Neidio i'r prif gynnwys

Gwobrau ‘Diolch’ i gydnabod gwirfoddolwyr cymunedol

Community flag bearer

Paul Davies of Llanelli Wanderers leads Wales out against Georgia

Mae gwirfoddolwyr yn hollbwysig i lwyddiant ein gêm gymunedol yng Nghymru. Rydym yn lansio gwobrau Diolch i gydnabod gwirfoddolwyr cymunedol  a diolch i’r bobl hynny yn ein cymunedau sy’n rhoi o’u hamser yn anhunanol i gefnogi chwarae, cymryd rhan a’n safleoedd.

Rhannu:

Meddai Angharad Collins, Pennaeth Lleoedd Undeb Rygbi Cymru, “Mae llawer iawn o wirfoddolwyr yn rhan o’r gêm gymunedol ac ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf a’r ffaith mai hon yw ein tymor llawn cyntaf yn ôl yn chwarae rygbi cymunedol, roeddem am gydnabod, dathlu a diolch am yr oriau diddiwedd y mae ein gwirfoddolwyr gwych yn eu rhoi.  Mae ein Tîm Datblygu Clybiau yn barod i dderbyn enwebiadau ac mae’r broses enwebu yn syml iawn, drwy e-bostio clubdevelopment@wru.cymru. Fel arall, gallwch siarad ag un o’n Swyddogion Datblygu Clybiau a all fynd â’ch enwebiad ymlaen!”

Dywedodd Geraint John Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, “Rydym yn edrych ymlaen at fynd o gwmpas Cymru yn cyflwyno gwobrau “Diolch” i roi ychydig o gydnabyddiaeth am y gefnogaeth mae gwirfoddolwyr wedi ei rhoi i’n gêm gymunedol.  Mae ein gêm yn llawer cyfoethocach oherwydd yr hyn y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi  rhagor o ddigwyddiadau cydnabod gwirfoddolwyr trwy gydol y Tymor hwn”.

Beth bynnag yw’r rôl yn y Gêm Gymunedol, mae’r tîm Datblygu Clybiau yn awyddus i gael cymaint o enwebiadau â phosib.  Mae hon yn ymgyrch barhaus a bydd yn rhedeg drwy gydol y Tymor. Mae’r enwebiadau bellach ar agor. Anfonwch e-bost at clubdevelopment@wru.wales a bydd un o’n tîm mewn cysylltiad.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert