Neidio i'r prif gynnwys

Rygbi cynghrair i ddychwelyd ym mis Tachwedd

Bargoed v Bedwas

Bydd y Cynghreiriau Cenedlaethol yn cychwyn o ddydd Sadwrn 13 Tachwedd (Pic: Simon Latham)

Efallai fod Wayne Pivac a’i dîm rhyngwladol yn paratoi i chwarae yn erbyn goreuon hemisffer y de yr hydref hwn, ond bydd dros 300 o glybiau cymunedol URC hefyd yn cyrraedd carreg filltir eu hunain.

Rhannu:

Mae Bwrdd Gêm Gymunedol Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu dechrau tymor cynghrair 2021/22 y dynion hŷn yn gynt ar ddydd Sadwrn 13 Tachwedd yn dilyn adolygiad o rygbi a chyflwr iechyd y cyhoedd.

Bydd hyn ar gyfer pob Adran, o’r Uwch Gynghrair i Adran Tri, gyda chlybiau yn chwarae ei gilydd gartref ac oddi cartref yn yr Adrannau yr oeddynt yn cystadlu ynddynt diwedd tymor y Gynghrair Genedlaethol ym mis Mawrth 2020. Prif nod y tymor hwn yw dychwelyd i chwarae gemau cymunedol yn llawn, heb unrhyw drafferth, yn y modd mwyaf diogel posib tra’n cefnogi datblygiad chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr a thimau yn ogystal â chroesawu cefnogwyr yn ôl i’r caeau yn ystod y cyfnod trosiannol hwn.

Bydd Uwch Gynghrair Grŵp Indigo yn dechrau ar 11 Rhagfyr, hefyd ar sail chwarae gartref ac oddi cartref. Yna bydd y pedwar tîm gorau yn chwarae gemau ail gyfle i benderfynu pwy yw pencampwyr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo.

Bydd y pedwar tîm gorau yn yr Uwch Gynghrair yn chwarae gemau ail gyfle i benderfynu pwy yw pencampwyr y clybiau.

Bydd enillwyr Cynghrair Adran 1-3 yn chwarae gemau ail gyfle er mwyn penderfynu pwy yw’r pencampwyr Adrannol Cenedlaethol.

Er mwyn bod yn deg â phob clwb yn ystod y cyfnod trosiannol hwn, ni fydd unrhyw ddyrchafiad na diraddiad y tymor hwn.

Bydd ail ran cystadleuaeth cwpan menywod hŷn yn cael ei gynnal rhwng 21 Tachwedd a diwedd mis Ionawr. Bydd timau yn cael eu rhoi mewn grwpiau ar gyfer yr ail rhan, yn ddibynnol ar eu llwyddiant yn y rhan cyntaf a fydd yn dod i ben diwedd mis Hydref. Bydd saib ym mis Chwefror cyn dechrau rhaglen cynghrair y menywod ar 6 Mawrth.

Bydd y gweddill o’r gemau cymunedol (timau ieuenctid ac ail dimau) yn dilyn strwythur tymhorol tebyg. Er bod cytundeb nad oes angen saib hir yn ystod y gaeaf, mae seibiannau rheolaidd, byrach wedi eu cynnwys yn y tymor ar gyfer cystadlaethau sydd wedi eu trefnu yn genedlaethol. Argymhellir i hyn ddigwydd ym mhob lefel o’r gêm er mwyn rheoli dychweliad graddol a pharhaus at ffitrwydd gemau wedi cyfnod hir heb rygbi cyswllt. Er enghraifft, mae cynghrair y dynion hŷn yn cynnwys saib o bythefnos yn ystod y Nadolig a seibiannau naturiol yn ystod penwythnos gemau rhyngwladol.

Pwyntiau allweddol:

– Bydd cynghrair rygbi chwaraewyr hŷn yn Nghymru yn dechrau ar ddydd Sadwrn 13 Tachwedd, bron i ddeufis yn gynharach nag oedd wedi ei gynllunio yn y Llwybr at Gyfranogiad URC, wedi adolygiad o rygbi a chyflwr iechyd y cyhoedd.

– Bydd rhaglen cynghrair y dynion hŷn yn cynnwys gemau gartref NEU oddi cartref y tymor hwn, wrth i rygbi cymunedol yng Nghymru anelu i gwblhau’r Llwybr at Gyfranogiad o fewn amserlen gyfyngedig.

– Ni fydd y defnydd o’r addasiadau presennol i’r rheolau yn parhau – ar yr amod fod amodau iechyd cyhoeddus yn parhau yn ffafriol.

– Bydd y pedwar tîm gorau yn Uwch Gynghrair Grŵp Indigo yn chwarae gemau ail gyfle i benderfynu pwy yw pencampwyr Grŵp Indigo.

– Bydd y pedwar tîm gorau yn yr Uwch Gynghrair yn chwarae gemau ail gyfle i benderfynu pwy yw pencampwyr y clybiau.

– Bydd ennillwyr Cynghrair Adran 1-3 yn chwarae gemau ail gyfle er mwyn penderfynu pwy yw’r pencampwyr Adrannol Cenedlaethol.

– Ni fydd dyrchafiad na diraddiad yn digwydd yn unrhyw un o lefelau’r Cynghrieirau Cenedlaethol y tymor hwn, o ystyried yr amgylchiadau cymhleth.

– Wedi 17 mis heb rygbi gystadleuol wedi ei drefnu, ac absennoldeb 20 mis o gynghrair rygbi, prif nod y tymor trosiannol yw i help timau a hyfforddwyr i barhau i ailgychwyn rygbi cymunedol mewn modd diogel; a chroesawu chwaraewyr, dyfarwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr yn ôl i’r clybiau rygbi a chefnogi chwaraewyr wrth iddynt symud i dîm oedran gwahanol.

– Mae cyngor meddygol helaeth wedi cael ei ystyried wrth argymell a chymeradwyo fformat y Gynghrair yma. Mae seibiannu rheolaidd yn amserlen y gemau wedi eu cynnwys er mwyn caniatau ymyriadau posib oherwydd y pandemig, a’r angen i reoli dychweliad graddol a pharhaus at ffitrwydd gemau ar gyfer chwaraewyr, wedi cyfnod hir heb rygbi cyswllt.

– Mae’r tymor hwn o gemau Gynghrair yn unigryw, ac yn cynnwys elfen o hyblygrwydd er mwyn caniatau unrhyw aflonyddwch pellach, i aildrefnu gemau a threfnu cystadlaethau lleol i gefnogi datblygiad chwaraewyr a thimau. Er enghraifft byddwn yn annog i gystadleuaeth gemau 7 bob ochr gael eu chwarae tua diwedd y tymor.

– Rygbi i blant bach a thimau iau – gemau wedi eu trefnu ar gyfer mis Medi. Fel y gemau i chwaraewyr hŷn, annogir seibiannau byr rheolaidd yn y tymor, er mwyn rheoli dychweliad graddol a pharhaus at ffitrwydd gemau wedi cyfnod hir heb rygbi.

– Bydd gemau a rheoliadau yn cael eu cyhoeddi yn y man (dynion a menywod hŷn ac thimau iau)

Cefnogaeth ariannol:

Yn unol a nod penodol Undeb Rygbi Cymru i gefnogi’r holl glybiau i ddod drwy’r cyfnod o ansicrwydd a achoswyd gan y pandemig mewn sefyllfa ariannol sefydlog, mae Bwrdd y Gêm Gymunedol hefyd wedi cytuno y bydd pob clwb yn derbyn yr un Taliad ar gyfer Datblygiad y Clwb yn nhymor 21/22 a dderbyniwyd yn ystod tymor 20/21, yn ogystal â’r Grant Craidd sydd wedi eu dynodi a’u cymeradwyo iddynt.

Dywedodd Cadeirydd URC Rob Butcher, “Wedi i ni ystyried pob ffactor ac wedi trafodaeth drylwyr, credwn mai’r strwythur yma ar gyfer y Gynghrair yw’r orau i’r clybiau yn ystod y tymor trosiannol yma.

“Rydym ni yn falch iawn o’r ffordd y mae gwirfoddolwyr yn ein clybiau, hybiau Menywod a thimau eraill wedi ymdopi â’r Llwybr at Gyfranogiad hyd yma. Credwn bydd y model yma ar gyfer tymor y Gynghrair, yn ogystal â chystadleuaeth y gwpan, yn darparu’r camau priodol nesaf tuag at ddychweliad diogel o’r gêm gymunedol yn ei chyfanrwydd.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr URC Steve Phillips, “Y clybiau yw calon y gêm yng Nghymru. Er ein bod yn hynod falch y bydd y Stadiwm Principality yn llawn ar gyfer gemau rhyngwladol yr Hydref, mae’n hanfodol fod hynny yn mynd law yn llaw ag ailgychwyn rygbi ar lawr gwlad. Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi ein clybiau oddi ar y cae yn ogystal ag arni, ac rydym yn gobeithio y bydd cynnal yr un taliadau Craidd a Datblygu yn rhoi sicrwydd i glybiau yn ariannol yn ystod cyfnod sy’n parhau yn ansicr.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol URC, “Rydym ni yn falch o allu symud ychydig yn gyflymach na’r disgwyl ar hyd ein Llwybr at Gyfranogiad, ac edrych ymlaen at ddychweliad rheolaidd o rygbi Cynghrair ym mhob lefel. Ein nod parhaus fel y gwnaethom nodi drwy gydol o broseos, yw i sicrhau dychweliad diogel a chynaliadwy at y gêm lawn a sicrhau fod ein clybiau mor iach a phosib ar ac oddi ar y cae wrth i ni ddod o’r pandemig. Rydym ni yn credu y bydd y mesurau yma yn helpu clybiau, gwirfoddolwyr a chwaraewyr i lwyddo i wneud hyn yn ystod y tymor.”

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert