIAU AR GYFER LEFEL RHYBUDD 0

Gall clybiau bellach ddiwygio eu protocolau presennol a mabwysiadu canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru AR YR AMOD eu bod wedi cwblhau asesiad risg mewnol ac yn glynu wrth y mesurau a roddwyd ar waith a fydd yn benodol i’w cyfleusterau eu hunain.
Mwy yma:

TAITH CODI ARIAN TOUR DE SCARLETS

Cwblhaodd Sefydliad Cymunedol y Scarlets eu taith beicio Tour de Scarlets yn llwyddiannus, gan ymweld â 53 clwb rygbi llawr gwlad ar draws y rhanbarth.

Dros bedwar diwrnod anhygoel, llwyddodd swyddog Cymunedol y Sefydliad Rhodri Jones, prif ofalwr tiroedd Luke Jenkins ac un o gewri’r Crysau Duon Sean Fitzpatrick, i feicio 350 o filltiroedd. Ymwelwyd â chlybiau yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion er mwyn codi arian i’r gêm gymunedol yn lleol. Ymunodd nifer o staff Cymunedol URC ar hyd y ffordd hefyd.

Wrth ymweld â’r clybiau, ymunodd aelodau o garfan y Scarlets, gan gynnwys llysgennad y Sefydliad Rhys Patchell, Josh Macleod, Daf Hughes, Iestyn Rees, Marc Jones, Luke Davies a hyfforddwr y rheng ôl Dai Flanagan.
Gorffennodd y daith ym Mharc y Scarlets, ble croesawyd y beicwyr gartref gan staff, cefnogwyr a theuluoedd y Scarlets.

Mwy yma:

PRITCHARD YN ARWAIN YN Y GOGLEDD


Mae Alun Pritchard wedi ei benodi fel Rheolwr Cyffredinol newydd Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru.

Chwaraeodd Alun, cyn chwaraewr rheng ôl Abergele, ran allweddol wrth sefydlu RGC, fel cyfarwyddwr gwirfoddol y tîm yn y dyddiau cynnar. Yn ddiweddarach roedd yn bartner allweddol i RGC ac Undeb Rygbi Cymru fel uwch swyddog digwyddiadau cyn symud i Motorsports UK, ble yr oedd yn gyfrifol am brofiad masnachol a chwsmeriaid yn Rali GB Cymru a Phencampwriaeth Rali Brydeinig.

Bydd ystod eang i’w rôl, sy’n cynnwys bod yn gyfrifol am lwybrau at rygbi cymunedol a rygbi perfformiad yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal, bydd yn gweithio â phartneriaid allweddol, fel Cyngor Conwy, er mwyn sicrhau profiad o ansawdd ar gyfer chwaraewyr, staff a chefnogwyr yn Stadiwm Zipworld.

ER COF AM TERRY DAVIES

Bu farw Terry Davies, un o oreuon rheng ôl Cymru, yn Llanelli yn 88 oed. Yn gyn-gapten i Gymru ac wedi chwarae i’r Llewod, roedd wedi ennill 20 cap.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Gymru, ynghyd â Gareth Griffiths a Sid Judd, ym mis Ionawr 1953 yn Twickenham, pan sgoriodd unig bwyntiau ei dîm gyda chic gosb mewn gêm ble curodd Lloegr 9-3.
Cofiwch Terry yma:

GWERSYLLOEDD YR HAF

Mae menter gwersylloedd yr haf URC wedi bod yn llwyddiant ysgubol hyd yma. Erbyn diwedd y mis, bydd mwy na 115 o wersylloedd un dydd wedi eu cynnal, gan gynnwys 14 gwersyll ar gyfer genethod yn unig a pum gwersyll Anghenion Addysgol Arbennig.

Trefnwyd a chynhaliwyd y gwersylloedd ledled Cymru gan URC a staff cymunedol rhanbarthol ynghyd â swyddogion hyb drwy gydweithio a phartneriaid allanol gan gynnwys Ysgol y Cnociau Caled, yr Urdd ac Awdurdodau Lleol.

Erbyn diwedd gwyliau’r ysgol, bydd mwy na 4,500 o bobl ifanc wedi elwa gan o leiaf un diwrnod o weithgareddau rygbi hwylus, wrth i ni barhau i ailddechrau rygbi cymunedol wedi cyfnodau hir o glô. Mae’r rhan helaeth o’r gwersylloedd yn rhad ac am ddim, gyda chinio iach yn cael ei ddarparu er mwyn helpu i drechu llwgu yn ystod y gwyliau a dileu unrhyw rwystrau at weithgareddau.

Dywedodd cyfarwyddwr cymunedol URC, Geraint John, “Mae’r 17 mis diwethaf wedi cael effaith ar bawb, yn gorfforol ac yn feddyliol, a neb yn fwy na phobl ifanc. Felly mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl ifanc ledled Cymru o bob cefndir yn cymryd rhan yn ein gwersylloedd dros yr haf, ac yn mwynhau diwrnod o weithgareddau rygbi hwylus.

“Ynghyd â dychweliad rygbi cymunedol cystadleuol, mae’n galonogol gweld ein staff yn cydweithio. Yn dimau cymunedol yn y rhanbarthau, swyddogion hyb a phartneriaid i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i ddileu’r rhwystrau at gyfranogiad a gwella cyfleoedd i bawb, gan gynnwys rhai sydd heb chwarae rygbi o’r blaen.”

YN OLAF… CANOLBWYNTIO AR OGLEDD CYMRU

Cyfle i ganolbwyntio ar rygbi yng Ngogledd Cymru ym mhodlediad URC yr wythnos yma. Sgwrs hir â rheolwr cyffredinol newydd rhanbarth ddatblygu Gogledd Cymru, Alun Pritchard.

Gwrandewch yma:

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert