Neidio i'r prif gynnwys

Neges North i Goleg Llanymddyfri cyn eu ffeinal fawr

Neges North i Goleg Llanymddyfri cyn eu ffeinal fawr

George North yn ystod ei ddyddiau yng Ngholeg Llanymddyfri

Mae un o arwyr Cymru ar y llwyfan rhyngwladol George North wedi dangos ei gefnogaeth i’w gyn goleg yn Llanymddyfri, wrth iddynt baratoi i chwarae yn Rownd Derfynol Cynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru (6/12/23 – 19.30 – Yn fyw ar @S4CRygbi)

Rhannu:

Cyhoeddodd George North yr wythnos hon ei fod am ymuno gyda chlwb Provence yn Ffrainc dros yr haf pan fydd yn ymuno gyda’i gyd-Gymro Tomas Francis yno.

Bydd Coleg Llanymddyfri yn herio Ysgol Gymraeg Glantaf yn y Rownd Derfynol yn Stadiwm Principality – maes sy’n hynod o gyfarwydd i George North wrth gwrs.

Enillodd y cyntaf o’i 118 o gapiau ar y maes hwnnw yn erbyn De Affrica yn 2010. Fe sgoriodd North oedd ond yn ddeunaw oed ar y pryd ddau gais yn ystod y gêm.

Mae North yn un o bum Cymro’n unig i chwarae mewn 4 Cwpan y Byd.

Mae George North yn ymwybodol iawn o’r cyfraniad wnaeth y coleg i’w ddatblygiad fel chwaraewr rygbi ac fel unigolyn hefyd:

“Mae gennyf atgofion melys iawn am fy amser yn Llanymddyfri.

“Dwi’n cofio pa mor hardd ydi’r lle a’r ffaith bod Tredegar – cae rygbi y tîm cyntaf – reit yng nghanol adeiladau’r campws

“Roedd pawb yn y coleg yn hynod o falch o’r tîm rygbi ac yn angerddol yn eu cefnogaeth hefyd.’Roedd pawb yn dod i wylio’r gemau cartref oedd yn wych.

“Oes oeddech yn chwarae i’r tîm cyntaf yn erbyn yr hen elyn Aberhonddu – ‘roeddech yn haeddu eich sannau coch arbennig. ‘Roedd hynny’n grêt.

“Ro’n i’n caru fy nghyfnod yng Ngholeg Llanymddyfri a’r ffrindiau wnes i yn ystod y cyfnod hwnnw. Wrth fyw yn y coleg – fe wnes i ffindiau am oes – pobl sydd yn dal yn agos iawn ataf hyd heddiw.

“Pob lwc i Goleg Llanymddyfri yn erbyn Glantaf yn y Ffeinal.

“Chwaraewch yn dda, mwynhech yr achlysur ac ewch amdani bois!”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert