Neidio i'r prif gynnwys

Phillips yn dychwelyd i’w wreiddiau yn Hendy-Gwyn ar Daf

Mike Phillips

Mike Phillips yn chwarae dros Hendy-gwyn ar Daf yn erbyn Aberystwyth

Daeth Mike Phillips, cyn-fewnwr Cymru a’r Llewod, allan o’i ymddeoliad am un gêm yn unig wrth iddo chwarae i’w gyn-glwb Hendy-gwyn ar Daf yn eu buddugoliaeth o 26-17 dros Aberystwyth

Rhannu:

Gwelodd gêm Plât Undeb Rygbi Cymru ym Mharc Llwyn Ty Gwyn gannoedd o gefnogwyr yn dod allan i weld eu harwr yn dychwelyd i’r maes.

Dros gyfnod o 16 mlynedd, cafodd y gŵr 39 oed yrfa ddisglair iawn fel chwaraewr, lle enillodd 94 o gapiau i Gymru a chwarae mewn pum gêm brawf i’r Llewod.

Chwaraeodd hefyd i Gaerdydd, y Gweilch, Scarlets, Sale, Racing 92 a Bayonne.

Ond y clwb lle dechreuodd ei yrfa fel bachgen ifanc hawliodd ei sylw ddydd Sadwrn, a gwnaeth ddigon i helpu ei dîm i gipio’r fuddugoliaeth a olygai’r byd iddo.

“Roedd yn braf bod yn ôl,” meddai Phillips ar ôl y gêm.

“Roedd hi’n gêm fawr ac yn berfformiad mawr gan y bois.

“I fod yn deg, roedd lefel sgiliau’r bois yn drawiadol iawn.

“Roeddwn i’n ceisio osgoi taclo cymaint ag y gallwn ond eto, roedd adegau pan oeddwn i’n meddwl fy mod i’n 19 oed eto ac yn ffeindio fy hun yn mynd dros ben llestri!

“Roedd y coesau’n teimlo’n dda. Rydw i wedi bod yn gwneud cryn dipyn o ymarfer, ond sioc yr ergydion yn y taclo ddaru fy nharo i fwyaf. Mae gen i ffydd yn fy ngallu pob tro!

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert