Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad statws

Diweddariad Statws

Pan gefais i’r anrhydedd o gael fy ethol yn Gadeirydd URC ychydig wythnosau’n ol, bues i’n meddwl tipyn sut y byddwn yn cysylltu gyntaf gyda’r clybiau. Sut y byddwn yn amlinellu fy ngweledigaeth am y dyfodol; yn ceisio cael pawb i gyd weithio – i anelu at yr un nod; yn ceisio ysgogi, ysbrydoli,calonogi a chynghori.

Rhannu:

Ond yna sylweddoli nad y math yna o beth yn unig y mae’r clybiau am ei glywed gen i
 Y peth pwysica y galla i ei roi i’r clybie yw ffordd glir i gysylltu. Clust barod i wrando, bod yn barod i weithio’n ddi-flino i wireddu uchelgais a gobeithion pob agwedd o rygbi Cymru ac adrodd yn ol pan fydd pethau yn symud yn eu blaen.

I roi manylion am y cynlluniau ar gyfer y dyfodol a gwneud yn siwr bod yr holl glybiau a phawb arall sydd yn rhan o’n gem genedlaethol yn ymwybodol o’r hyn sydd yn digwydd , boed y rheini’n chwaraewyr , hyfforddwyr, gweinyddwyr,dyfarnwyr, partneriaid , noddwyr, darlledwyr, perchnogion tocynnau tymor a’r cefnogwyr ffyddlo
Bydda i’n cadeirio cyfarfodydd y Bwrdd, yn cwestiynnu, archwilio a chadw golwg ar ein staff gweithredol, a chyda chymorth fy nghyd- aelodau ar y Bwrdd, yn cymerdwyo’n strategaeth fusnes.

Ond y peth pwysicaf i fi fydd gwneud yn siwr eich bod chi – y clybiau – gyda ni ar hyd y daith wrth i ni geisio datblygu a chryfhau rygbi Cymru 
Ac wrth grybwyll hyn  – rhaid rhoi clod lle mae’n ddyledus
Dros yr wythnosau diwetha bu’n achos clasurol o “haws dweud na gwneud”.

Unwaith oedd yna awgrym falle y bydden ni’n ffarwelio a Wayne Pivac ar ol cwblhau archwiliad trylwyr o Gyfres yr Hydref , roedd yn ymddangos bod y cam nesa’n amlwg i bawb bron. Dod nol a Warren Gatland!

Hyfforddwr mwya hir hoedlog a llwyddiannus rygbi Cymru.

Bu yng Nghaerdydd yn ddiweddar yn darlledu ar gemau’r Hydref . Mae’n dal yn feistr yn ei faes . Yn ol y sibrydion roedd mwy nag un wlad am ei ddenu , ond roedd dan gytundeb i’r Chiefs yn Seland Newydd , ond does bosib nad oedd modd goresgyn y broblem honno.

A dyna wnaethpwyd , ac yn sgil holl waith called ein tim gweithredol yma , dan arweiniad y Prif Weithredwr Steve Phillips a’r pennaeth perfformiad , Nigel Walker, fe seliwyd y cytundeb iddo ail ddychwelyd i Gymru – dim ond mewn pryd yn ol y son!

Tipyn o gamp! Ie – llwyddiant i rygbi Cymru ac rydyn ni’n ffyddiog y bydd penodiad Warren Gatland yn talu ar ei ganfed yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae llwyddiant ar y maes rhyngwladol yn treiddio trwodd at y gem yn gyffredinol , yn denu mwy i chware’r gem a rhoi gwen ar wyneb ffyddloniaid y gem gymunedol ac yn cael effaith uniongyrchol ar ddiwylliant,  gallu a hyder ein timoedd proffesiynol
.

Mae’n disgwyliadau’n uchel – mae hynny’n wir hefyd am Warren ei hunan. Fy hoff sylw ganddo’r wythnos hon oedd pan ofynwyd iddo a oedd yn credu y byddai ei waddol i rygbi Cymru – tair Camp Lawn , un Bencampwriaeth a chyrraedd rownd gyn derfynol Cwpan y Byd ddwywaith dros gyfnod o 12 mlynedd nawr dan fygythiad  – dyma’i ateb “ Wrth gwrs – dyna ran fawr o’r apel !”
Mae sawl her yn ein haros , ond fe wynebwn hwy i gyd gyda’n gilydd . Fe lwyddwn gyda’n gilydd.

Yr eiddoch – mewn rygbi

Ieuan Evans

Cadeirydd URC

Cynllun Ynni

Diolch i’r holl glybiau sydd wedi datgan eu diddordeb i ymuno a’r Cynllun Ynni newydd . Byddwn yn cysylltu gyda chi yn y Flwyddyn Newydd i drafod y camau nesaf Os oes gennych unrhyw gwestiynnau yna danfonwch e bost at dim Datblygu’r Clybiau – clubdevelopment@wru.wales

DYDD Y FARN YN DYCHWELYD

Bydd Dydd y Farn yn dychwelyd i Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn Ebrill 22ain pan fydd ser ein gem ranbarthol yn mynd ben ben â’i gilydd ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT Bydd y Gweilch yn wynebu Rygbi Caerdydd ac yna’r Scarlets yn herio’r Dreigiau

Bydd tocynnau rhad ar gael am £10 I’r rhai dan 16 oed , ac am y tro cyntaf tocynnau rhatach hefyd am £15 i’r rheini dros 65. Mae tocynnau oedolion yn dechre ar £25 sy’n golygu y gall teulu o bedwar fwynhau diwrnod o wylio dwy gem ranbarthol , gyffrous , y nail ar ol y llall , am £70

Bydd tocynnau ar werth i’r cyhoedd o heddi ymlaen , Rhagfyr 14 eg , – anrheg delfrydol ar gyfer y ‘Dolig !

Mwy:
Tocynnau:

Newyddion y Clybiau Rygbi
 
MANDERS YN GADEIRYDD NEWYDD BWRDD Y GEM GYMUNEDOL

Mae’r penodiad hwn yn golygu bod John Manders hefyd yn ymuno a Bwrdd URC

Yn ogystal ail etholwyd Anthony Buchanan a Colin Wilks i’r Bwrdd ar ol pleidlais ar ddiwedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Mwy:

BUCHANAN YN IS-GADEIRYDD NEWYDD URC

Cafodd Anthony Buchanan ei ethol yn is-gadeirydd URC. Mae’n dechre’n syth yn y swydd gan olynu Ieuan Evans

EVANS YN GADEIRYDD NEWYDD URC

Penodwyd Ieuan Evans yn gadeirydd URC.

Mae’r cyn asgellwr disglair dros Gymru a’r Llewod, sy hefyd yn gadeirydd Bwrdd y Llewod , yn cymryd drosodd oddi wrth Rob Butcher fu wrth y llyw am ddwy flynedd cyn rhoi’r gorau iddi ar ol Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ( CCB) 2022

Mae Ieuan yn olynu’r cadeirydd cyntaf , Vernon Pugh QC , Glanmor Griffiths , David Pickering, Gareth Davies a Butcher yn chweched cadeirydd ers 1993.

Fe gafodd y pennaeth newydd ei ethol yn aelod o’r cyngor cenedlaethol yn 2020

Mwy

ANGEN ENWEBIADAU AR GYFER GWOBR DIOLCH

Rydym yn lawnsio gwobr “Diolch”i Wirfoddolwr Cymunedol i ddiolch i’r rheini sy wrth galon y gem gymunedol ac yn rhoi o’u hamser a’u hegni i annog pobl i chware ac i gefnogi pobl ac ardaloedd er budd rygbi Cymru

Mae tim Datblygu’r Clybiau yn awyddus i gael cymaint a phosib o enwebiadau.Bydd yr ymgyrch hon yn parhau drwy gydol y tymor . Cysylltwch nawr gyda’ch enwebiadau drwy e bostio clubdevelopment@wru.wales/ neu drwy siarad gydag un o swyddogion Datblygu’r Clybiau fydd yn derbyn yr enwebiad

Mwy

CHWIFIO’R FANER DROS Y CLYBIAU

Ryan Jones o dim Ieuenctid Glyn Ebwy a Sarah Bennett o Adran M& J St Alban’s gafodd yr anrhydedd o arwain timoedd Cymru ac Awstralia i’r maes brynhawn Sadwrn , gan gau pen y mwdwl ar Hydref o gydnabod cyfraniad y fyddin o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddi-flino i gynnal y gem gymunedol yng Nghymru. Y Sadwrn blaenorol Paul Davies o Grwydriaid Llanelli a Leon Welsby o’r Pil oedd arweinwyr Cymru a Georgia.

Tyrone Davies o Fleur de Lys a Liam McKay gariodd y faner i Gymru a Seland Newydd yn gem agoriadol y gyfres, a Tony Parry o’r Bala a Carl Thompson y Gellifedw gafodd y fraint ar gyfer gem Ariannin – pob un ohonyn nhw’n deilwng o’r anrhydedd

Mwy

COFIO CHARLIE PRITCHARD

Daeth cyfle i ddathlu bywyd Charlie Pritchard, Casnewydd, un o arwyr tim Cymru a gurodd y Cryse Duon ym 1905 mewn cyfarfod coffa yn Eglwys Gadeiriol Sant Woolos yng Nghasnewydd ym Mis Tachwedd.

Roedd yn un o’r chwaraewyr gore erioed i gynrychioli Casnewydd – 219 o gemau mewn 11 tymor, a 14 o gapie dros Gymru. Roedd e’n flaenwr cadarn yn nhymor y Goron Driphlyg ym 1905 ac yn y tymor cynta pan enillwyd y Gamp Lawn ym 1908.

Mae’r hyn gyflawnodd Charles Pritchard yn ei fywyd, ar y maes rygbi ac ar faes y gad, pan gollodd ei fywyd yn y Rhyfel yn stori y dylsai pawb ei chlywed a bod yn falch ohoni.

Mwy

Rhagor o newyddion rygbi

GATLAND YN AWCHU AM GAEL DECHRE – ETO!

Mae Warren Gatland nol ac ar dan eisie dechre eto fel prif hyfforddwr Cymru.

Dyna neges bendant yr hyfforddwr sydd eisioes wedi arwain Cymru at dair Camp Lawn yn ei gynhadledd gyntaf i’r wasg ers cytuno i gymryd at yr awenau o ddwylo Wayne Pivac ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesa. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud ar sawl pwnc, gan ddechre drwy dalu teyrnged i’w ragflaenydd.

Darllenwch Neu gwrandewch eich hunan yma

HAWKINS YN PWYSO A MESUR EI GAP CYNTAF

Mae canolwr ifanc y Gweilch, Joe Hawkins, yn edrych nol ar ennill ei gap cyntaf yn erbyn Awstralia yng Nghyfres yr Hydref yn Stadiwm Principality.

Fideo:

CAPTEN MERCHED CYMRU’N YMDDEOL

Cyhoeddodd Siwan Lillicrap ei bod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol. Enillodd 51o gapie ym mhump ol y sgrym a bu’n gapten ar garfan Merched Cymru ers2019 gan chware rhan allweddol yn y trafodaethau arweiniodd at gael carfan broffesiynol ers y llynedd.

Mwy

COFIO:  JOHN RYAN

Bu farw John Ryan, y cynta oedd heb ennill cap rhyngwladol i ddod yn Hyfforddwr ar dim Cenedlaethol Cymru,  ym MisTachwedd yn 83 oed. Fe gymrodd drosodd oddi wrth Tony Gray am naw gem rhwng 1998-1990, ond yna ymddiswyddo ar ol i Gymru golli o record o sgor, 34-6, yn Nhwickenham ym 1990. Fe’i olynwyd gan Ron Waldron

Rhagor

COFIO :  BOBBY WANBON

Bu farw Bobby Wanbon ,a chwaraeodd rygbi’r Undeb a’r Gynghrair dros Gymru, ym Mis Tachwedd ychydig ddyddie cyn ei ben-blwydd yn 79 oed. Roedd yn wythwr dawnus dros Abearafan rhwng 1964-68 cyn ei throi hi am y Gogledd ac ymuno a thim rygbi 13 St Helen’s . Yn hynod , enillodd ei gap cynta dros Gymru yn yr Undeb a’r Gynghrair yn yr un flwyddyn yn erbyn Lloeger , gan sgori cais yn ei unig gem dros dim yr Undeb yn Nhwickenham .

Rhagor

Sylwadau’r Prif Weithredwr

Ble mae dyn yn dechre?!

Rhoi croeso cynnes i Ieuan Evans, gorfoleddu bod Warren Gatland wedi dychwelyd neu ddathlu’r cytundeb ar lafar o chwe blynedd y mae’r PRB wedi ei gyrraedd i sicrhau dyfodol y gem broffesiynol yng Nghymru?

Yn sicir , mae’n benbleth i’w chroesawu!

Fe ddechreuaf gyda’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol – y PRB. Bwriad y cytundeb hwn, pan gaiff ei arwyddo, yw sicrhau llwyddiant parhaol i’r gem broffesiynol yng Nghymru- llwyddiant fydd, fel y mae Ieuan yn ei awgrymu, yn treiddio trwodd at bob agwedd o’r gem drwy’r wlad. Nid anelu at ddyfodol ariannol diddyled yn unig, ond hefyd creu sylfaen gadarn i adeiladu – ac adeiladu sydd raid! Yn bendant, mae’r gwaith caled yn dechre nawr, ond rwy’n falch o gael dweud bod y seiliau eisioes yn eu lle. Mae’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol wedi sicrhau hynny, ac fe hoffwn ddiolch yn bersonol i’r cadeirydd annibynnol, Malcolm Wall, am ei amser, ei amynedd, ei graffter a’i frwdfrydedd yn y trafodaethau gan ddod a’r pedwar rhanbarth proffesiynol ac URC i’r pwynt hwn.

Rwy’n gwybod ei bod yn dal yn rhwystredig bod yna oedi cyn y gellir troi’r cytundeb ar lafar yn gytundeb terfynol, wrth i’r dogfennau cyfreithiol gael eu ffurfio, ond cyhyd a bod pawb yn cydymffurfio gyda’r cytundeb llafar, rydyn ni’n camu ymlaen er mwyn sicrhau bod y broses yn effeithiol. Rydyn ni wedi cwrdd a chynrychiolwyr Chwaraewyr Proffesiynol Cymru (PRB), a nawr mae’r system yn ei lle fydd yn ein galluogi i drafod cytundebau newydd i’r chwaraewyr. Yn y Flwyddyn Newydd bydd ein gem broffesiynol yn barod i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac mae’n dal mewn dwylo diogel.

Ac mae hynny’n dod a fi at ddwylo profiadol, diogel Warren Gatland fydd wrth y llyw yn llunio gweithgarwch prif dim rhyngwladol y dynion yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2023, ymlaen at Gwpan y Byd 2023 yn Ffrainc a thu hwnt.

Cyfarfod a drefnwyd rhwng dau gyn gyd weithiwr – dau hen ffrind – yng Nghwesty’r Parkgate yn Stryd Westgate oedd man cychwyn y drafodaeth a ddaeth a Warren nol i Gymru. Rydw i wedi adnabod Warren ers dechre’i gyfnod cyntaf yma yn 2007 ac rydyn ni wastad wedi dod o hyd i’r amser i osod busnes o’r neilltu a thrafod rygbi gyda’n gilydd. Fe wnaethom hynny eto yn yr Hydref ac ar ol cwblhau arolwg o gemau’r Hydref a dod i’r casgliad bod angen newid y prif hyfforddwr, fe lwyddais i ail gysylltu gydag e, ac, fel maen nhw’n dweud, mae’r gweddill yn hanes!

Gadawodd Wayne Pivac y swydd yn uchel ei barch gan bawb yn URC – o’r Bwrdd at y chwaraewyr , yr hyfforddwyr a’r staff o’i gwmpas, a dymunwn yn dda iddo yn y dyfodol. Dyn parchus iawn oedd yn gwbwl broffesiynol ac urddasol drwy gydol yr arolwg diweddar.

Yn olaf, dyma neges uniongyrchol at y clybiau. Rydyn ni’n ymwybodol o’r argyfwng costau byw, a bod hynny’n anodd dygymod ag e, yn enwedig yn dod mor gyflym ar ol y pandemig. Mae adran y gem gymunedol yn trafod yn gyson, yn chwilio am ffyrdd i helpu lle bo hynny’n bosib, ond cadwch i gysylltu gan nodi unrhyw broblemau neu geisiadau sydd gennych ar clubdevelopment@wru.wales

Rwy’n gwybod bod y tim yn gweithio’n galed ar ffyrdd i helpu gyda thaliadau tanwydd , ail drefnu gemau , a gwneud y defnydd gorau o’ch clybiau a’r caeau .

Edrychwn ymlaen at eich gweld nesa yn Stadiwm Principality ar gyfer Y Chwe Gwlad 2023; ein gemau paratoi yn erbyn Lloeger a De Affrica yn yr Haf; Dydd y Farn yn Ebrill pan fydd ser ein timoedd rhanbarthol yn mynd ben ben a’i gilydd mewn dwy gem, y naill ar ol y llall, neu yn nigwyddiadau Y Ffordd at y Principality pan fydd llawer ohonoch yn cystadlu.

Tan hynny , dymuniadau gore i chi i gyd am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd arbennig.

Steve Phillips
Prif Weithredwr URC

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert