Neidio i'r prif gynnwys

Penodi Jones yn brif hyfforddwr newydd RGC

Ceri Jones

Ceri Jones

Cyn brop rhyngwladol Cymru, Ceri Jones fydd Prif Hyfforddwr newydd RGC.

Rhannu:

Ar ôl cychwyn ei yrfa fel chwaraewr yng Nghasnewydd, daeth Jones i’r amlwg yn gyntaf ar ôl symud i chwarae i’r Harlequins yn Llundain yn 2003, lle roedd yn chwaraewr blaenllaw gan chwarae mwy na 230 o gemau a sgorio pedwar cais ar hugain.

Yn 2011 symudodd eto i chwarae i dim Worcester Warriors cyn gorfod rhoi’r gorau i chwarae yn dilyn anaf difrifol i weyllen ei ffêr. Ymunodd yn syth â thîm hyfforddi Caerwrangon yn arbenigo mewn hyfforddi’r sgrym cyn symud yn ôl i fro ei febyd i ymuno a’r Dreigiau, yn wreiddiol fel hyfforddwr y blaenwyr cyn cymryd y cyfrifoldeb o fod yn brif hyfforddwr y rhanbarth dros dro.

Meddai Jones wrth gychwyn ar y swydd, “Mi rydw i wrth fy modd bod yma ac yn methu aros cyn dechrau gweithio efo’r hogia’ go-iawn. Mae potensial RGC yn aruthrol. Mae’n ardal enfawr a’r niferoedd o bobl sy’n chwarae rygbi yn prysur dyfu. Wrth gyfuno hyn a’r cyfleusterau penigamp sydd i’w cael ym Mharc Eirias, waeth i ni ddweud bod gogledd Cymru yn rhanbarth cyfa’ ym mhob peth ond enw.”

Bydd Jones ym Mharc Eirias am y gem gyfeillgar yn erbyn Caldy nos yfory (Nos Wener, 7yh, tocynnau ar gael ar y gât.
Ychwanegodd: “Rwyf eisoes wedi enill ar y cyfle i wylio’r chwaraewyr yn ymarfer ac mae’r tîm yn berwi o dalent. Mae’r garfan yn ifanc a’m mwriad i yw cryfhau’r academi er mwyn hwyluso llwybr i chwaraewyr lleol gynrychioli RGC, y timau cenedlaethol yn ôl oedran a’r tîm cenedlaethol llawn maes o law.”

Roedd Alun Pritchard, rheolwr cyffredinol RGC yn uchel ei glôd o’r hyfforddwr newydd.”Mae’r ffaith fod Ceri wedi hyfforddi timau blaenllaw megis Caerwrangon a’r Dreigiau eisoes yn dystiolaeth o’i ansawdd fel hyfforddwr. Mae’n briodas berffaith gyda’n tîm hyfforddi presennol ac rwy’n edrych ymlaen i gydweitio’n agos â Ceri wrth i RGC ymdrechu tua’r brig”

Ychwanegodd Pennaeth Cyfranogi URC, Geraint John: “Diben y swydd ydi cefnogi datblygiad chwaraewyr o 16eg oed a sydd yn yr academi rhanbarthol.

Diolchodd hefyd am gefnogaeth y clybiau rygbi ar hyd a lled gogledd Cymru ac am gefnogaeth barhaol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Meddai, “mae’r apwyntiad yn sicrhau gwell dilyniant rhwng yr academi â thim cyntaf RGC. Mae nifer o hyfforddwyr yr academi yn chwarae i RGC a bydd y ffaith mai Ceri yw’r prif hyfforddwr ar y tîm yn synhwyrol.”

“Mae gogledd Cymru yn ranbarth datblygu bwysig i Undeb Rygbi Cymru a’n bwriad yw datblygu’r gem ar y maes chwarae ac oddi arno. Rydym yn ffodus cael rhywun o safon Ceri i ddilyn yn ôl traed cyn-hyfforddwyr megis Phil Davies a Mark Jones.

“Mae Ceri eisoes wedi datblygu chwaraewyr gyda’r Dreigiau ac yng Nghaerwrangon a bydd ei apwyntiad yn gaffaeliad i ddenu chwaraewyr o bob cwr o ogledd Cymru. Bydd yn siwr o ddenu hyfforddwyr hefyd.

“Mae’n gyfarwydd â’r Uwch Adran a’r timau sy’n chwarae ynddi ar ôl cael cryn lwyddiant gyda Glyn Ebwy. Rydym yn hyderus y bydd yn medru datblygu chwaraewyr safonol o fewn yr Uwch Adran ar ran Gogledd Cymru.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert