Neidio i'r prif gynnwys

Cystadleuaeth Urdd WRU 7s yn agored i bawb

Urdd WRU 7s

Lawnsiad cystadleuaeth 7 bob ochr Urdd WRU. Nigel Owens, Dawn Bawden AS, Elinor Snowsill, Sian Lewis Prif Weithredwraig yr Urdd a Tom Caple, capten CAVC, pencampwyr 2019

Heddiw (Mercher, 16 Chwefror 2022) yn Stadiwm y Principality yn lansiad Twrnamaint Rygbi 7 Bob Ochr Urdd WRU, cyhoeddwyd y bydd elfen ryngwladol yn perthyn i’r gystadleuaeth am y tro cyntaf erioed.

Rhannu:

Dyma’r gystadleuaeth rygbi mwyaf o’i math yng Nghymru, ac mae’r ŵyl gwbl gynhwysol yn cynnwys categorïau anghenion arbennig ynglyn a chystadlaethau i ferched a fechgyn. Yn arbennig i ddathlu blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd eleni, bydd timau o’r gwledydd sydd ynghlwm â’r Chwe Gwlad hefyd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.

Cynhelir y twrnamaint genedlaethol ar gaeau chwarae Pontcanna a Llandaf yng Nghaerdydd rhwng 4-8 Ebrill 2022, a’r twrnamaint rhyngwladol ym Mharc yr Arfau ar benwythnos 9-10 Ebrill. Disgwylir y bydd dros 100 o ysgolion a cholegau, 400 tîm a 5,000 o chwaraewyr yn cymryd rhan.

Mae’r twrnamaint yn gwahodd timau merched i gymryd rhan, categori sy’n tyfu mewn poblogrwydd yn flynyddol. Eleni, bydd tîm Merched Cymru hefyd yn chwarae eu gemau cartref ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched yng Nghaerdydd ar 2, 22 a 30 Ebrill.

Bydd gŵyl rygbi i blant a phobl ifanc o ysgolion Anghenion Arbennig yn cael ei chynnwys yn y twrnamaint, ble bydd cyfle i ddisgyblion uwchradd a chynradd Ysgolion AA i chwarae gemau TAG a dysgu sgiliau newydd. Bydd Undeb Rygbi Cymru hefyd yn gwahodd disgyblion ysgolion cynradd lleol i gael profiad o chwarae rygbi Cadair Olwyn gyda sesiynau blasu yn cael eu cynnal ar ddydd Iau yr ŵyl.
Mae’r bartneriaeth rhwng yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru yn eu galluogi i gyflawni nodau allweddol trwy gynyddu’r nifer sy’n chwarae’r gêm a datblygu sgiliau wrth annog y defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol.

Mae’r gwaith o gynnal eu prosiect etifeddiaeth yn parhau drwy gydol y flwyddyn er mwyn cynnal sesiynau rygbi mewn ardaloedd difreintiedig, gan gynnwys eu Prosiect Gwaddol, sy’n cynnig sesiynau blasu rhad ac am ddim am 18 wythnos o fewn tair ardal yng Nghaerdydd: Grangetown, Trelái a Thremorfa.

Cynhaliwyd lansiad heddiw yng nghwmni Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip Dawn Bowden AS, Geraint John Cyfarwyddwr Rygbi Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Siân Lewis Prif Weithredwr yr Urdd, a’r cyn-ddyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens ynghyd â’r chwaraewr rhyngwladol proffesiynol Elinor Snowsill.

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Mae ein partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru yn parhau i ffynnu wrth i ni weithio ar ddatblygu ac ehangu’r ddarpariaeth a’r profiad. Mae rygbi yn gêm i bawb ac rydym yn arbennig o falch fod plant a phobl ifanc sydd ag anableddau yn rhan o ddigwyddiad 2022, ynghyd â’r cynlluniau i gynnwys elfen ryngwladol ar benwythnos yr ŵyl.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru am barhau i weithio mewn partneriaeth gyda dros 100 o ysgolion er mwyn cynnal digwyddiad sy’n cynnwys miloedd o blant ar hyd a lled y wlad. Yn ogystal â chynnig elfen ryngwladol, rwy hefyd yn falch iawn o glywed y bydd gŵyl rygbi i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau yn dychwelyd unwaith eto eleni – mae rygbi, yn ei amrywiol ffurf, yn gamp i bawb.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyfrannu’n ariannol tuag at y digwyddiad cynhwysol hwn sy’n rhoi cyfle a llwyfan i bobl ifanc i fynegi eu doniau a’u galluoedd. Dymunaf bob lwc i bawb sy’n rhan o’r digwyddiad ac unwaith eto, diolch diffuant i’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru am eu gwaith caled wrth drefnu’r digwyddiad.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John: “Mae ein partneriaeth â’r Urdd yn un rydym yn ei thrysori. Yr un yw ein nod, sef defnyddio rygbi i wneud gwahaniaeth i bob cymuned yng Nghymru – ac i fod yn gynhwysol o bob person ifanc yn y cymunedau rheiny. Mae’r pandemig wedi effeithio pobl ifanc yn arbennig ac mae’n wych gweld eu hawydd i ddod at ei gilydd a chystadlu eto nawr fod hynny’n bosib. Edrychwn ymlaen at wahodd timau o wledydd eraill y Chwe Gwlad i fod yn rhan o Rygbi 7 Bob Ochr Urdd WRU ac rydym hefyd yn hynod falch o’r modd mae’r bartneriaeth yn ein helpu i adeiladu arweinwyr drwy ein rhaglenni prentisiaeth.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert