Neidio i'r prif gynnwys

Lansio adnodd ar-lein Dysgu WRU

Lansio adnodd ar-lein Dysgu WRU

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi lansio DYSGU WRU – platfform adnoddau ar-lein am ddim ar gyfe clybiau rygbi ledled Cymru.

Rhannu:

Mae’r adnodd ar-lein eisoes yn weithredol ac ar gael i bob clwb rygbi, gyda’r nod o addysgu a hysbysu aelodau mewn ffordd a fydd yn galluogi clybiau a’u hadeiladau i ffynnu.

Mae Dysgu WRU yn adnodd rhad ac am ddim i bob clwb rygbi.
Bydd gweminarau’n cael eu cyflwyno gan arbenigwyr yn y diwydiant ar ystod o bynciau sydd wedi’u nodi fel meysydd sy’n haeddu sylw fel blaenoriaeth ar gyfer Clybiau Rygbi yng Nghymru.

Gall clybiau, eu gwirfoddolwyr a’u staff gofrestru ar gyfer amrywiaeth o’r seminarau ar ystod eang o bynciau sy’n cynnwys addysg am gyllid fel ‘Cyflwyniad i TAW’ a chanllawiau ar faterion eraill o ‘Ymgysylltu â Chymunedau Amrywiol’ i ‘Glwb sy’n darparu’n gadarnhaol ar gyfer anghenion mislif.’

“Mae clybiau rygbi ar draws Cymru wrth galon eu cymunedau” meddai Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John.

“Rydyn ni’n gwybod bod clybiau da yn cyfrannu’n fawr at eu cymuned ac, er mai rygbi sydd wrth wraidd prif weithgareddau pob clwb, mae’n rhaid iddynt addasu i adlewyrchu anghenion amrywiol y cymunedau y maen nhw’n rhan mor allweddol ohonynt. Mae’n cymunedau yn newid ac felly mae’n rhaid i’n clybiau fod ar flaen y gad.

“Mae’n hanfodol bod clybiau rygbi’n llefydd croesawgar a chynnes ac yn darparu ar gyfer anghenion gwahanol rannau o’r gymuned leol.

“Mae ein egwyddor o ‘grys i bawb’ – sef bod lle i bawb o’n cymunedau yn rhan o’r teulu rygbi –  yr un mor bwysig nawr ag y bu erioed. Gall hyn arwain at ennyn diddordeb mwy o bobl a gwirfoddolwyr yn y gamp ar bob lefel ac o bob gallu.

“Ein huchelgais yw sicrhau bod rygbi yn parhau i ffynnu ledled Cymru – ac mae hyn yn dechrau gyda chroeso bywiog erth gamu drwy’r drysau. Rydym am i bob clwb rygbi gyrraedd ei lawn botensial. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod drysau ein clybiau ar agor led y pen i’w cymunedau lleol a gallwn fel Undeb helpu’r broses hon trwy gymorth ymarferol ac addysgu.

“Mae DYSGU WRU wedi bod ar y gweill ers dros 10 mis bellach a hoffwn ddiolch i arbenigwyr annibynnol y diwydiant am weithio gyda ni i ddatblygu a theilwra pob gweminar.

“Mae LooseHeadz, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Cymunedau Digidol Cymru, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru wedi bod yn hynod gefnogol i’n helpu i ddatblygu’r rhaglen. Rwy’n falch iawn ein bod, o’r diwedd, bellach mewn sefyllfa i gynnig yr adnoddau gwych hyn, yn rhad ac am ddim i glybiau rygbi ledled Cymru.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru Dawn Bowden, oedd yn bresennol yn yn lansiad yng Nghlwb Rygbi’r Hen Benarthiaid (Old Penarthians): “Bydd Dysgu WRU yn gwneud clybiau rygbi ledled Cymru yn fwy cynhwysol ac yn sicrhau bod ganddyn nhw’r offer, y wybodaeth a’r gallu i groesawu pobl o bob lefel i’r gamp.

“Mae mentrau fel hyn yn hanfodol i sicrhau bod clybiau’n parhau i fod wrth galon eu cymunedau ac yn gallu diwallu anghenion y rhai sy’n eu defnyddio.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld hyn yn hyrwyddo’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rygbi yng Nghymru.”

Ar gyfer pob seminar y mae clwb rygbi yn ei fynychu, bydd URC yn darparu ‘bathodyn’ y gall y clwb neu’r unigolyn ei ddefnyddio ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gadarnhau eu bod wedi cwblhau hyfforddiant DYSGU WRU mewn maes penodol.

Law yn llaw â lansiad Dysgu WRU, bydd adran gymunedol URC yn cyflwyno teclyn hunanasesu sydd ar gael i bob clwb – sy’n galluogi pwyllgorau i asesu eu hunain yn erbyn cyfres o feini prawf llywodraethiant – megis chwarae, cydymffurfiaeth a diwylliant.

“Mae hwn yn gyfle gwych i glybiau ymgysylltu ar draws nifer o feysydd gwaith allweddol fydd yn eu cefnogi i ddod yn hybiau cymunedol y dyfodol mewn ffordd sy’n gynaliadwy ac sy’n ychwanegu gwerth tymor hir,” ychwanegodd Geraint John.

Gall clybiau rygbi ymuno â llwyfan DYSGU URC yma.

Bydd y platfform ar gael yn Gymraeg a Saesneg gyda seminarau pellach i’w hychwanegu dros y misoedd nesaf.

Dyma rai o’r modiwlau sydd eisoes ar gael:
– Deall rhagfarn anymwybodol
– Mynd i’r afael â hiliaeth
– Ymgysylltu â chymunedau amrywiol
– Cyflwyniad i TAW
– Sut i wneud eich clwb yn fwy croesawgar i ferched a menywod
– Creu clwb sy’n darparu’n gadarnhaol ar gyfer anghenion mislif
– Creu clwb positif sy’n darparu’n gadarnhao ar gyfer anghenion menopos
– Llywodraethiant da yn eich clwb
– Creu cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ar gyfer eich clwb
– Iechyd a diogelwch yn eich clwb
– Cynnal cyfarfodydd mewnol effeithlon
– Prosiectau clwb a chyfleusterau – materion TAW i’w hystyried
– Recriwtio a chadw gwirfoddolwyr yn eich clwb
– Cyfryngau cymdeithasol i glybiau

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert